Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Yn gyffredinol, mae ansawdd dŵr yng Nghymru, Lloegr a’r Alban yn uchel. Yma cewch wybod pa mor lân yw'ch afon neu'ch traeth lleol a gallwch ganfod a oes perygl o lifogydd yn eich ardal chi. Mae Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 hefyd yn rhoi hawl i chi weld gwybodaeth am yr amgylchedd gan gyrff cyhoeddus.
Yng Nghymru a Lloegr, mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn monitro dŵr afonydd. Yn yr Alban, yr Asiantaeth Amddiffyn yr Amgylchedd yn yr Alban sy’n gyfrifol am hyn. Mae'r gwaith monitro hwn yn cynnwys mesur llygryddion ac edrych ar ansawdd y bywyd sy'n bresennol yn y dŵr. Mae'r wybodaeth ar gael i unrhyw aelod o'r cyhoedd sydd â diddordeb yn y pwnc. Cyhoeddir canlyniadau ar gyfer:
Llygryddion cemegol a bywyd dŵr
Caiff cemeg (llygryddion) a bioleg (bywyd dŵr) eu monitro, a dosberthir afonydd o A (ansawdd da iawn) i F (ansawdd gwael).
Maethyddion
Caiff maethyddion (sylweddau fel nitradau ac orthoffosffadau) hefyd eu monitro. Yn naturiol, mae gwahanol lefelau o'r maethyddion hyn mewn afonydd ledled y wlad, ac nid ydynt o reidrwydd yn ddrwg i'r amgylchedd. Fodd bynnag, weithiau gallant niweidio bywyd gwyllt a phlanhigion. Dosberthir dyfroedd o radd 1 (ychydig iawn o faethyddion) i radd 6 (lefelau uchel iawn o nitradau neu lefelau rhy uchel o ffosffadau).
Gwaith monitro Asiantaeth yr Amgylchedd
Yn 2009, monitrodd Asiantaeth yr Amgylchedd 495 o ddyfroedd ymdrochi yng Nghymru a Lloegr. Cymerwyd mesuriadau i archwilio am olion carthion dynol. Dechreuodd y samplo bythefnos cyn dechrau'r tymor nofio (15 Mai tan 30 Medi). Yna cymerir ugain sampl yr wythnos mewn lleoliadau lle bydd pobl yn nofio. Bodlonwyd y safonau gofynnol gydag ymron pob un o'r dyfroedd ymdrochi (98.6 y cant), gyda 82.2 y cant yn ddigon glân i fodloni safonau llawer uwch Ewrop.
Gwaith monitro Asiantaeth Amddiffyn yr Amgylchedd yn yr Alban
Yn yr Alban, caiff traethau eu monitro gan Asiantaeth Amddiffyn yr Amgylchedd yn yr Alban. Yn 2008, bodlonodd 91.3 y cant o ddyfroedd ymdrochi Albanaidd y safonau gofynnol.
Traethau Baner Las
Cynllun gwobrau annibynnol a rhyngwladol yw Baner Las i'r traethau sy'n cyrraedd y safonau uchaf. Mae'r wobr yn seiliedig ar ansawdd y dŵr, cyfleusterau da fel gwasanaeth casglu sbwriel, toiledau ac offer arbed bywyd, a ffactorau eraill. Mae ansawdd dyfroedd ymdrochi wedi gwella'n aruthrol dros y blynyddoedd diwethaf. Yn 2009, dyfarnwyd Baner Las i 119 o draethau yng Nghymru a Lloegr, o'i gymharu â 12 yn 1987.
Mae mapiau llifogydd ar gael gan Asiantaeth yr Amgylchedd. Gellir chwilio am y rhain yn ôl cod post neu enw lle, ac maent yn dangos a ystyrir bod ardaloedd mewn perygl o lifogydd ai peidio.
Mae Asiantaeth yr Amgylchedd hefyd yn rhoi rhybuddion llifogydd a gwybodaeth am sut i baratoi am lifogydd petai'n digwydd. Os ydych chi'n byw mewn ardal sydd mewn perygl, efallai y gallech gofrestru i dderbyn rhybuddion dros y ffôn, ffôn symudol, ffacs neu alwr. Ffoniwch y Llinell Llifogydd ar 0845 988 1188 neu dilynwch y dolenni isod i gael rhagor o wybodaeth.
Mae meysydd glas yn rhan bwysig o'r amgylchedd lleol, sy'n galluogi pobl i fwynhau ardaloedd agored a chael cyswllt gyda phlanhigion a bywyd gwyllt. Mae'r rhain yn amrywio o feysydd glas bach mewn pentrefi i Barciau Cenedlaethol. Mae gwobr y Faner Werdd yn safon genedlaethol sy'n cydnabod y meysydd glas gorau yng Nghymru a Lloegr.
Gall problemau fel gormod o sŵn, tipio anghyfreithlon a sbwriel gael effaith fawr ar eich amgylchedd lleol. Gallwch gysylltu â'ch cyngor lleol i roi gwybod am achosion o dipio anghyfreithlon yn eich ardal.
Dan y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol, gallwch ofyn am wybodaeth gan gyrff cyhoeddus megis awdurdodau lleol, llywodraeth ganolog, awdurdodau iechyd, ysgolion a phrifysgolion.
Mae gwybodaeth amgylcheddol yn cynnwys gwybodaeth am yr agweddau canlynol ar yr amgylchedd, ac unrhyw bolisïau, penderfyniadau neu weithgarwch a allai effeithio arnynt:
Gallwch hefyd chwilio am wybodaeth amgylcheddol drwy ddefnyddio chwiliad cod post Asiantaeth yr Amgylchedd. Mae'r wefan yn darparu gwybodaeth arall hefyd, fel ffynonellau llygredd yn eich ardal. Mae rhywfaint o'r wybodaeth a ddarperir yn fanwl ac yn eithaf technegol.