Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gwneud cwyn yn erbyn cyrff llywodraethol a chyrff cyhoeddus

Os ydych chi am gwyno ynghylch ymddygiad rhywun mewn corff llywodraethol neu gorff cyhoeddus mae angen i chi gysylltu â’r bobl gywir. Mae yna fudiadau y gallwch fynd atynt os ydych chi’n anhapus gyda’r ffordd y deliwyd â’ch cwyn.

Sefydliadau'r llywodraeth a chyrff cyhoeddus

mae'r Ombwdsmon yn delio â chwynion am wasanaeth gwael, triniaeth annheg a methiannau gweinyddol

Gallwch gysylltu â’r Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd ynglŷn â gwasanaethau’r llywodraeth yn y DU neu’r GIG yn Lloegr. Mae’n bosib iddynt ymchwilio i gwynion neu geisio helpu mewn ffordd arall. Os ydych chi’n anhapus ynghylch gwasanaeth gan adran lywodraethol, gallwch ofyn i'ch Aelod Seneddol gwyno wrth yr Ombwdsmon.

Cyn cysylltu â'r Ombwdsmon, dylech geisio cwyno wrth y sefydliad sy'n gysylltiedig â'r gŵyn. Gallwch ddefnyddio gwefan yr Ombwdsmon i weld pa gwynion mae'n gallu delio â nhw, er enghraifft meddygon teulu a deintyddion. Gallwch hefyd weld gyda beth na allant eich helpu chi, er enghraifft cwmnïau trydan a nwy.

Cwynion am lywodraeth leol

Ceir Ombwdsmyn Llywodraeth Leol ar gyfer Cymru, Lloegr a’r Alban sy’n ymchwilio i gwynion yn erbyn awdurdodau lleol, gan gynnwys cynghorau ac awdurdodau tân. Yn gyntaf, mae’n rhaid i chi gwyno wrth yr awdurdod - dim ond os ydych chi’n anhapus gyda’r ffordd y deliwyd â’ch cwyn y bydd yr Ombwdsmon yn camu i mewn.

Dim ond ar gwynion ynghylch gwasanaethau neu bethau iddynt fynd o chwith oherwydd bai’r awdurdodau y gall yr Ombwdsmyn edrych. Ni allant ymchwilio i staff cyngor neu i benderfyniadau nad ydych chi’n cytuno â nhw.

Cwynion am gynghorwyr unigol yn Lloegr

Os oes gennych chi dystiolaeth o gamymddwyn gan gynghorydd ac os oes arnoch eisiau gwneud cwyn am ei ymddygiad, bydd angen i chi ysgrifennu at bwyllgor safonau ei gyngor. Gallwch gael gwybod sut i wneud hyn drwy gysylltu â’r cyngor. Os oes gennych chi gŵyn am gyngor plwyf neu gyngor tref, dylai gael ei anfon at yr awdurdod y mae’r cyngor plwyf yn rhan ohono.

Mae pwyllgorau safonau yn cael eu cadeirio gan bobl annibynnol nad oes ganddynt gysylltiad â’r cyngor ac nad ydynt yn gynghorwyr. Mae pwyllgorau safonau yn cynnwys mwy o bobl annibynnol a rhai cynghorwyr.

Mae’n rhaid i’r gŵyn fod am ymddygiad y cynghorydd, er enghraifft:

  • bwlio neu fygwth rhywun
  • defnyddio ei swydd fel cynghorydd i gael mantais annheg dros eraill

Ni all y gŵyn fod am berfformiad cynghorydd, er enghraifft, cymryd amser hir i ateb llythyr rydych chi wedi ei anfon ato, neu am ei ymddygiad pan nad oedd wrthi’n cyflawni ei ddyletswyddau fel cynghorydd.

Ysgrifennu eich cwyn

Dylech ysgrifennu llythyr neu lenwi ffurflen gwyno ar wefan y cyngor. Dim ond os oes gennych chi reswm da y gallwch gwyno dros y ffôn neu gwyno yn bersonol, er enghraifft, os oes gennych chi anabledd sy’n ei gwneud yn anodd i chi ysgrifennu. Rhaid i chi ddweud:

  • ynghylch pwy mae’r gŵyn
  • pam rydych chi’n meddwl nad ydyw wedi cadw at y cod ymddygiad (gyda dyddiadau ac enghreifftiau)

Beth fydd yn digwydd i’ch cwyn

Cewch wybod, yn ysgrifenedig, beth fydd yn digwydd nesaf. Bydd y pwyllgor safonau yn cwrdd i drafod eich cwyn o fewn 20 diwrnod. Byddant yn dilyn cyfres o reolau i’w helpu i benderfynu os byddant yn:

  • ymchwilio i’r gŵyn
  • siarad â’r cynghorydd neu’n rhoi hyfforddiant ychwanegol iddo
  • anfon y gŵyn i Standards for England (Standards Board for England ynghynt) os ydyw’n ddifrifol
  • penderfynu nad oes angen gwneud dim

Os ydych chi’n anghytuno â’r penderfyniad gallwch ofyn i’r pwyllgor edrych ar y gŵyn eto. Gallwch anfon tystiolaeth newydd atynt a bydd pobl wahanol yn trafod eich cwyn.

Cwynion am sefydliadau a chyrff y Gymuned Ewropeaidd

Sefydlwyd swydd yr Ombwdsmon Ewropeaidd i ymdrin â chwynion am gamweinyddu ymysg sefydliadau a chyrff y Gymuned Ewropeaidd. Gallwch gwyno os nad yw sefydliad yn gwneud rhywbeth y dylai fod wedi ei wneud, neu os ydyw’n ei wneud yn y modd anghywir, neu os ydyw’n gwneud rhywbeth na ddylai fod wedi’i wneud. Er enghraifft:

  • cymryd gormod o amser i wneud rhywbeth, gan gynnwys gwneud taliadau
  • trin pobl yn annheg ac yn anghyfartal
  • gwrthod â gadael i bobl weld dogfennau y mae ganddynt yr hawl i’w gweld

Cewch wybod sut i gwyno wrth yr Ombwdsmon drwy edrych ar ei wefan.

Cwynion am dai

Gallwch gwyno wrth yr Ombwdsmon Tai ynghylch landlordiaid tai cymdeithasol yn Lloegr. Delir â rhai mathau eraill o landlordiaid gan y gwasanaeth hwn – cewch wybod amdanynt drwy edrych ar wefan yr Ombwdsmon Tai. Yn gyntaf, mae’n rhaid i chi gwyno wrth eich landlord. Dim ond os ydych chi’n anhapus gydag ymateb y landlord y gall yr Ombwdsmon helpu.

Ar gyfer cwynion ynghylch tai cyngor bydd angen i chi gysylltu â’r Ombwdsmon Llywodraeth Leol (gweler ‘Cwynion am lywodraeth leol’ uchod).

Cwynion am Wasanaethau'r GIG

Gall yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd ymchwilio i gwynion ynghylch triniaeth wael neu wasanaeth gwael gan y GIG yn Lloegr. Gallwch hefyd gwyno am ddarparwyr iechyd preifat os yw'r GIG wedi talu am y driniaeth (gweler 'Sefydliadau'r llywodraeth a chyrff cyhoeddus' uchod).

Cwynion am yr heddlu

Gallwch gwyno wrth Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC) ynghylch ymddygiad swyddogion yr heddlu a staff yr heddlu, er enghraifft, os ydynt yn anghwrtais neu’n defnyddio grym gormodol.

Gallwch gwyno:

  • os ydych chi wedi profi camymddwyn honedig gan yr heddlu (chi yw’r dioddefwr)
  • os oeddech chi'n dyst i gamymddwyn honedig ac i chi deimlo wedi’ch cynhyrfu, i chi gael eich brifo, neu i chi gael eich rhoi mewn perygl
  • os ydych chi’n berthynas neu’n ffrind i’r dioddefwr, ac yn teimlo’n ofidus oherwydd yr effaith a gafwyd arno

Bydd yr IPCC yn anfon eich cwyn at yr heddlu sy’n gysylltiedig â’r gŵyn, a fydd â’i system gwynion ei hun. Bydd yr IPCC yn delio â’r cwynion mwyaf difrifol ei hun. Weithiau, bydd yr IPCC yn edrych ar eich cwyn os ydych chi’n anhapus â’r ffordd y deliwyd ag ef.

Additional links

Hawliau gweithwyr asiantaeth

Ydych chi'n gwybod beth mae gennych hawl iddo? Ydy eich asiantaeth yn cadw at y rheolau?

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU