Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os oes gennych amheuon ynghylch tir wedi'i lygru neu lygredd dŵr yn eich ardal, dylech gysylltu â'ch awdurdod lleol.
Bydd eich awdurdod lleol yn cadw rhestr o dir sydd wedi'i lygru ac yn archwilio ac yn asesu unrhyw dir a allai fod wedi'i lygru. Bydd wedyn yn cymryd unrhyw gamau angenrheidiol er mwyn 'glanhau'r' tir.
Gellir disgrifio llygrydd fel unrhyw fath o sylwedd a ganfyddir mewn tir neu ddŵr na fyddai yno fel arfer. Gallai hyn fod yn gemegau o safleoedd tirlenwi sydd wedi diferu i mewn i'r pridd neu i'r dŵr, neu nwyon o hen weithfeydd nwy neu ffatrïoedd.
Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion eich cyfeiriad ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol lle gallwch gael mwy o wybodaeth.