Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cadw’n ddiogel gartref yn ystod tywydd poeth

Gall tywydd poeth achosi lludded gwres i bobl ac anifeiliaid. Hefyd, gall bacteria ar fwyd a sbwriel ddatblygu’n gynt yn y gwres. Yma, cewch wybod sut mae aros yn ddiogel yn eich cartref mewn tywydd poeth, gan gynnwys cadw’n oer a chymryd mwy o ofal gyda bwyd a gwastraff.

Gwres yr haf

Mae’r Swyddfa Dywydd yn cyhoeddi rhybuddion ‘heat-health watch’ pan fo perygl o dymheredd uchel yng Nghymru a Lloegr am fwy na dau ddiwrnod yn olynol. Mae'r rhybuddion hyn yn helpu gwasanaethau iechyd a'r cyhoedd i baratoi ar gyfer problemau iechyd a achosir gan dywydd poeth, fel lludded gwres a thrawiad gwres. Gwrandewch ar eich rhagolygon tywydd lleol fel y byddwch yn gwybod pryd y rhagwelir tywydd poeth. Gallwch hefyd edrych ar wefan y Swyddfa Dywydd am y rhybuddion ‘heat-health watch’ diweddaraf.

Yn eich cartref, gallwch gadw'n oer a lleihau'r perygl o ludded gwres drwy wneud y canlynol:

  • prynu stoc o gyflenwadau fel meddyginiaethau, bwyd a diodydd di-alcohol, fel na fydd angen i chi fynd allan i’r gwres
  • trefnu eich diwrnod er mwyn osgoi bod y tu allan yn ystod y cyfnodau poethaf (11.00 am tan 3.00 pm), os yn bosibl
  • gwneud gwaith egnïol awyr agored, fel DIY neu arddio, yn ystod cyfnodau oerach, fel yn gynnar yn y bore
  • gwisgo het a dillad ysgafn a llac, gan fynd â digon o ddŵr gyda chi ac aros yn y cysgod, os oes yn rhaid i chi fynd allan
  • cael cawodydd neu faddonau oer a thasgu dŵr oer arnoch yn aml
  • yfed digon o hylif, fel sudd neu ddŵr – osgowch yfed coffi ac alcohol
    Mae’r henoed a phlant yn enwedig yn wynebu’r risg o ludded gwres a thrawiad gwres a bydd angen sylw ychwanegol arnynt. Am wybodaeth ynghylch adnabod arwyddion lludded gwres, trawiad gwres a diffyg hylif, ewch i wefan NHS Choices.

Cadw’ch tŷ yn oer

Mewn tywydd poeth, arhoswch yn ystafelloedd oeraf eich cartref cymaint ag y bo modd. Yr ystafelloedd hyn sy’n debygol o gael ychydig iawn o haul yn ystod y dydd. Er mwyn helpu i gadw pob ystafell yn eich tŷ yn oer, gallwch:
  • gau llenni lliw golau – gall cau llenni tywyll a bleindiau wneud ystafelloedd yn boethach
  • cadw ffenestri ar gau pan fo'n boethach tu allan na thu mewn, ond agorwch nhw os bydd yr ystafell yn mynd yn rhy boeth
  • agor ffenestri yn y nos pan fo’r aer yn oerach, ond caewch ffenestri’r llawr gwaelod pan fyddwch yn gadael y tŷ neu’n mynd i’r gwely

Cymrwch ofal ychwanegol gyda bwyd mewn tywydd poeth

Pan fydd yn boeth, gall bacteria ar fwyd luosi’n gyflym iawn, sy’n cynyddu’r perygl o wenwyn bwyd. Felly, mae'n bwysig sicrhau fod bwyd:

  • yn cael ei gadw mewn bagiau oer wrth ei gario adref o'r archfarchnad neu wrth fynd am bicnic
  • yn cael ei roi yn yr oergell cyn gynted ag y byddwch yn cyrraedd adref – dylai tymheredd yr oergell fod rhwng 0 a 5 gradd celsius
  • yn cael ei gadw allan o’r haul
  • allan o’r oergell am y cyfnod byrraf posibl - dim mwy nag ychydig oriau

Gweler ‘Hylendid bwyd’ am ragor o wybodaeth ynghylch sut i osgoi gwenwyn bwyd. Ceir cyngor ynghylch coginio bwyd barbiciw yn ddiogel i osgoi gwenwyn bwyd ar wefan NHS Choices.

Bod yn ofalus gyda biniau a gwastraff

Gall biniau a gwastraff ddenu pryfed a chynrhon a dechrau drewi yn y gwres, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn:

  • symud biniau o wres uniongyrchol yr haul a chadwch gaeadau’r bin ar gau drwy’r amser
  • dyblu bagiau gwastraff bwyd a chlytiau ac yn gwasgu’r aer allan o geg y bag cyn i chi eu clymu
  • glanhau biniau gyda diheintydd ar ôl iddynt gael eu gwagio – gallwch dywallt dŵr berwedig drostynt i ladd unrhyw gynrhon
  • ailgylchu gymaint â phosibl i leihau gwastraff


Am fwy o wybodaeth ynghylch casglu biniau a gwastraff ac ailgylchu, cysylltwch â’ch cyngor lleol drwy ddilyn y dolenni isod.

Gweler ‘Tipio anghyfreithlon – beth allwch chi ei wneud’ os ydych yn poeni ynghylch gwastraff sydd wedi’i ddympio yn eich cymdogaeth.

Gofalu am anifeiliaid anwes

Gall eich anifeiliaid anwes ac anifeiliaid eraill hefyd ddioddef trawiad gwres mewn tywydd poeth os na fyddant yn cadw’n oer. Ni ddylech fyth adael anifeiliaid mewn car ar ddiwrnod poeth a gwnewch yn siŵr fod ganddynt:

  • ddigon o ddŵr glân a ffres i'w yfed
  • lle oer a chysgodol i orffwys


Mae hefyd yn bwysig gorchuddio dysglau bwyd anifeiliaid anwes i rwystro pryfaid rhag dodwy wyau ar y bwyd.


Cysylltwch â milfeddyg os ydych yn poeni fod anifail yn dioddef o drawiad gwres. Ceir rhagor o wybodaeth am ofalu am gŵn mewn tywydd poeth ar wefan y Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid (RSPCA).

Diogelwch tân

Yn ystod tywydd poeth a sych, osgowch goelcerthi a byddwch yn fwy gofalus fyth gyda barbiciws. Mae tir sych yn ystod yr haf yn cynyddu’r perygl o dân. Gweler ‘Diogelwch tân yn yr awyr agored - barbiciws a gwersylla’ am gyngor.

Allweddumynediad llywodraeth y DU