Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Parciau a meysydd glas

Mae llawer o feysydd glas agored yn y DU, gan amrywio o diroedd comin bach a lawntiau pentref i dirluniau eang ein Parciau Cenedlaethol. Ewch am bicnic, i chwarae criced neu i gerdded mynyddoedd - mae digon o weithgareddau i chi eu mwynhau.

Parciau

Mae parciau o ansawdd da yn gwella ansawdd bywyd yn ein trefi a'n dinasoedd. Mae parciau'n darparu canolbwynt ar gyfer cymunedau, man i ymlacio neu i hamddena, a'r cyfle i brofi natur mewn amgylchedd trefol. Y cynghorau lleol sy'n cynnal y mwyafrif o'r rhain. I gael rhagor o wybodaeth am eich parciau lleol, ewch ar wefan eich cyngor.

Gwobr y Faner Werdd

Mae Gwobr y Faner Werdd yn cydnabod safonau uchel wrth reoli a chynnal parciau a meysydd glas yng Nghymru a Lloegr. Does dim rhaid cymryd rhan yn y cynllun a rhoddir y gwobrwyon yn flynyddol.

Mae nifer y meysydd glas sy'n ennill Gwobr y Faner Werdd yn cynyddu bob blwyddyn, ac mae hyn yn helpu i wella ansawdd parciau ar draws y wlad. Cael gwybod am enillwyr Gwobr y Faner Werdd yn eich ardal chi.

Parciau brenhinol

Bob blwyddyn, mae miliynau o bobl yn ymweld ag wyth Parc Brenhinol Llundain. Mae'r 5,000 o erwau o dir parc gwledig hanesyddol yn rhoi cyfleoedd i fynd i gerdded, gwneud chwaraeon, cael addysg ac archwilio yng nghanol y brifddinas.

Beth am drefnu taith i'r Parciau Brenhinol pan fyddwch yn ymweld â Llundain?

Parciau Cenedlaethol

Mae ein Parciau Cenedlaethol yn cynnwys rhai o'r lleoedd agored mwyaf anghysbell a hardd yn y DU.

Mae wyth Parc Cenedlaethol yn Lloegr. Mae gan y Norfolk a'r Suffolk Broads hefyd yr un math o statws a rhinweddau. Mae tri Parc Cenedlaethol yng Nghymru hefyd, yn ogystal â dau yn yr Alban. Ar y cyfan, fe'u lleolir yn ardaloedd llai poblog yr ucheldir lle ceir darnau helaeth o gefn gwlad agored a golygfeydd ysblennydd.

Er mwyn gwybod lle i fynd, beth i'w weld a sut i gynllunio eich taith, ewch ar wefan Cymdeithas Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol.

Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol

Mae 41 Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yng Nghymru a Lloegr. Mae pob Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yn cwmpasu tirwedd arbennig a bendigedig, megis Ynysoedd Sili, y Cotswolds ac arfordir Northumberland.

Gallwch chwilio am yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol agosaf atoch chi, a chael gwybod beth allwch chi ei weld a'i wneud yno, drwy fynd ar wefan Cymdeithas Genedlaethol yr Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol.

Lawntiau a thir comin

Mae sawl darn o dir mewn dinasoedd, trefi a phentrefi sy'n cael eu defnyddio gan bobl leol ar gyfer chwaraeon, hamdden a mwynhad. Mae'n bosib bod y rhain wedi'u cofrestru'n gyfreithiol fel lawntiau tref neu bentref.

Mae tir comin wedi'i gofrestru hefyd ac mae'n bosib y caiff y cyhoedd fynd arno. Mae'r tiroedd hyn yn amrywio o'r rhosydd yn Ardal y Llynnoedd i'r llecynnau picnic yn Surrey, o'r morfeydd yn Norfolk i'r porfeydd ar fryniau Dartmoor. Mae ambell dir comin yn ardaloedd agored enwog megis Bryniau Malvern neu Hampstead Heath, eraill yn ardaloedd llai nad oes neb heblaw pobl leol yn gwybod amdanynt. Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn berchen ar lawer o dir comin sy'n agored i'r cyhoedd.

Cewch fwy o wybodaeth gan eich cyngor sir neu eich awdurdod unedol. Gellir cael gwybodaeth gyffredinol hefyd gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) a'r Gymdeithas Lleoedd Agored.

Natur a bywyd gwyllt

Wrth i chi wneud eich ffordd drwy un o barciau neu fannau agored di-ri y DU, cadwch eich llygaid yn agored am y bywyd gwyllt gwych sydd i'w weld yno.

Ceir dros 2,500 o warchodfeydd natur ar draws y DU, llawer ohonynt yn eiddo i Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt ac yn cael eu rheoli ganddynt. Mae'u Prosiect Meysydd Glas Trefol yn cefnogi Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt lleol sy'n gweithio gyda chymunedau sy'n gysylltiedig â'u meysydd glas trefol lleol. Mae eu gweithgareddau'n cynnwys garddio ar gyfer bywyd gwyllt a chasglu hadau blodau gwyllt - ffordd wych o ddod yn gysylltiedig â natur leol.

Gallech hefyd ymweld ag un o'r 150 o warchodfeydd natur sy'n berchen i'r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB). Mae'r rhain yn ddelfrydol i wylwyr adar a'r rhai sy'n mwynhau natur. Mae rhai'n darparu amrywiaeth o gyfleusterau sy'n addas ar gyfer diwrnod i'r teulu, tra bod eraill dim ond yn cynnig ychydig o wasanaethau. I gael gwybod mwy am Warchodfeydd Natur yr RSPB ewch i'w gwefan.

Yn yr adran hon...

Allweddumynediad llywodraeth y DU