Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os credwch chi fod rhywun wedi'ch trin yn annheg neu wedi gwahaniaethu yn eich erbyn ar sail eich oedran, eich rhyw, eich hil, eich crefydd neu eich credoau, eich anabledd, neu eich cyfeiriadedd rhywiol, mae cryn dipyn o ddeddfwriaeth, gwybodaeth a chysylltiadau i'ch helpu i ddeall eich hawliau a'u gorfodi.
Lloegr: 0845 604 6610
Yr Alban: 0845 604 5510
Cymru: 0845 604 8810
Sefydlwyd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol er mwyn hyrwyddo cydraddoldeb a mynd i'r afael â gwahaniaethu ar sail rhyw, newid rhyw, crefydd, cred, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, oedran neu hil, a’u dileu, gan fynd ati i hyrwyddo hawliau dynol.
Mae gwaith y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol, y Comisiwn Hawliau Anabledd a'r Comisiwn Cyfle Cyfartal, bellach yn cael ei wneud gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, â'i nod yw ychwanegu at lwyddiannau a datblygiadau'r comisiynau unigol blaenorol. Mae'r comisiwn yn cynnwys Cymru, Lloegr a'r Alban, ac mae ganddo bwyllgorau statudol yng Nghymru a'r Alban sy’n cyflawni ei waith.
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol hefyd yn rhoi gwybodaeth am wahaniaethu a'ch hawliau mewn sefyllfaoedd penodol. Mae'r cyngor yn ymdrin â'r meysydd canlynol:
I gael cymorth a chyngor, ffoniwch linell gymorth y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Codir pris galwad leol ar rifau 0845 os ydych yn defnyddio llinell gyffredin BT. Bydd cyfraddau darparwyr eraill ac o ffonau symudol yn amrywio - holwch eich cyflenwr i weld faint y byddwch yn ei dalu.
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am arddel hawliau unigolion a mynd i'r afael ag achosion o wahaniaethu. Mae sefydliad y Cyngor Cyfreithiol Cymunedol wedi llunio taflen sy'n rhoi canllaw ar eich hawliau a sut y gallwch herio gwahaniaethu.
Ystyr gwahaniaethu anghyfreithlon ar sail rhyw yw pan gaiff rhywun ei drin yn annheg o ganlyniad i'w ryw. Gall menywod, dynion a phobl drawsrywiol i gyd brofi gwahaniaethu ar sail rhyw. Mae gwahaniaethu ar sail rhyw hefyd yn cynnwys trin rhywun yn llai ffafriol gan ei fod wedi priodi neu mewn partneriaeth sifil - er enghraifft, drwy beidio â chyflogi menywod priod.
Ceir cyngor arbenigol ar wefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar gyfer unigolion a chyflogwyr, ac mae'n darparu arweiniad ymarferol a gwybodaeth gyfreithiol. Os credwch i chi gael eich trin yn annheg yn y gwaith, mewn byd addysg, neu gan unrhyw un sy'n darparu gwasanaeth - a chithau'n credu bod hynny am eich bod yn fenyw, neu am eich bod yn ddyn - gallwch gysylltu â llinell gymorth gyfrinachol y comisiwn i gael cyngor.
Daeth Deddf Cydnabod Rhyw 2004 i rym ym mis Ebrill 2005. Mae'n rhoi cydnabyddiaeth gyfreithiol i bobl drawsrywiol yn eu dewis rhyw, yn dilyn eu cais llwyddiannus i'r Panel Cymeradwyo Rhyw. Ar ôl cael cydnabyddiaeth gyfreithiol bod eu rhyw wedi newid, caiff pobl drawsrywiol briodi yn eu rhyw newydd hefyd.
Mae gan y Panel Cydnabod Rhyw wefan sy'n cynnwys gwybodaeth a chyngor i bobl drawsrywiol sy'n dymuno gwneud cais am gydnabyddiaeth rhyw.
Mae'r Ddeddf Cysylltiadau Hiliol yn amddiffyn unigolion rhag achosion o harasio a gwahaniaethu ar sail hil ac yn creu hawl i herio gwahaniaethu yn y llysoedd neu mewn tribiwnlys cyflogaeth. Mae'n anghyfreithlon i unigolyn wahaniaethu yn erbyn unigolyn arall ar sail hil - mae hyn yn golygu hil, lliw, cenedligrwydd, neu darddiad ethnig neu genedlaethol.
