Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Sut i leihau'r perygl o gwympo a baglu

Mae pobl yn cwympo ac yn baglu yn arwain at nifer fawr o anafiadau yn y cartref. Trwy ddilyn rhai canllawiau syml, gallwch helpu i leihau'r risg i chi a'ch teulu.

Sut i ddelio gyda chwympiadau a baglu

Mae'r dull gweithredu pum cam ar gyfer asesu risg yn darparu fframwaith defnyddiol wrth ddelio gyda chwympiadau a baglu:

  • chwiliwch o gwmpas am unrhyw beth allai achosi damwain, er enghraifft, lloriau llithrig
  • penderfynwch pwy sydd mewn perygl
  • cymerwch fesurau ataliol
  • cadwch gofnod o'r hyn yr ydych wedi'i newid
  • dylech fonitro eich mannau byw yn barhaus - a chadw nodyn o'r holl beryglon posibl

Achosir damweiniau yn y cartref yn aml gan y canlynol:

  • llwybrau cerdded wedi'u trefnu'n wael
  • goleuadau anaddas/annigonol
  • gweithdrefnau glanhau anghywir
  • symud/codi llwyth
  • rhuthro o gwmpas
  • blinder
  • golwg wael, sbectol amrywiol ei ffocws
  • meddyginiaeth a all arwain at benysgafnder

Chwiliwch am y peryglon hyn:

  • hylifau a solidau wedi gollwng neu wedi tasgu
  • lloriau gwlyb
  • esgidiau anaddas
  • matiau/ceriach ar y lloriau
  • tywydd garw
  • newid o arwyneb gwlych i sych
  • gorchudd/arwyneb llawr anaddas
  • lloriau llychlyd
  • arwynebau ar oledd

Gall y peryglon o ran baglu fod yn broblem ymhob cartref, yn enwedig mewn cartrefi gyda lloriau pren agored. Dylech gadw llygad am:

  • orchudd llawr neu lawr rhydd
  • gorchudd llawr wedi treulio
  • tyllau, craciau
  • arwynebau anwastad y tu allan
  • newidiadau yn lefelau arwynebau
  • ceblau’n llusgo
  • rhwystrau

Sut i helpu'ch hun a'r bobl o'ch cwmpas

Gallwch helpu eich lles cyffredinol a helpu i leihau'r risg o syrthio a baglu trwy gadw'n iach ac yn gorfforol weithgar. Ffordd dda o gryfhau'ch cyhyrau a gwella'ch cydbwysedd yw ymarfer yn rheolaidd.

Mae ymarfer yn bwysig i bobl hŷn, sy'n fwy tebygol o faglu yn y cartref. Does dim rhaid i chi fynd i'r gampfa i gadw'n gorfforol weithgar. Gall tasgau syml megis garddio, gwaith tŷ rheolaidd a cherdded roi hwb i'ch lefelau ynni a gwella symudiad a chydbwysedd.

Pobl hŷn - cael cymorth a chyngor

Sicrhewch eich bod yn gwneud asesiad risg o holl ystafelloedd eich cartref. Er enghraifft, oes gennych chi ganllaw ar gyfer y baddon neu ydy'r gegin yn rhydd o unrhyw geriach ac wedi'i goleuo'n ddigonol?

Os ydych yn pryderu am unrhyw agwedd o'ch cartref, gallwch gael cyngor arbenigol gan eich cyngor lleol, a all fod yn gweithredu cynllun diogelwch yn y cartref. Gellir cael rhagor o gymorth arbenigol gan fudiadau megis Help the Aged, sy'n darparu pecynnau gwybodaeth a thaflenni ffeithiau cynhwysfawr.

Plant

Mae plant yn dueddol o gwympo a baglu a dylech bob amser wneud archwiliad diogelwch o fannau chwarae posibl, yn y cartref a thu allan.

Mae'r Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau'n darparu gwybodaeth fanwl am sut y gallwch helpu i leihau nifer y damweiniau i blant yn eich cartref.

Allweddumynediad llywodraeth y DU