Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Delio gyda phroblemau dŵr yfed

Mae ansawdd dŵr yfed yng Nghymru a Lloegr yn uchel iawn, ond, ar achlysuron prin, gall pethau fynd o chwith. Mynnwch wybod sut mae ansawdd y dŵr yn cael ei gynnal a beth i'w wneud os ydych yn poeni.

Yn 2003, cynhaliodd y cwmnïau dŵr yng Nghymru a Lloegr ryw 2.9 m o brofion ar samplau o ddŵr yfed, gyda 99.88 y cant yn pasio.

Cafodd y profion a fethodd eu hasesu bob un. Doedd rhai ohonynt ddim yn bwysig o ran iechyd neu'n annhebygol o ddigwydd eto, ac felly nid oedd angen cymryd camau pellach. Byddai rhai methiannau'n cael eu cywiro gan welliannau a oedd eisoes ar y gweill mewn gweithfeydd trin ac yn systemau dosbarthu'r cwmnïau dŵr. Mynnai'r Arolygiaeth Dŵr Yfed fod yn rhaid i'r cwmnïau dŵr ddelio gydag unrhyw fethiannau eraill trwy ymrwymo i wneud gwelliannau'n syth.

Problemau gyda'ch cyflenwad dŵr?

Er bod ansawdd dŵr yfed at ei gilydd yn uchel iawn yng Nghymru a Lloegr, efallai y cewch chi broblem o dro i dro. Dylai'r dŵr fod yn glir ac yn ddisglair. Os yw'n edrych yn gymylog, y lliw neu'r blas yn wahanol neu yn arogli'n rhyfedd, dylech gysylltu â'ch cwmni dŵr. Ceir rhifau ymholiadau ac argyfwng yn y Llyfr Ffôn o dan 'Water'.

Os nad ydych yn hapus gydag ymateb y cwmni dŵr, gallwch gysylltu ag un o'r canlynol:

  • eich Cyngor Defnyddwyr Dŵr a restrir o dan 'Consumer organisations' yn eich llyfr ffôn
  • adran iechyd yr amgylchedd eich cyngor lleol
  • yr Arolygiaeth Dŵr Yfed

Os nad ydy'ch dŵr yfed yn cael ei gyflenwi gan gwmni dŵr, dylech gysylltu ag adran iechyd yr amgylchedd eich cyngor lleol ynghylch unrhyw broblemau.

Os hoffech gael gwybod mwy am ansawdd dŵr eich ardal, gallwch ofyn am gael gweld cofnod cyhoeddus eich cwmni dŵr. Gallwch weld y cofnod yn un o swyddfeydd y cwmni. Bydd staff gwasanaethau cwsmeriaid yn esbonio canlyniad y profion a dweud wrthych beth sy'n cael ei wneud i ddatrys unrhyw broblemau. Mae gennych hawl i gael copi am ddim o'r cofnod ar gyfer yr ardal lle rydych yn byw. Neu gallwch ysgrifennu at y cwmni i gael manylion.

Allweddumynediad llywodraeth y DU