Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae'r Swyddfa Cwynion Barnwrol yn ymchwilio i gwynion ynghylch camymddygiad deilydd swydd farnwrol, ac yn ymateb fel arfer cyn pen tri mis. Weithiau mae'n bosib y bydd angen ymchwiliad pellach, felly gallai'r broses gymryd mwy o amser. Gall y Swyddfa Cwynion Barnwrol eich cyfeirio at swyddfeydd eraill os nad yw'ch cwyn yn ymwneud ag ymddygiad.
Pan fydd y Swyddfa Cwynion Barnwrol yn cael eich cwyn ac yn fodlon ei fod yn ymwneud ag ymddygiad, bydd yn anfon llythyr cydnabod atoch. Yna ystyrir y materion a godwyd gennych a hefyd ansawdd y dystiolaeth rydych wedi'i chyflwyno.
Os bydd y dystiolaeth y byddwch wedi'i chyflwyno'n ddigonol i gefnogi'r gŵyn byddant yn cynnal ymchwiliad. Bydd y deilydd swydd farnwrol yr ydych yn gwneud cwyn yn ei erbyn yn cael copi o'r gŵyn a gofynnir am sylwadau ganddynt.
Mae'n bosib y bydd rhai o'r camau canlynol yn cael eu cymryd hefyd:
Mae'r Swyddfa Cwynion Barnwrol yn anelu at ddelio gyda’ch cwyn a darparu ymateb llawn i chi cyn pen tri mis. Bydd yr ymateb yn nodi a oes unrhyw gamau disgyblu wedi'u cymryd.
Os bydd y Swyddfa Cwynion Barnwrol yn penderfynu fod angen ymchwiliad barnwrol, gall y broses gwyno bara am rai misoedd yn hwy. Byddwch yn cael eich hysbysu o'r cynnydd sy'n cael ei wneud.
Mewn rhai achosion mwy difrifol o gamymddwyn, mae'n bosib y gofynnir i uwch farnwr gynnal ymchwiliad o'r hyn sydd wedi digwydd.
Os bydd eich cwyn yn cael ei ystyried yn ddilys gan yr Arglwydd Ganghellor neu'r Arglwydd Brif Ustus, mae'n bosib y caiff y deiliad swydd farnwrol:
Nid yw'n arferol cael iawndal am golledion a achoswyd gan gamymddygiad deiliad swydd farnwrol. Mae'n bosib y rhoddir taliad ex gratia (ewyllys da), ond mewn achosion arbennig yn unig.
Os bydd yr Arglwydd Ganghellor neu'r Arglwydd Brif Ustus yn argymell camau disgyblu ffurfiol, gall y deilydd swydd farnwrol ofyn am adolygiad o'r achos.
Yna, bydd corff arolygu, sef dau ddeiliad swydd farnwrol a dau berson lleyg yn ystyried yr achos. Y corff arolygu sydd â'r gair olaf ynghylch pa gamau y dylid eu cymryd am gamymddygiad deiliad swydd farnwrol.
Ni all y Swyddfa Cwynion Barnwrol ystyried unrhyw gŵyn am benderfyniad barnwrol na'r ffordd y deliwyd â'ch achos. Mae enghreifftiau o benderfyniadau barnwrol yn cynnwys:
Y ffordd arferol i herio'r math hwn o benderfyniad yw drwy apelio.
Os ydych yn ystyried apelio yn erbyn penderfyniad barnwrol, ceisiwch gyngor cyfreithiol fel eich bod yn gwbl ymwybodol o'r canlynol:
Mae'n bosib y bydd y cyrff sy'n cael eu rhestru isod yn gallu darparu cyngor i chi a dweud rhagor wrthych am yr hyn y mae'r broses o apelio yn ei olygu:
Os ydych yn ansicr ynghylch a yw'ch cwyn yn ymwneud â phenderfyniad barnwrol neu gamymddygiad personol, cysylltwch â Llinell Ymholiadau'r Swyddfa Cwynion Barnwrol ar (020) 3334 2555