Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gwneud cwyn yn erbyn deiliad swydd farnwrol

Os carech wneud cwyn am rywun sy’n dal swydd farnwrol - barnwr, ynad, aelod o dribiwnlys neu grwner - gallwch wneud hyn drwy’r Swyddfa Cwynion Barnwrol.

Cwynion y mae’r Swyddfa Cwynion Barnwrol yn delio â

Llinell Ymholiadau’r Swyddfa Cwynion Barnwrol: 020 7189 2937

Mae’r Swyddfa Cwynion Barnwrol yn delio â chwynion am ymddygiad personol deiliaid swyddi barnwrol – nid yw’n delio â chwynion ynghylch penderfyniadau barnwrol, dedfrydau, nac ynghylch a yw cais yn llwyddiannus ai peidio. Mae enghreifftiau o gamymddygiad personol yn cynnwys defnyddio iaith enllibus, hiliol neu rywiaethol.

Ceir pedwar categori ar gyfer deiliaid swydd farnwrol, ac mae proses gwyno pob un ohonynt ychydig yn wahanol. Mae’r categorïau yn cynnwys barnwyr, ynadon, aelodau o dribiwnlysoedd a chrwneriaid.

Gwneud cwyn am farnwr, aelod o dribiwnlys bach neu grwner

Os carech wneud cwyn am ymddygiad personol barnwr, aelod o dribiwnlys bach neu grwner, dylech ysgrifennu i’r Swyddfa Cwynion Barnwrol gan ddefnyddio’u ffurflenni cwyno. Os na fyddwch, am unrhyw reswm, yn gallu cyflwyno’ch cwyn yn ysgrifenedig, gallwch ffonio’r Swyddfa Cwynion Barnwrol i gael help.

Bydd angen yr wybodaeth ganlynol arnoch i wneud eich cwyn:

  • eich enw, eich cyfeiriad a’ch rhif ffôn
  • enw’r barnwr neu’r aelod tribiwnlys neu’r crwner
  • enw’r llys neu’r ganolfan gwrandawiadau tribiwnlys
  • rhif yr achos
  • dyddiad y gwrandawiad
  • manylion penodol ynghylch y rhesymau dros eich cwyn

Dylech wneud eich cwyn cyn gynted â phosib ar ôl y digwyddiad ac o fewn 12 mis fan hwyraf i’r digwyddiad yr ydych am wneud cwyn amdano. Os yw eich apêl neu'ch achos yn dal i fynd yn ei flaen, ni fydd y Swyddfa Cwynion Barnwrol yn gallu ystyried y gŵyn nes bydd yr achos wedi dod i ben – ond dylech dal roi gwybod iddynt am eich cwyn cyn gynted â phosib.

Llwythwch y ffurflen isod a’i llenwi, ac anfonwch eich cwyn at:

Y Swyddfa Cwynion Barnwrol/The Office for Judicial Complaints
4th Floor, Clive House
Petty France
Llundain
SW1H 9HD

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â’r Swyddfa Cwynion Barnwrol:

Ffôn: 020 7189 2937
Ffacs: 020 7189 2936
Minicom: 020 7189 2941
E-bost: customer@ojc.gsi.go.uk

I gael gwybod beth sy’n digwydd i’ch cwyn ar ôl i chi ei hanfon at y Swyddfa Cwynion Barnwrol, dilynwch y ddolen isod. Rhoddir canllawiau hefyd ar beth i’w wneud os yw’ch cwyn yn ymwneud â phenderfyniad barnwrol, yn hytrach na chamymddygiad.

Gwneud cwyn am ynad neu aelod o dribiwnlys

Dylid cyflwyno cwynion am ynadon neu am aelodau a barnwyr tribiwnlys i’r Pwyllgor Ymgynghorol lleol neu i Lywydd Tribiwnlys.

Cwynion am ynadon

Os yw’ch cwyn yn ymwneud ag ymddygiad personol ynad, cysylltwch â’r Pwyllgor Ymgynghorol lleol. Mae manylion cyswllt ar gael ar gyfer pob Pwyllgor Ymgynghorol drwy ddilyn y ddolen gyntaf isod.

Gall y Pwyllgor Ymgynghorol wrthod cwyn, neu ran o gŵyn, os nad yw’n bodloni meini prawf penodol. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • os nad yw’n egluro’r mater y cwynir amdano’n ddigonol
  • os yw’n ymwneud â phenderfyniad barnwrol neu reoli achos barnwrol, ac felly ddim yn berthnasol i gamymddygiad
  • os yw’n codi mater y deliwyd ag ef eisoes ac nad yw’n cyflwyno unrhyw dystiolaeth newydd
  • os yw’n ymwneud â rhywun nad yw bellach yn dal swydd farnwrol

Os bydd y Pwyllgor Ymgynghorol yn credu y ceir achos ar ôl iddynt ystyried y gŵyn, byddant yn cyfeirio’r achos i’r Swyddfa Cwynion Barnwrol.

Cwynion ynghylch aelodau tribiwnlys neu farnwyr tribiwnlys

Os carech wneud cwyn am farnwr neu aelod o dribiwnlys, dylech gysylltu â’r swyddfa dribiwnlys berthnasol a fydd yn dweud wrthych a ddylai’ch cwyn gael ei hanfon at y Cadeirydd Rhanbarthol, at Lywydd y Tribiwnlys, neu os nad oes Cadeirydd neu Lywydd, at y Swyddfa Cwynion Barnwrol.

Bydd y manylion cyswllt ar gyfer y swyddfa dribiwnlys berthnasol ar unrhyw ddogfen neu lythyr yr ydych wedi ei gael gan y tribiwnlys yr ydych wedi bod yn delio â nhw. Neu, gellir dod o hyd i fanylion cyswllt pob tribiwnlys drwy’r Gwasanaeth Tribiwnlysoedd.

Bydd y Cadeirydd neu’r Llywydd yn ymchwilio i’r gŵyn ac, os ydynt o’r farn bod lle i gymryd camau disgyblu ffurfiol, byddant yn cyfeirio’r achos i’r Swyddfa Cwynion Barnwrol

Additional links

Hawliau gweithwyr asiantaeth

Ydych chi'n gwybod beth mae gennych hawl iddo? Ydy eich asiantaeth yn cadw at y rheolau?

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU