Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae'r hawliau a'r cyfrifoldebau sydd gennych chi heddiw yn dod o nifer o ffynonellau - daw rhai o Ddeddfau Seneddol a chyfreithiau a wnaed gan farnwyr, a rhai eraill o gyfraith Ewropeaidd. Gyda'i gilydd, maent yn ffurfio Cyfansoddiad Prydain.
Cyfres o reolau'r llywodraeth yw Cyfansoddiad Prydain. Mae rhai o'r rheolau'n ymwneud â gweithdrefnau megis pa mor aml y mae'n rhaid cynnal etholiadau. Mae eraill yn ymwneud â faint o rym sydd gan y llywodraeth – ac yn nodi beth mae'r llywodraeth yn cael a ddim yn cael ei wneud.
Yn wahanol i'r rhan fwyaf o wledydd eraill, fel Unol Daleithiau America neu India, nid yw Cyfansoddiad Prydain wedi'i ysgrifennu mewn un ddogfen ffurfiol. Yn hytrach na hyn, mae'r hawliau a'r cyfrifoldebau sydd gennym fel unigolion ac fel cymdeithas yn dod o nifer o wahanol ffynonellau.
Mae llawer o'r cyfansoddiad yn seiliedig ar arferion a rheolau nad ydynt wedi eu hysgrifennu - gelwir y rhain yn gonfensiynau.
Yn ogystal â hyn, mae'r canlynol yn rhoi rhagor o warchodaeth:
Y ddogfen gyntaf i ddylanwadu ar y cyfansoddiad yw'r Magna Carta, a ysgrifennwyd ym 1215. Yn y ddogfen hon, nodwyd dyletswyddau'r brenin tuag at ei bobl, a'u hawliau a'u cyfrifoldebau hwythau. Yn fwy diweddar, mae'r Deddfau a wnaeth Prydain yn rhan o'r Gymuned Ewropeaidd ym 1972, y Deddfau a sefydlodd Senedd yr Alban ym 1998 a Deddf Hawliau Dynol 1998, wedi effeithio ar y gyfraith gyfansoddiadol. Gelwir y deddfau hyn a weithredir gan y Senedd yn gyfraith statudau. Yn sgîl datganoli, gall Senedd yr Alban hefyd greu deddfwriaeth gyfansoddiadol sy'n effeithio ar ei dinasyddion. Mae gan Gynulliad a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon hyd yn oed fwy o rym.
Penderfyniadau barnwyr yn y llysoedd sydd hefyd yn creu'r gyfraith a'r hawliau a'r amddiffyniadau sy'n dod oddi tanynt. Gelwir hyn yn gyfraith gyffredin. Y syniad o gynsail sydd wrth wraidd cyfraith gyffredin – mae hyn yn golygu bod barnwyr yn dilyn yr un trywydd â phenderfyniadau a wnaed mewn achosion tebyg er mwyn creu system sy'n gyson, yn gywir ac yn deg. Fodd bynnag, ceir achosion lle mae'r amgylchiadau neu ffeithiau'r achos yn wahanol iawn, nad ydynt wedi codi o'r blaen neu nad ydynt yn adlewyrchu'r gymdeithas bresennol yng ngolwg uwch farnwr. Yn sgîl hyn, gwneir penderfyniad i greu neu ddiwygio'r gyfraith.
Mae cyfraith y Gymuned Ewropeaidd, sy'n berthnasol yn y DU, yn deillio o gytundebau'r Gymuned Ewropeaidd, deddfwriaeth y Gymuned a fabwysiadwyd yn eu sgîl, a phenderfyniadau Llys Cyfiawnder Ewrop. Gan y llys hwnnw y mae'r awdurdod pennaf i benderfynu ar bwyntiau cyfreithiol y GE.
Lle mae aelod-wladwriaethau'r UE wedi cytuno i weithredu gyda'i gilydd, ystyrir bod yr holl ddeddfau a gaiff eu pasio ar lefel Ewrop yn ôl y gyfraith yn uwchraddol i'r gyfraith ddomestig, ac yn y pen draw cânt eu gwarchod gan lys cyfansoddiadol uwch, sef Llys Cyfiawnder Ewrop. Dan yr amgylchiadau hyn, pe bai cyfraith y Gymuned Ewropeaidd a chyfraith y DU yn gwrthdaro â'i gilydd, cyfraith y Gymuned Ewropeaidd fyddai'n ennill y dydd.
Ceir ystod eang o hawliau yn y cyfansoddiad, sy'n ymwneud â phob agwedd o fywyd, o hawliau dynol, megis y rhyddid i gael llefaru ac i fod yn rhydd rhag artaith, a hawliau mwy penodol megis y rhai hynny sy'n gysylltiedig ag addysg a gofal iechyd, ac amddiffyniad rhag gwahaniaethu.
Mae'n bwysig cofio nad yw pob un o'r hawliau dynol a ymgorfforwyd yng nghyfraith y DU drwy'r Ddeddf Hawliau Dynol yn derfynol. Gellir cyfyngu arnynt neu ymwrthod â hwy dan amgylchiadau penodol.
Gyda'r hawliau hyn ceir cyfrifoldebau megis ffyddlondeb, sy'n golygu peidio â chynllwynio yn erbyn y wladwriaeth, ufuddhau i'r gyfraith fel dinesydd cyfrifol, a rhai dyletswyddau dinesig fel pleidleisio, cyflawni gwasanaeth rheithgor a rhoi tystiolaeth mewn llys.