Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Yma, cewch wybod wrth bwy y dylid cwyno ynghylch cwmnïau preifat a'r cyfryngau, a sut mae atal negeseuon e-bost a ffacs a galwadau ffôn nad ydych eu heisiau.
Mae gan nifer o ddiwydiannau eu cynlluniau ombwdsmon eu hunain neu gorff arall sy'n delio â chwynion. Mae'r rhain yn darparu ffyrdd annibynnol a diduedd o ddatrys anghydfodau y tu allan i'r llysoedd.
Mae pob cynllun ombwdsmon yn gweithio dan reolau ychydig yn wahanol ond, yn gyffredinol, ni fydd ombwdsmon yn ystyried cwyn onid yw'r sefydliad dan sylw wedi cael cyfle rhesymol i ddelio â'r gŵyn yn gyntaf.
Mae Cymdeithas Ombwdsmon Prydain ac Iwerddon yn darparu rhestr o bob un o'r cyrff hyn sy'n delio â chwynion, ynghyd â'u manylion cyswllt.
Mae Comisiwn Cwynion y Wasg yn gorff annibynnol sy'n ymdrin â chwynion gan y cyhoedd am gynnwys golygyddol papurau newydd a chylchgronau. Gall y cyhoedd ddefnyddio'r gwasanaeth am ddim ac mae'r Comisiwn yn anelu at ddelio â'r rhan fwyaf o gwynion mewn 32 diwrnod gwaith.
Mae'n rhaid i bob math o hysbysebion yn y DU gydymffurfio â Chodau rheoleiddio'r diwydiant. Corff annibynnol yw'r Awdurdod Safonau Hysbysebu ac fe'i sefydlwyd gan y diwydiant hysbysebu er mwyn sicrhau bod pob math o hysbysebu - lle bynnag mae'n ymddangos - yn cydymffurfio â'r rheolau sydd wedi'u nodi yn y Codau hyn, a bod yr hysbysebion yn gyfreithlon, yn weddus, yn onest ac yn gywir.
Gallwch gwyno wrth yr Awdurdod Safonau Hysbysebu:
Mae gan y BBC ei broses ei hun ar gyfer delio â chwynion am raglenni radio a theledu a ddarlledir ganddo. Fel arfer, bydd angen i chi wneud cwyn o fewn 12 wythnos i'r digwyddiad neu'r adeg y darlledwyd y rhaglen. Ceir ar wefan y BBC fanylion am y drefn gwyno lawn ac am God Ymarfer y BBC wrth ddelio â chwynion.
Ofcom – y rheolydd sy'n gyfrifol am gyfathrebu (teledu, radio, telathrebu a di-wifr) yn y Deyrnas Unedig – sy'n delio â chwynion am bob darlledwr (gan gynnwys y BBC). Gallwch hefyd ddefnyddio'u gwefan i weld manylion cyswllt ar gyfer darlledwyr penodol, os hoffech gwyno wrthynt yn uniongyrchol.
'Spam' yw'r enw cyffredinol a roddir ar negeseuon e-bost 'niwsans' - rhai y byddai'n well gennych chi hebddynt. Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn gorff annibynnol a sefydlwyd i hybu mynediad at wybodaeth gyhoeddus ac i ddiogelu gwybodaeth bersonol. Y corff hwn sy'n gyfrifol am atal spam rhag cael ei anfon. Mae gwefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn rhoi gwybodaeth gyffredinol ynghylch spam ac yn rhoi cyngor am y camau y gallwch eu cymryd er mwyn atal neu leihau spam.
Ceir cyfreithiau yng nghyswllt marchnata dros yr e-bost. Golyga hyn bod gennych chi hawliau preifatrwydd pan fydd cwmnïau'n prosesu ac yn rhannu data personol. Os ydych chi'n credu yr effeithiwyd arnoch gan fod rhywun wedi gweithredu'n groes i'r deddfau hynny, a bod eich manylion wedi cael eu defnyddio neu'u rhannu pan na ddylai hynny fod wedi digwydd, er enghraifft, dylech gysylltu â gwasanaeth cwynion Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Mae hyn yn rhoi hawl i chi ofyn i'r Comisiynydd roi ei bwerau gorfodol ar waith.
Mae'r 'gwasanaethau dewis' sy'n cael eu rhestru isod wedi'u sefydlu gan y diwydiant post uniongyrchol er mwyn galluogi defnyddwyr i ychwanegu eu henwau a'u cyfeiriadau cartref yn y DU at y rhestrau a ddefnyddir gan y diwydiant, neu dynnu eu henwau oddi arnynt. Gellir cofrestru gyda phob un ohonynt am ddim.
Post - gall y Gwasanaeth Dewis Post dynnu eich manylion oddi ar 95 y cant o restri post uniongyrchol. Ond ni fydd hyn yn atal post sydd wedi'i anfon o dramor, deunydd heb gyfeiriad na phost sydd wedi'i gyfeirio at 'Y Perchennog'. Fe allwch chi hefyd ddisgwyl parhau i dderbyn post gan gwmnïau os ydych chi wedi masnachu â hwy yn y gorffennol ac efallai y byddwch hefyd yn derbyn post gan gwmnïau bach, lleol.
Ffôn - mae'n anghyfreithlon i gwmnïau wneud galwadau marchnata 'oer' uniongyrchol i unigolion sydd wedi rhoi gwybod nad oes arnynt eisiau eu derbyn. Gallwch wneud hyn naill ai drwy gysylltu â'r cwmnïau'n uniongyrchol a gofyn iddynt beidio â'ch ffonio neu drwy roi eich manylion ar gofrestr ganolog y Gwasanaeth Dewis Galwadau Ffôn.
Ffacs - mae gwasanaeth tebyg ar gael i atal negeseuon ffacs digroeso - y Gwasanaeth Dewis Ffacs.
Bydd y Gofrestr Brofedigaethau yn tynnu enwau a chyfeiriadau pobl sydd wedi marw oddi ar gronfeydd data a ffeiliau post. Mae’r gwasanaeth yn rhad ac am ddim.