Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Ydych chi wedi ymweld â'ch coedwig leol neu goetir yn ddiweddar? Mae yna nifer o leoedd gwych i fynd i gerdded. Felly pam nad ewch chi allan i ganol y coed, cael rhywfaint o awyr iach, gweld bywyd gwyllt a chadw'n heini, i gyd ar yr un pryd?
Mae nifer o goedwigoedd a choetiroedd ar agor i'r cyhoedd, ac mae ganddynt lwybrau sydd wedi eu marcio'n glir. Rheolir y mwyafrif o'r rhain gan y Comisiwn Coedwigaeth, awdurdodau lleol, ymddiriedolaethau bywyd gwyllt sirol neu'r Ymddiriedolaeth Coed Cadw.
Mae’r Comisiwn Coedwigaeth yn amddiffyn ac yn ehangu coedwigoedd a fforestydd Prydain er mwyn cynyddu eu gwerth i'r gymdeithas ac i'r amgylchedd.
Elusen gadwraeth yw'r Ymddiriedolaeth Coetiroedd, ar y llaw arall, a'i nod yw gwarchod treftadaeth ein coetiroedd brodorol. Mae'r cyrff hyn yn cynnig cyfleusterau, megis meysydd parcio, er mwyn gwneud eich ymweliad yn haws ac yn llawn mwynhad.
Pan fyddwch chi'n ymweld â'ch coedwig leol neu goetir, gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn y Cod Coedwigoedd:
Mae coedwigoedd a choetiroedd y DU yn gartref i fywyd gwyllt anhygoel, felly cadwch olwg wrth i chi archwilio'r cynefinoedd naturiol hyn. Wyddoch chi ddim beth welwch chi!
Os oes gennych chi ddiddordeb gwirioneddol mewn bywyd gwyllt, gallech chi hefyd ymweld ag un o'r 2500 o warchodfeydd natur sy'n frith hyd y DU. Yr Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt sy'n rheoli neu'n berchen ar lawer ohonynt. Mae gwefan yr Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt yn cynnwys cronfa ddata A-Z o dros 650 o rywogaethau blodau, coed, trychfilod, glöynnod byw, gwyfynnod, adar a bywyd gwyllt yr ardd. Gall hyn eich helpu i adnabod y planhigion a'r creaduriaid y byddwch chi'n eu gweld wrth fynd am dro.
Neu, gallech ymweld ag un o'r 150 o warchodfeydd natur a reolir gan y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB). Mae'r gwarchodfeydd hyn yn ddelfrydol i wylwyr adar a'r rhai sy'n mwynhau natur. Mae rhai'n darparu amrywiaeth o gyfleusterau sy'n addas ar gyfer diwrnod i'r teulu, tra mai dim ond ychydig o wasanaethau a gynigir gan eraill. I gael gwybod mwy am warchodfeydd natur yr RSPB, ewch i'w gwefan.
Ceir 215 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yn Lloegr hefyd. Mae llawer o'r rhain yn cynnwys nodweddion naturiol arbennig ac maent yn gartref i rai o'n rhywogaethau bywyd gwyllt pwysicaf.
Yn ogystal â'i weithgareddau rheolaidd, mae'r Comisiwn Coedwigaeth yn cynnal amryw ddigwyddiadau. Maent yn addas i'r hen a'r ifanc fel ei gilydd, ac maent yn cynnwys teithiau cerdded, teithiau beic i deuluoedd, diwrnodau agored, torri coed, gwylio bywyd gwyllt, a rhagor.
Gallech hefyd gael gwybod beth mae'r Ymddiriedolaeth Coed Cadw yn ei wneud yn eich ardal. Mae'r Ymddiriedolaeth Coed Cadw yn cynnal teithiau tywys, sgyrsiau, digwyddiadau plannu coed a digwyddiadau codi arian yn eu coedwigoedd ledled y DU yn rheolaidd. Mae nifer o gyfleoedd i wirfoddoli hefyd, i'r rhai sy'n dymuno cyfrannu o'u hamser a'u sgiliau i un o wahanol brosiectau'r Ymddiriedolaeth.