Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Yr Undeb Ewropeaidd

Mae'r Undeb Ewropeaidd (UE) yn bartneriaeth o 27 o wledydd democrataidd, sy'n cydweithio er budd pob dinesydd. Ei nod yw hyrwyddo ffyniant cymdeithasol ac economaidd ymysg ei haelodau, a safbwyntiau cyffredin o ran polisi tramor a diogelwch, cydweithrediad rhwng y farnwriaeth a'r heddlu mewn materion troseddol a dinasyddiaeth Ewropeaidd.

Aelod wledydd

Rhestrir y 27 o wledydd sydd yn yr Undeb Ewropeaidd isod, yn ôl y flwyddyn y gwnaethant ymuno:

  • 1958 - Gwlad Belg, Ffrainc, yr Almaen (Dwyrain), yr Eidal, Lwcsembwrg, yr Iseldiroedd
  • 1973 - Denmarc, Iwerddon, y DU
  • 1981 - Groeg
  • 1986 - Portiwgal, Sbaen
  • 1995 - Awstria, y Ffindir, Sweden
  • 2004 - Cyprus, Gweriniaeth Tsiec, Estonia, Hwngari, Latfia, Lithwania, Malta, Gwlad Pwyl, Slofacia, Slofenia
  • 2007 - Romania, Bwlgaria

Mae Croatia, Macedonia a Thwrci yn ymgeiswyr swyddogol i ymuno â'r Undeb Ewropeaidd.

Cyngor yr Undeb Ewropeaidd

Cyngor yr Undeb Ewropeaidd - a elwir yn Gyngor y Gweinidogion yn anffurfiol - yw'r prif gorff gwneud penderfyniadau, sy'n cymeradwyo cyfreithiau Ewropeaidd (ar y cyd â Senedd Ewrop). Mae Llywyddiaeth y Cyngor yn newid bob chwe mis o un aelod wladwriaeth i'r nesaf.

Bydd y gweinidog perthnasol o bob gwlad yn mynychu'r cyfarfodydd, gan ddibynnu ar y pwnc. Er enghraifft, pan fydd materion iechyd yn cael eu trafod, bydd Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd y DU yn bresennol, ynghyd ag ysgrifenyddion iechyd eraill Ewrop.

Gall y Cyngor wneud penderfyniadau naill ai drwy'r mwyafrif syml, drwy'r mwyafrif cymwys, neu'n unfrydol ar y materion pwysicaf. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae'r Cyngor yn defnyddio system bleidleisio mwyafrif cymwys sydd wedi'i phwysoli, sy'n golygu bod gan bob aelod wladwriaeth nifer penodol o bleidleisiau sy'n adlewyrchu ei maint a'i phoblogaeth. Mae'n rhaid i'r mwyafrif o aelod wladwriaethau fod o blaid, yn ogystal â chael y nifer gofynnol o bleidleisiau cyffredinol.

Y Cyngor Ewropeaidd

Mae'r Cyngor Ewropeaidd wedi'i ffurfio o arlywyddion neu brif weinidogion bob aelod wladwriaeth, ynghyd â'u gweinidogion tramor, a Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd. Maent yn cyfarfod hyd at bedair gwaith y flwyddyn mewn 'cynadleddau Ewropeaidd' er mwyn pennu agenda a blaenoriaethau cyffredinol yr Undeb Ewropeaidd. Caiff y cyfarfodydd eu cadeirio gan ba bynnag wlad sy'n cynnal Llywyddiaeth yr UE.

Y Comisiwn Ewropeaidd

Mae'r Comisiwn Ewropeaidd yn gorff gweithredol, yn debyg i gorff gwasanaeth sifil y DU. Mae'n gweithredu'r agenda a bennwyd gan y Cyngor Ewropeaidd, drwy ddrafftio cyfreithiau newydd a sicrhau bod aelod wladwriaethau yn eu gweithredu.

Mae bob aelod wladwriaeth yn enwebu un Comisiynydd, sy'n gyfrifol am ardal polisi benodol, er enghraifft, addysg, trafnidiaeth neu amaethyddiaeth. Mae'r Comisiynwyr yn gwbl annibynnol ar eu gwledydd ac yn gwasanaethu'r UE yn ei chyfanrwydd.

Senedd Ewrop

Mae Senedd Ewrop yn cynnwys ASEau (Aelodau o Senedd Ewrop) wedi'u hethol gan bobl o wledydd yr Undeb Ewropeaidd. Mae'n cymeradwyo cyfreithiau ar y cyd gyda Chyngor y Gweinidogion.

Llysoedd Ewrop

Mae bob aelod wladwriaeth yn anfon barnwr i Lys Cyfiawnder Ewrop yn Lwcsembwrg. Mae'r llys yn sicrhau y caiff deddfau eu pasio yn Ewropeaidd ac y cânt eu dehongli'n gywir. Mewn rhai amgylchiadau, gall unigolion hefyd ddod ag achosion yn erbyn sefydliadau'r UE.

Mae gan Lys Archwilwyr hefyd un aelod o bob aelod wladwriaeth. Mae'n adolygu cyfrifon yr Undeb Ewropeaidd, er mwyn sicrhau bod arian yn cael ei ddefnyddio'n gyfreithiol, yn economaidd, yn effeithlon ac yn effeithiol, ac ar gyfer y pwrpas bwriedig.

Y DU yn yr Undeb Ewropeaidd

Fel aelod o'r Undeb Ewropeaidd, mae'r UK yn rhwym wrth amrywiol ddeddfwriaethau a pholisïau. Maent yn seiliedig ar gyfres o gytundebau ers y 1950au, sy'n nodi pwerau'r Undeb Ewropeaidd a sut y gall eu defnyddio.

Mae gweinidogion llywodraeth y DU yn cyfrannu yn y trafodaethau a'r broses gwneud penderfyniadau, a gwneir y penderfyniad terfynol ar y cyd gan yr holl aelod wladwriaethau. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am rôl Prydain yn yr Undeb Ewropeaidd ar y wefan isod.

Cynrychiolaeth Barhaol y Deyrnas Unedig yn yr Undeb Ewropeaidd (UKRep) sy'n cynrychioli buddiannau'r DU yn yr UE. Wedi'i leoli ym Mrwsel, UKRep sy'n cynnal y rhan fwyaf o drafodaethau a lobïo ar ran llywodraeth y DU. Ar ôl datganoli, agorwyd swyddfeydd ym Mrwsel i hyrwyddo buddiannau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, drwy weithio'n agos gydag UKRep.

Cytundeb Lisbon yr Undeb Ewropeaidd

Yn y cyfarfod Ewropeaidd a gynhaliwyd ym mis Mehefin 2007 rhoddwyd y gorau i'r syniad o Gyfansoddiad Ewropeaidd, a gafodd ei wrthod gan bleidleiswyr yn Ffrainc a'r Iseldiroedd. Cafodd ei ddisodli gyda chytundeb newydd a fydd yn achosi i'r newidiadau y mae eu hangen er mwyn i Undeb Ewropeaidd o 27 o wledydd weithio'n fwy effeithiol.

Llofnodwyd Cytundeb Lisbon gan arweinwyr aelod wladwriaeth yr UE ym mis Rhagfyr 2007 yn Lisbon, prifddinas Portiwgal.

Cyn y gall ddod i rym, bydd yn rhaid i bob gwlad o'r UE ei gymeradwyo, gan ddilyn eu gweithdrefnau sefydliadol eu hunain. Yn y DU, caiff pob cytundeb ei gyflwyno i'r Senedd, sydd â'r hawl i'w harchwilio a'u trafod yn fanwl.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr hyn y bydd Cytundeb Lisbon yn ei wneud a'r hyn na fydd yn ei wneud ar y wefan isod.

Additional links

Cyfrifo eich ôl-troed carbon!

Cael gwybod am y gyfrifiannell Lleihau'ch CO2 a sut y gallwch chi fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd

Allweddumynediad llywodraeth y DU