Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Diogelwch gyda chemegau yn y cartref

Defnyddir cemegau yn y cartref bob dydd; o hylifau glanhau, paent, bwyd planhigion a thanwyddau. Mae cemegau yn ein cartrefi hyd yn oed mewn plastigau a ddefnyddir ar gyfer inswleiddio a lloriau.

Adnabod cemegau

Mae gofyn i chi wybod pryd rydych chi'n defnyddio cemegyn a all achosi niwed i chi. Er enghraifft, gall rhai hylifau glanhau yn y cartref achosi niwed i'ch croen.

Rhaid i bawb sy'n defnyddio cemegau allu darllen labeli, cymryd sylw o'r peryglon a dilyn y cyfarwyddiadau a'r cyngor gan y gwneuthurwyr.

Cyswllt â sylwedd gwenwynig

Os ydych chi'n meddwl eich bod chi neu aelod o'ch teulu wedi llyncu neu wedi dod i gysylltiad â chemegyn a all fod yn wenwynig, rhaid i chi gael cyngor meddygol.

Cofiwch roi disgrifiad llawn o'r cynnyrch gan ddisgrifio unrhyw symbolau neu ganllawiau gan y gwneuthurwr sydd ar y botel neu'r pecyn.

Mae cyngor pellach am gemegau yn y cartref ar wefan Yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau.

Mwy o ddolenni defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU