Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Diogelwch yng nghefn gwlad

Os ydych yn cynllunio taith gerdded neu seiclo yng nghefn gwlad, yn enwedig mewn ardal anghysbell, mae'n syniad da gwybod sut i gadw eich hun yn ddiogel a beth ddylech ei wneud mewn argyfwng.

Aros yn ddiogel

Gall cynllunio rywfaint ymlaen llaw wneud gwahaniaeth mawr:

  • cynlluniwch eich taith, gan sicrhau ei bod o fewn eich gallu
  • dywedwch wrth rywun cyfrifol lle rydych yn mynd a phryd rydych yn disgwyl dychwelyd (os yw'n bosibl, rhowch gopi o'ch llwybr iddynt)
  • sicrhewch eich bod yn mynd â dillad ac offer addas gyda chi - byddwch yn barod am y tywydd gwaethaf ac ewch â dillad glaw efo chi
  • ewch â mwy o fwyd a diod nag arfer gyda chi ar gyfer y diwrnod
  • ewch â phecyn cymorth cyntaf gyda chi
  • ewch a ffôn symudol a batri llawn a batri wrth gefn gyda chi
  • arhoswch ar lwybrau sefydledig

Os ydych yn bwriadu mynd ar deithiau, heiciau neu deithiau beic hir yn rheolaidd, dylech ystyried dysgu rhywfaint o sgiliau sylfaenol fel darllen map a defnyddio cwmpawd.

Mewn argyfwng

Y peth cyntaf a'r peth pwysicaf y dylech ei wneud yw peidio â chynhyrfu.

Os cewch eich hun mewn argyfwng neu os byddwch yn gweld rhywun arall mewn trafferth, defnyddiwch eich ffôn symudol i ffonio 999. Dylech ofyn am:

  • yr heddlu, os ydych mewn ardal y gellir ei chyrraedd yn hawdd mewn car neu ar droed
  • gwarchodwyr y glannau, os ydych ar yr arfordir (hy ar draethau, traethlin, clogwyni, llwybr clogwyn)
  • gwasanaeth achub mynydd os ydych mewn ardal heicio neu ddringo

Bydd y sawl y byddwch yn siarad ag ef yn gofyn am y wybodaeth ganlynol:

  • lleoliad y digwyddiad - dylech sillafu unrhyw enwau lleoedd ac mewn ardal anghysbell gallai fod o gymorth pe gallech roi cyfeirnod grid cenedlaethol
  • natur yr argyfwng - disgrifiwch beth ddigwyddodd, ee beiciwr wedi disgyn, cerddwr wedi'i ynysu gan lanw, ac unrhyw anafiadau
  • faint o bobl sy'n gysylltiedig â'r digwyddiad/wedi'u hanafu

Defnyddio ffonau symudol mewn argyfwng

Gall ffonau symudol arbed bywydau mewn argyfwng, ond gall eu signal amrywio a gall batris fynd yn fflat. Bydd yr awgrymiadau hyn yn eich helpu i fanteisio i'r eithaf ar eich ffôn mewn argyfwng:

  • cyn i chi gychwyn trefnwch i ffonio rhywun ar adegau penodol neu mewn mannau penodol ar eich taith, a dylech ddiffodd eich ffôn rhwng galwadau fel bod y batri'n para
  • dylech sicrhau bod gennych ddigon o fatri cyn i chi gychwyn
  • cadwch eich ffôn mewn bag plastig mewn rhywle cynnes ond lle gallwch ei glywed - a chadwch fatri wrth gefn mewn bag ar wahân
  • mewn ardaloedd lle nad oes signal da dylech sefyll yn llonydd gyda'ch ffôn unwaith y byddwch wedi llwyddo i gael cysylltiad fel na fyddwch yn ei golli hanner ffordd drwy'r sgwrs
  • os ydych yn sownd neu wedi brifo ac na allwch symud ond nad oes gennych ddigon o signal i wneud galwad ffôn, ceisiwch anfon neges destun SMS yn lle
  • peidiwch ag aros yn hir ar y ffôn er mwyn osgoi gwastraffu pŵer y batri
  • os ydych yn cysylltu â gwasanaethau brys efallai y byddant yn trefnu i chi ffonio bob 20/30 munud, os felly gallwch drefnu i ddiffodd eich ffôn rhwng galwadau

Os ydych mewn grŵp ac nad oes gan eich darparwr gwasanaeth chi signal lle'r ydych:

  • defnyddiwch ffonau eraill - un ar y tro er mwyn arbed pŵer y batris (neu ceisiwch gyfnewid batris)

Os nad oes gan yr un o'r ffonau signal rhwydwaith:

  • ceisiwch fynd â'r holl ffonau i leoliad mwy amlwg os yw'n bosibl - ond dim ond os gallwch wneud hynny heb fynd ar goll

Yn yr adran hon...

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU