Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Rhyddid gwybodaeth

Dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae gan bawb hawl i wneud cais am wybodaeth a ddelir gan sefydliadau sector cyhoeddus. Daeth y Ddeddf i rym ym mis Ionawr 2005.

Deddf Rhyddid Gwybodaeth

yr hawl i weld amrywiaeth o wybodaeth gyhoeddus

Mae'r Ddeddf yn rhoi'r hawl i chi ofyn i unrhyw gorff cyhoeddus am yr holl wybodaeth sydd ganddynt ar unrhyw bwnc o'ch dewis. Ac oni bai bod ganddynt reswm da, rhaid i'r sefydliad ddarparu'r wybodaeth cyn pen mis. Gallwch hefyd ofyn am gael gweld yr holl wybodaeth bersonol sydd ganddynt amdanoch chi.

Mae gan yr Alban Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth ar wahân, ond mae'n debyg iawn i'r Ddeddf yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Os yw'r awdurdod cyhoeddus yr ydych chi'n holi am wybodaeth ganddo yn gweithredu yn yr Alban yn unig, yna ymdrinnir â'ch cais dan Ddeddf yr Alban.

Cyrff sector cyhoeddus sy'n dod dan y Ddeddf

Mae'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn berthnasol i bob 'awdurdod cyhoeddus' yn cynnwys:

  • adrannau'r llywodraeth a chynulliadau lleol
  • awdurdodau a chynghorau lleol
  • ymddiriedolaethau iechyd, ysbytai a meddygfeydd meddygon
  • ysgolion, colegau a phrifysgolion
  • amgueddfeydd sy'n cael nawdd cyhoeddus
  • yr heddlu
  • llawer o gyrff cyhoeddus anadrannol eraill, pwyllgorau a chyrff cynghorol

Pwy all gael mynediad at y wybodaeth?

Gall unrhyw un wneud cais am wybodaeth dan y Ddeddf - nid oes cyfyngiadau o ran oedran, cenedligrwydd na lle'r ydych chi'n byw.

Beth allwch chi ofyn amdano?

Gallwch ofyn am gael gweld unrhyw wybodaeth - ond efallai na roddir rhai darnau o wybodaeth i chi er mwyn gwarchod amrywiol fuddiannau (mae'r Ddeddf yn caniatáu hynny). Os yw hyn yn digwydd, rhaid i'r awdurdod cyhoeddus egluro pam eu bod wedi cadw'r wybodaeth yn ôl.

Os ydych yn holi am wybodaeth amdanoch chi'ch hun, yna'r Ddeddf Diogelu Data fydd yn delio â'ch cais yn hytrach na'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Sut i wneud cais

Yr oll sydd raid i chi ei wneud yw ysgrifennu (neu anfon e-bost) at yr awdurdod cyhoeddus y credwch sy'n dal y wybodaeth yr hoffech ei chael. Dylech sicrhau eich bod yn cynnwys:

  • eich enw
  • cyfeiriad lle y gellir cysylltu â chi
  • disgrifiad o'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch

Nid oes rhaid i chi gyfeirio at y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, ond mae croeso i chi wneud hynny os ydych yn dymuno. Dylech geisio disgrifio'r wybodaeth yr hoffech ei chael mor fanwl â phosib: er enghraifft, 'cofnodion y cyfarfod lle gwnaethpwyd y penderfyniad i wneud X', yn hytrach na gofyn am 'bopeth sydd gennych am X'. Bydd hyn yn helpu'r awdurdod cyhoeddus i ganfod yr union wybodaeth sydd ei hangen arnoch.

Rhaid i bob awdurdod cyhoeddus reoli ei wybodaeth yn unol â chynllun cyhoeddi sy'n disgrifio'r gwahanol 'ddosbarthiadau' neu 'fathau' o wybodaeth sy'n cael ei chadw (megis cofnodion neu adroddiadau). Dylech gofio hyn wrth wneud cais.

Faint o amser fydd e’n ei gymryd?

Rhaid i awdurdodau cyhoeddus ddelio gyda'ch cais yn brydlon, a dylent ddarparu'r wybodaeth cyn pen 20 diwrnod gwaith (oddeutu mis). Os oes angen rhagor o amser arnynt, rhaid iddynt ysgrifennu atoch i'ch hysbysu pryd fyddant yn rhoi ateb a pham fod angen mwy o amser arnynt.

Faint mae’n ei gostio?