Mae'r Ddeddf hefyd yn pennu bod gwahaniaethu ar sail hil gan gyrff a sefydliadau cyhoeddus yn anghyfreithlon ac yn mynnu bod ganddynt bolisïau i hyrwyddo cydraddoldeb hiliol. Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn rhoi gwybodaeth a chyngor i bobl sy’n credu eu bod wedi dioddef gwahaniaethu neu harasio ar sail hil. Maent yn gweithio gyda chyrff cyhoeddus, busnesau a sefydliadau o bob sector er mwyn hyrwyddo polisïau ac arferion sy'n helpu i sicrhau y caiff pawb eu trin yn gyfartal.
Gall gwefan y comisiwn roi mwy o wybodaeth i chi am wahaniaethu ar sail hil, eich hawliau cyfreithiol a beth i'w wneud os oes rhywun yn gwahaniaethu yn eich erbyn.
Mae adran 'Pobl anabl' Cross & Stitch yn rhoi gwybodaeth am hawliau o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd, yn rhoi diffiniadau o 'anabledd' ac yn nodi hawliau cyffredinol i gael nwyddau a gwasanaethau.
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn rhoi cyngor a gwybodaeth i bobl anabl, darparwyr addysg, cyflogwyr a darparwyr gwasanaeth, ac yn cefnogi pobl anabl wrth iddynt sicrhau eu hawliau cyfreithiol. Mae'r corff hefyd yn cefnogi achosion cyfreithiol i brofi hyd a lled y gyfraith ac yn darparu gwasanaeth cymodi annibynnol ar gyfer pobl anabl a darparwyr gwasanaeth. Bydd cynghorwyr llinell gymorth y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gallu dweud wrthych a yw eich achos yn addas ar gyfer cymodi.
Ystyr gwahaniaethu'n anghyfreithlon ar sail oed yw pan gaiff rhywun ei drin yn anffafriol o ganlyniad i'w oedran, heb gyfiawnhad, neu ei harasio neu ei erlid o ganlyniad i'w oedran.
Mae gwefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn rhoi gwybodaeth a chyngor am wahaniaethu ar sail oed, gan gynnwys beth yw eich hawliau a beth y gallwch ei wneud os oes rhywun yn gwahaniaethu yn eich erbyn.
Ceir rhagor o wybodaeth hefyd am ddeddfwriaeth gwahaniaethu ar sail oed yn yr adran cyflogaeth ac yn yr adran pensiynau a chynllunio ar gyfer ymddeol Cross & Stitch.
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn darparu gwybodaeth a chyngor yng nghyswllt gwahaniaethu o ganlyniad i gyfeiriadedd rhywiol unigolyn, neu'r ffordd y mae pobl yn gweld cyfeiriadedd rhywiol rhywun, neu gyfeiriadedd rhywiol y rheini y maent yn ymwneud â nhw. Mae Acas (y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu) wedi llunio canllaw i gyflogwyr a gweithwyr am gyfeiriadedd rhywiol yn y gweithle.
Mae llinell gymorth y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn rhoi gwybodaeth a chanllawiau ar faterion yn ymwneud â gwahaniaethu a hawliau dynol. Mae pob aelod o'r staff wedi'u hyfforddi i ddarparu'r gwasanaeth hwn.
Gallwch hefyd gysylltu â'r comisiwn drwy lythyr, e-bost neu ffacs. Dilynwch y ddolen isod i gael manylion cyswllt. Os byddwch yn cysylltu â'r comisiwn drwy'r post, peidiwch ag anfon dim dogfennau gyda'ch llythyr - bydd rhywun yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi beth y mae angen i chi ei anfon.
Os hoffech gysylltu â'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol mewn iaith ar wahân i Saesneg, gallwch wneud hynny drwy ddefnyddio unrhyw un o'r dulliau y soniwyd amdanynt uchod, a bydd rhywun yn trefnu i gysylltu â chi yn yr iaith o'ch dewis.
Nid yw'r swyddfeydd yn derbyn ymwelwyr gan nad ydynt yn darparu cyngor wyneb yn wyneb. Dim ond ar gyfer llythyrau y mae'r cyfeiriadau a ddarperir.