Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae gan unrhyw un sydd yn y DU, am ba bynnag rheswm, hawliau dynol sylfaenol ac mae rheidrwydd cyfreithiol ar y llywodraeth ac awdurdodau cyhoeddus i barchu'r hawliau hyn. Daeth y rhain yn gyfraith fel rhan o Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
Mae Deddf Hawliau Dynol 1998 yn rhoi grym cyfreithiol pellach yn y DU i'r rhyddid a'r hawliau sylfaenol a geir yn y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Nid hawliau sy'n ymwneud â materion bywyd a marwolaeth yn unig ydynt, maent hefyd yn effeithio ar eich hawliau mewn bywyd bob dydd: beth gewch chi ei ddweud a'i wneud, eich credoau, eich hawl i gael treial teg a hawliau sylfaenol eraill tebyg.
Ceir cyfyngiadau ar y mwyafrif helaeth o hawliau i sicrhau nad ydynt yn gwneud cam â hawliau pobl eraill. Fodd bynnag, ni all rhai hawliau penodol - megis yr hawl i beidio â chael eich arteithio - gael eu herio gan lys barn neu gan unrhyw un arall.
Mae gennych gyfrifoldeb i barchu hawliau pobl eraill, ac mae'n rhaid iddyn nhw barchu eich hawliau chithau.
Dyma'ch hawliau dynol:
Os camddefnyddir unrhyw hawl neu ryddid a enwir uchod mae gennych hawl i ateb effeithiol yn ôl y gyfraith, hyd yn oed os mai rhywun mewn awdurdod, er enghraifft plismon, wnaeth gamddefnyddio'r rhyddid neu'r hawl.
Os ydych chi mewn sefyllfa lle rydych o'r farn bod eich hawliau dynol yn cael eu sathru, fe'ch cynghorir i geisio datrys y broblem heb fynd i'r llys drwy ddefnyddio cyfryngu neu gorff cwyno mewnol.
Os credwch nad yw eich hawliau wedi cael eu parchu ac na allwch ddatrys y broblem y tu allan i'r llys, mae gennych hawl i ddod ag achos gerbron y llys neu'r tribiwnlys priodol yn y DU. Yna, bydd y llys neu'r tribiwnlys yn ystyried eich achos.
Cyn penderfynu cymryd camau cyfreithiol, mae'n bwysig eich bod yn ceisio cyngor cyfreithiol.
Efallai y gall Cyngor ar Bopeth eich helpu ac fe all Cyngor Cyfreithiol Cymunedol eich rhoi mewn cysylltiad â'r rheini sy'n darparu cyngor yn eich ardal. Ceir hefyd nifer o Ganolfannau Cyfraith ledled y DU, sy'n gallu cynnig cyngor a chymorth i chi ar amrywiol faterion.
Mae Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi yn darparu llyfryn, 'Deddf Hawliau Dynol 1998 – Gwybodaeth i Ddefnyddwyr Llys', sy'n rhoi gwybodaeth ynghylch sut mae gwneud cais am iawndal neu am arian sy'n ddyledus dan y Ddeddf Hawliau Dynol. Mae'n nodi rhai pethau pwysig i chi eu hystyried cyn i chi wneud cais o'r fath.
Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi creu canllaw rhad ac am ddim am y Ddeddf Hawliau Dynol. Ceir hefyd llyfryn yn egluro'r Ddeddf Hawliau Dynol mewn iaith syml ar gyfer pobl gydag anableddau dysgu. Gellir llwytho copïau oddi ar wefan y weinyddiaeth, neu gellir archebu copïau caled am ddim drwy ffonio 020 3334 3734. Mae'r canllaw i'r ddeddf ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg, a gellir gwneud cais am fersiynau print bras, Braille neu dapiau sain.
Gellir dilyn y dolenni isod am arweiniad i'r ddeddf yn yr ieithoedd canlynol: Arabeg, Cantoneg, Saesneg, Ffrangeg, Gwjarati, Pwyleg, Pwnjabeg, Somalieg, Tamil, Wrdw a Chymraeg.