Mae'r rhan fwyaf o geisiadau yn rhad ac am ddim. Mae’n bosibl y gofynnir i chi dalu swm bychan am gostau llungopïo neu bostio.

Os yw'r awdurdod cyhoeddus yn credu y bydd yn costio mwy na £450 (neu £600 am gais a gyflwynir i'r llywodraeth ganolog) i ddod o hyd i'r wybodaeth a'i baratoi ar gyfer ei ryddhau, gallant wrthod eich cais. Efallai y byddant yn gofyn i chi fod yn llai cyffredinol a darparu mwy o fanylion am yr union wybodaeth yr ydych yn chwilio amdani.

Sut y byddwch yn derbyn y wybodaeth

Pan fyddwch yn gwneud cais, gallwch ofyn am gael derbyn y wybodaeth ar ffurf benodol. Fodd bynnag, gall yr awdurdod cyhoeddus bwyso a mesur y gost o ddarparu'r wybodaeth ar y ffurf hon cyn delio gyda'ch cais.
Dylech allu derbyn y wybodaeth:

  • ar ffurf barhaol
  • ar ffurf crynodeb
  • neu drwy gael caniatâd i archwilio'r cofnodion sy'n cynnwys y wybodaeth

Efallai y byddwch hefyd yn gallu cael y wybodaeth:

  • mewn Braille
  • ar fformat sain
  • mewn teip bras
  • wedi'i chyfieithu i iaith arall

Hawlfraint a chyfyngiadau

Nid yw'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn gosod cyfyngiadau ar sut y gallwch ddefnyddio'r wybodaeth a dderbyniwch. Serch hynny, nid yw'r Ddeddf yn trosglwyddo hawlfraint ar unrhyw wybodaeth a ddarperir. Os ydych yn bwriadu atgynhyrchu'r wybodaeth a dderbyniwch, dylech sicrhau na fyddwch yn torri hawlfraint unrhyw un drwy wneud hynny.

Eich hawl i apelio

Os gwrthodir eich cais am wybodaeth, y cam cyntaf yw gofyn i'r awdurdod cyhoeddus adolygu eu penderfyniad yn fewnol. Dylai person yn yr awdurdod nad oedd ynghlwm wrth y penderfyniad gwreiddiol gynnal yr adolygiad hwn.

Os ydych eisoes wedi gwneud hyn, neu os yw'r awdurdod cyhoeddus yn gwrthod adolygu ei benderfyniad, gallwch apelio i'r Comisiynydd Gwybodaeth annibynnol. Mae gan y Comisiynydd y pŵer i archwilio sut y gwnaeth yr awdurdod cyhoeddus ddelio gyda'ch cais a'r ateb a roddwyd. Os yw'n cytuno eu bod wedi dal gwybodaeth yn ôl yn annheg, gall orchymyn yr awdurdod cyhoeddus i roi'r wybodaeth i chi.

Tribiwnlys Gwybodaeth

Os ydych chi’n anghytuno â'r ffordd y gwnaeth y Comisiynydd Gwybodaeth ymateb i'ch apêl, gallwch apelio yn erbyn hynny. Y Tribiwnlys Gwybodaeth fydd yn delio â hynny. Dim ond pan fyddwch yn anghytuno ag ymateb y Comisiynydd Gwybodaeth y cynhelir Tribiwnlys, ac nid er mwyn apelio yn erbyn penderfyniadau'r awdurdod cyhoeddus neu unrhyw un arall.

Ceisiadau am wybodaeth amgylcheddol

Yn ogystal â'r hawliau y sonnir amdanynt dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, mae’r Rheoliadau am Wybodaeth Amgylcheddol yn rhoi hawliau mynediad penodol i wybodaeth amgylcheddol.

Os ydych yn gwneud cais am wybodaeth am yr amgylchedd, ni chewch eich gwrthod ar sail y costau i'r awdurdod cyhoeddus o ran casglu a pharatoi'r wybodaeth. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am yr aer a'r atmosffer, dŵr, pridd, tir, tirlun, sylweddau, ynni, sŵn, ymbelydredd neu wastraff, allyriadau, gollyngiadau ac yn y blaen, yn ogystal â gwybodaeth am bolisïau sy'n effeithio ar y materion hyn.

Additional links

Hawliau gweithwyr asiantaeth

Ydych chi'n gwybod beth mae gennych hawl iddo? Ydy eich asiantaeth yn cadw at y rheolau?

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU