Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Llwybrau a theithiau cerdded

Mae mynd am dro yng nghefn gwlad yn ffordd wych o ddarganfod llefydd newydd a mwynhau harddwch tirwedd Prydain. Mae pob mathau o deithiau cerdded a llwybrau i ddewis ohonynt. P'un a ydych yn heiciwr brwd ynteu'n grwydrwr achlysurol, ceir troeon sy'n addas beth bynnag fo'ch diddordebau a'ch gallu.

Ardaloedd sy'n agored i'r cyhoedd

Mae ardaloedd sy'n agored i'r cyhoedd yn ardaloedd o fynyddoedd, gweunydd, tiroedd comin, rhostiroedd a rhosydd y gallwch gerdded ynddynt heb orfod dilyn llwybrau. Mae'r ardaloedd hyn yn agored i bobl sy'n awyddus i gerdded, rhedeg, heicio, dringo neu edrych ar fywyd gwyllt. Fodd bynnag, ni chaniateir marchogaeth ceffylau, seiclo, chwaraeon dŵr na gwersylla.

Cewch wybod mwy am ble gewch chi fynd yng nghefn gwlad Lloegr drwy ymweld â gwefan Mynediad i Gefn Gwlad. Ar gyfer Cymru, gallwch ymweld â gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru.

Llwybrau Cenedlaethol

Crëwyd Llwybrau Cenedlaethol er mwyn i bobl gael mwynhau rhai o dirluniau gwychaf Cymru a Lloegr. Agorwyd y llwybr cyntaf, sef Llwybr y Penwynion, yn 1965.

Llwybrau pellter hir ar gyfer seiclo, cerdded a marchogaeth ceffylau yw'r Llwybrau Cenedlaethol. Maent wedi'u cynnal i safon uchel, a bydd arwyddion gyda symbol mesen arnynt er mwyn eich helpu i ddod o hyd i'ch ffordd. Ceir 15 o Lwybrau Cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr. Maent yn cynnwys llwybrau lleol, llwybrau ceffylau a ffyrdd bach, sy'n gyfanswm o thua 2,500 o filltiroedd gyda'i gilydd. Yn yr Alban ceir pedwar Llwybr Cenedlaethol sy'n cael eu hadnabod fel 'llwybrau pellter hir'.

Hawliau tramwy cyhoeddus

Mae tua 118,000 milltir o lwybrau troed, llwybrau ceffylau, cilffyrdd a hawliau tramwy eraill yn Lloegr. Fel aelod o'r cyhoedd, mae gennych yr hawl i ddefnyddio unrhyw un o'r llwybrau hyn at ddibenion hamdden, gwaith neu er hwylustod.

Mae pob llwybr wedi'i farcio'n glir gydag arwyddion lliw er mwyn dangos sut y gellir eu defnyddio:

  • Llwybr troed - arwydd melyn: ar agor i gerddwyr yn unig
  • Llwybr Ceffylau - arwydd glas: ar agor i seiclwyr, marchogwyr a cherddwyr
  • Cilffordd - arwydd coch: ar agor i gerddwyr, seiclwyr, marchogwyr a cherbydau modur

Teithiau gwarchod - ar droed ac ar feic

Caiff ffermwyr eu hannog i ddiogelu a gwarchod tirwedd a bywyd gwyllt Lloegr drwy amrywiol gynlluniau a mentrau, megis:

  • Cynllun Stiwardiaeth Cefn Gwlad
  • Cynllun Stiwardiaeth Amgylcheddol
  • Cynllun Ardaloedd Amgylcheddol Sensitif

Mae'r cynlluniau hyn yn talu grantiau i ffermwyr i ddarparu mynediad i'r cyhoedd i ardaloedd o werth naturiol, hanesyddol neu gadwraeth. Mae hyn yn galluogi pobl i werthfawrogi a mwynhau rhannau unigryw a phwysig o gefn gwlad Lloegr. Gallwch gerdded neu farchogaeth yn yr ardaloedd hyn, ac mae nifer o lwybrau wedi'u cynllunio ar gyfer cerddwyr llai abl hefyd.

Mae gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) fanylion am y troeon sydd ar gael ym mhob sir. Mae hefyd yn darparu mapiau fel y gallwch ganfod eich ffordd o gwmpas.

Dilynwch y Cod Cefn Gwlad

Os ydych am fanteisio i'r eithaf ar gefn gwlad, dylech ddilyn y Cod Cefn Gwlad bob amser. Drwy ddilyn y Cod byddwch hefyd yn helpu i amddiffyn a gwarchod ein hardaloedd gwledig nawr ac yn y dyfodol. Gallwch gael yr holl fanylion am y Cod Cefn Gwlad ar y wefan Mynediad i Gefn Gwlad, ond dyma grynodeb o rai o'r pwyntiau allweddol:

  • byddwch yn ddiogel – paratowch ymlaen llaw a dilynwch unrhyw arwyddion
  • cofiwch adael pob gât ac eiddo fel y cawsoch chi nhw
  • gwarchodwch blanhigion ac anifeiliaid, ac ewch â'ch sbwriel adref
  • cadwch gŵn dan reolaeth dynn
  • ystyriwch bobl eraill

Mae fideo byr gyda chymeriadau Creature Comforts wedi'i greu i helpu i hyrwyddo'r Cod Cefn Gwlad. Gallwch weld y fideo hwn ar y wefan Mynediad i Gefn Gwlad.

Diogelwch personol

Os ydych yn trefnu taith yng nghefn gwlad, dyma rai awgrymiadau ar sut i gadw'n ddiogel:

  • cynlluniwch eich taith, gan sicrhau ei bod o fewn eich gallu
  • gadewch i rywun cyfrifol wybod lle rydych yn mynd a phryd rydych yn disgwyl dychwelyd (os yw'n bosibl, rhowch gopi o'ch llwybr iddynt)
  • sicrhewch fod gennych ddillad ac offer addas ar gyfer yr amgylchiadau rydych yn disgwyl o ddod ar eu traws. Byddwch yn barod am yr amodau gwaethaf ac ewch â dillad dal dŵr gyda chi
  • paciwch fwyd ychwanegol gyda'ch bwyd a diod arferol am y diwrnod
  • rhowch becyn cymorth cyntaf yn eich bag
  • os ewch i drafferthion, peidiwch â chynhyrfu
  • arhoswch ar lwybrau sefydledig

Os ydych yn bwriadu mynd ar deithiau hir neu heiciau yn rheolaidd, dylech ystyried dysgu rhywfaint o sgiliau cyfeiriannu sylfaenol fel darllen map a chwmpawd.

Mae ffonau symudol yn ddefnyddiol mewn argyfwng, ond cofiwch efallai na fydd cwmpas signal mewn rhai lleoedd.

Mewn llawer o ardaloedd mae timau achub ar y mynyddoedd ar gael i helpu pan fydd cerddwyr yn mynd i drafferthion. Gallwch gysylltu â hwy drwy ffonio 999 a gofyn am y gwasanaeth Achub ar y Mynyddoedd.

Teithiau tywys

Teithiau a arweinir gan arweinwyr hyfforddedig sy'n gallu darparu gwybodaeth a chyngor defnyddiol yw teithiau tywys. Mae gan y rhan fwyaf o deithiau arweinydd yn y tu blaen a'r tu ôl felly nid oes yn rhaid i chi boeni y byddwch yn cael eich gadael ar ôl.

Gall arweinwyr teithiau ddweud wrthych ba mor gyflym y dylech fod yn cerdded er mwyn manteisio i'r eithaf ar eich taith. Mae gwybodaeth am deithiau tywys a theithiau annibynnol ar gael gan y Cynllun Cerdded Llwybrau Iechyd.

Yn yr adran hon...

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU