Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Rydym yn gallu cael cyfnodau oer iawn yn ystod y gaeaf yn y DU. Mae'n bwysig gwarchod yr henoed a'r ifanc rhag gostyngiad yn y tymheredd.
Yn ôl gwaith ymchwil, pan fydd y tymheredd yn disgyn yn agos at neu o dan rewbwynt, mae llawer o gyflyrau megis afiechydon anadlu yn gwaethygu ac mae nifer y strôcs a'r trawiadau ar y galon yn cynyddu ddiwrnodau wedyn. Pobl fregus sydd mewn perygl penodol yn ystod y cyfnodau oer.
Mae hypothermia yn gyflwr sy'n codi pan fydd tymheredd y corff yn gostwng yn is na lefelau normal oherwydd yr oerni, ac mae pobl yn marw bob blwyddyn yn eu cartrefi am nad ydyn nhw'n ddigon cynnes.
Os ydych chi'n poeni am berthynas neu gymydog oedrannus, dylech gysylltu â'ch cyngor lleol i roi gwybod iddyn nhw. Mae elusennau megis Help the Aged hefyd yn rhoi cymorth a chefnogaeth. Mae Help the Aged wedi cynhyrchu pecyn gwybodaeth yn dwyn y teitl 'The Cold Can Kill' - mae'n cynnwys rhifau cyswllt a chyngor defnyddiol.
Mae'r tywydd ym Mhrydain yn gallu bod yn arw ac yn gallu newid yn gyflym. Mae newidiadau eithafol ym mhatrymau'r tywydd yn gallu arwain at lifogydd mewn ardaloedd sy'n agored i ddifrod gan olygu na ellir defnyddio ffyrdd na thraffyrdd.
Mae'r Swyddfa Dywydd yn gweithio gydag Asiantaeth yr Amgylchedd yng Nghymru a Lloegr, Asiantaeth Amddiffyn yr Amgylchedd yn yr Alban a'r Asiantaeth Afonydd yng Ngogledd Iwerddon i gynnig rhagolwg o'r ardaloedd sy'n debygol o wynebu llifogydd. Mae'r asiantaeth berthnasol a'r cyngor lleol yn gydgyfrifol am ddarparu cyngor a gwybodaeth i'r cyhoedd yn ystod argyfwng llifogydd ac mae modd cysylltu 24 awr y dydd drwy gyfrwng rhifau 'Llinell Llifogydd':
Asiantaeth yr Amgylchedd: 0845 988 1188
Asiantaeth Amddiffyn yr Amgylchedd yn yr Alban: 0845 988 1188
Yng Ngogledd Iwerddon cysylltwch â'r Adran Amaeth a Datblygu Gwledig: yr Asiantaeth Afonydd.
Mae'r tudalennau rhybuddio am dywydd garw gan y Swyddfa Dywydd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y tywydd sy'n debygol o darfu.
Os ydych chi'n bwriadu teithio yn ystod tywydd gwael, dylech ymgynghori â'r Swyddfa Dywydd neu'r Asiantaeth Priffyrdd i gael cyngor am deithio. Os oes rhaid i chi deithio yn ystod tywydd garw, gwnewch yn siŵr eich bod yn barod am dywydd gwael.