Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Llygredd aer

Gall llygredd aer fod yn niweidiol i bobl, i anifeiliaid ac i’r amgylchedd. Drwy ddefnyddio llai o ynni, gyrru’n fwy gwyrdd neu ddefnyddio ffyrdd gwahanol o deithio, gallwch helpu i leihau’r llygredd aer rydych yn ei greu.

Beth yw llygredd aer?

Mae’r aer yn cynnwys sylweddau a all fod yn niweidiol i iechyd. Mae llygryddion aer yn cynnwys oson, ocsidau nitrogen, amonia, sylffwr deuocsid, carbon monocsid a sylweddau gronynnol (er enghraifft, darnau o huddygl, llwch neu hylif).

Beth sy’n achosi llygredd aer?

Yn y gorffennol, câi’r rhan fwyaf o lygredd aer ei achosi drwy losgi tanwyddau ffosil, fel glo, i greu gwres ac ynni mewn cartrefi ac ar gyfer diwydiant. Cyflwynwyd deddfau yn yr 1950au a’r 1960au er mwyn rheoli faint o nwyon a gynhyrchir gan ddiwydiant. Ond mae rhai gorsafoedd pŵer a rhai prosesau diwydiannol yn dal i gynhyrchu sylffwr deuocsid ac ocsidau nitrogen ymysg llygryddion eraill. Mae’r ddau nwy hyn yn cyfrannu at law asid sy’n niweidio coed a phlanhigion, a gall fod yn niweidiol i lynnoedd ac afonydd.

Y dyddiau hyn, nwyon o geir a cherbydau eraill ar y ffordd yw’r bygythiad mwyaf i aer glân. Mae ceir yn llosgi petrol a disel, sy’n creu llygryddion aer megis ocsidau nitrogen a sylweddau gronynnol. Gall y rhain achosi problemau i bobl, i fywyd gwyllt ac i’r amgylchedd.

Effeithiau llygredd aer ar bobl

Yn y DU, mae llygredd aer yn gostwng disgwyliad oes pawb o tua saith neu wyth mis

Gall aer llygredig achosi problemau i bobl sydd â chlefydau’r ysgyfaint, cyflyrau ar y galon ac asthma. Gwyddom fod rhai llygryddion yn achosi canser. Mae plant a phobl hŷn yn agored iawn i risg, ac amcangyfrifir bod llygredd aer yn gostwng disgwyliad oes pawb yn y DU o tua saith neu wyth mis.

Os yw eich iechyd yn dda, mae’n annhebygol y bydd lefel arferol llygredd aer yn y DU yn achosi unrhyw broblemau i chi.

Sylweddau gronynnol

Pan fydd pobl yn anadlu aer llygredig, gall sylweddau mân iawn fynd i’w hysgyfaint ac achosi problemau anadlu. Dros amser, gall hyn arwain at broblemau gyda’r galon a’r ysgyfaint.

Oson ar lefel y ddaear

Gall goleuni’r haul beri i rai cemegau adweithio a ffurfio oson ger lefel y ddaear – mewn rhai achosion, gall hyn niweidio llygaid a gyddfau pobl. Os oes gennych asthma, gall y symptomau fod yn waeth byth.

Carbon monocsid

Mae carbon monocsid a ryddheir o geir hŷn, mwg sigarét ac offer nwy diffygiol yn effeithio ar y gwaed, ac mae’n arbennig o beryglus i famau beichiog a’u babanod yn y groth.

Plwm

Ceir llai o blwm mewn petrol erbyn hyn, ond mae’n dal i gael ei ryddhau i’r aer gan ddiwydiant a gorsafoedd pŵer glo. Os bydd pobl mewn cysylltiad â lefelau uchel o blwm, gall organau’r corff megis yr arennau, y galon a’r ymennydd gael eu niweidio. Mae plant yn fwy sensitif nag oedolion i effeithiau llygredd plwm, a gallai gael effaith niweidiol ar ddeallusrwydd plentyn.

Beth i'w wneud os oes gennych broblem anadlu

Os ydych chi’n gwybod bod gennych broblemau anadlu, gallwch aros dan do pan fydd lefelau llygredd yn uchel, a chofiwch fynd â’ch meddyginiaeth gyda chi pan fyddwch yn mynd i’r awyr agored.

Effeithiau llygredd aer ar blanhigion ac anifeiliaid

Mae llygredd aer yn effeithio ar blanhigion a bywyd gwyllt hefyd. Dyna pam y gall fod yn anoddach i blanhigion ffynnu yng nghanol dinasoedd. Gall llygryddion hefyd fynd i fwyd a diod anifeiliaid.

Gall sylffwr deuocsid ac ocsidau nitrogen wneud dŵr a phridd yn fwy asidig (ac felly’n niweidiol i rai planhigion ac anifeiliaid). Gall hyn hefyd leihau faint o blanhigion sy’n darparu bwyd a chysgod, gan achosi problemau difrifol i fathau eraill o fywyd gwyllt.

Gall oson niweidio sawl math o blanhigyn, gan gynnwys cnydau.

A yw llygredd aer yn gwella ynteu’n gwaethygu?

Mae ansawdd aer yn y DU yn gyffredinol dda ar hyn o bryd, ond weithiau ceir dal lefelau llygredd annerbyniol o uchel mewn rhai ardaloedd.

Ceir a cherbydau ar y ffordd yw’r bygythiad mwyaf i aer glân, felly mae’n bwysig lleihau’r llygredd y maent yn ei greu. Mae petrol yn cynnwys llai o lawer o blwm a sylffwr erbyn hyn, a chaiff ceir newydd eu cynhyrchu i greu llai o allyriadau. Hefyd, caiff tanwyddau newydd eu creu sy’n lanach na phetrol a disel, ac ni chynhyrchir unrhyw allyriadau wrth yrru ceir trydan.

Ffynonellau naturiol o lygredd aer

Gall digwyddiadau naturiol fel llosgfynyddoedd yn ffrwydro, tanau mewn coedwigoedd a mellt achosi llygredd hefyd. Mae’r rhain yn rhyddhau llygryddion fel sylffwr deuocsid a nitrogen ocsid i’r aer. Gall llwch a chwythir o anialwch y Sahara yn Affrica a halen sy’n anweddu o’r môr effeithio ar y DU.

Mae’n anoddach rheoli a lleihau llygredd aer o ddigwyddiadau naturiol na llygredd o ffynonellau gwneuthuredig. Ond, gall pobl helpu i leihau’r llygredd aer a gynhyrchant a helpu i wneud yr aer yn lanach ac yn fwy diogel i’w anadlu.

Beth allwch chi ei wneud am lygredd aer

Gallwch atal a lleihau llygredd aer mewn sawl ffordd:

  • drwy ddefnyddio llai o ynni yn y cartref ni fydd yn rhaid llosgi cymaint o lo, olew a nwy, a chaiff llai o lygredd aer ei gynhyrchu
  • defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, seiclo neu gerdded yn hytrach na gyrru
  • os bydd angen i chi yrru, dylech ddefnyddio technegau sy’n eich helpu i ddefnyddio llai o danwydd, fel gyrru’n arafach ac yn fwy llyfn
  • pan fyddwch yn prynu paent, farneisiau neu lud, chwiliwch am gynnyrch dyfrsail neu sydd â chynnwys toddyddion isel

Allweddumynediad llywodraeth y DU