Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Y Cenhedloedd Unedig

Sefydliad rhyngwladol yw'r Cenhedloedd Unedig a ffurfiwyd yn 1945, ar ôl diwedd yr Ail Ryfel Byd. Llofnododd y DU a 50 o wledydd eraill Siarter y Cenhedloedd Unedig - ymrwymiad i gadw heddwch drwy gydweithredu rhyngwladol. Mae bron pob gwlad yn y byd yn perthyn i'r Cenhedloedd Unedig bellach, gyda chyfanswm o 192 o wledydd yn aelodau.

Y Cynulliad Cyffredinol

Mae gan bob un o wledydd y Cenhedloedd Unedig gynrychiolydd yn y Cynulliad Cyffredinol - 'senedd y cenhedloedd' sy'n cyfarfod i ystyried problemau mwyaf dyrys y byd.

Bydd gan bob gwladwriaeth sy'n aelod un bleidlais. Y math o faterion a drafodir er enghraifft fydd globaleiddio, AIDS, gwrthdaro yn Affrica a sut mae helpu gwladwriaethau democrataidd newydd.

Bydd penderfyniadau ynghylch meysydd allweddol megis heddwch a diogelwch, derbyn aelodau newydd a chyllideb y Cenhedloedd Unedig yn cael eu penderfynu gan y mwyafrif o ddau draean, tra mai dim ond mwyafrif syml y bydd ei angen ar gyfer materion eraill (y gyfran uchaf o bleidleisiau).

Y Cyngor Diogelwch

Rhan fwyaf pwerus y Cenhedloedd Unedig yw'r Cyngor Diogelwch, ac mae'n gyfrifol am gadw heddwch a diogelwch rhyngwladol. Gall y Cyngor gyfarfod unrhyw bryd pan fo heddwch dan fygythiad.

Mae gan y Cyngor 15 o aelodau. Mae pump o'r rhain - y DU, Tsieina, Ffrainc, Rwsia ac Unol Daleithiau America - yn aelodau parhaol. Etholir y 10 aelod arall gan y Cynulliad Cyffredinol am gyfnodau o ddwy flynedd.

Bydd unrhyw benderfyniad a wneir gan y Cyngor yn gorfod cael naw pleidlais o blaid o blith y 15. Nid oes modd pasio penderfyniad os ceir pleidlais yn erbyn neu feto gan un o'r pum aelod parhaol - megis y DU.

Pan fydd y Cyngor yn credu bod bygythiad i heddwch rhyngwladol, y cam cyntaf fydd ceisio ffyrdd o ddatrys yr anghydfod mewn modd heddychlon. Mae'n bosib y bydd yn awgrymu setliad, neu'n ceisio cyfryngu rhwng y gwledydd dan sylw. Os bydd ymladd, bydd y Cyngor yn ceisio sicrhau cadoediad. Mae'n bosib y bydd hefyd yn anfon cenhadaeth cadw'r heddwch i help i gynnal y cadoediad a chadw lluoedd gwrthwynebus ar wahân.

Gall y Cenhedloedd Unedig gymryd camau hefyd i orfodi ei benderfyniadau. Gall orfodi sancsiynau economaidd neu orchymyn gwahardd gwerthu arfau i wledydd penodol. Ar adegau prin, mae'r Cyngor wedi awdurdodi aelod-wladwriaethau i ddefnyddio 'pob dull angenrheidiol', gan gynnwys camau milwrol, i sicrhau bod penderfyniadau'n cael eu gwireddu.

Yr Ysgrifenyddiaeth

Pan fydd y Cynulliad Cyffredinol neu'r Cyngor Diogelwch yn gwneud penderfyniadau, yr Ysgrifenyddiaeth sy'n gyfrifol am ddarparu'r cymorth angenrheidiol i wireddu'r penderfyniadau hynny. Mae'n cynnwys adrannau a swyddfeydd sydd â chyfanswm o 14,000 o staff (7,000 yn gweithio dros dro ar brosiectau arbennig), a'r rheiny'n dod o dros 170 o wledydd.

Pennaeth yr Ysgrifenyddiaeth yw'r Ysgrifennydd Cyffredinol, sy'n darparu'r arweiniad gweinyddol cyffredinol. Mae'r Ysgrifennydd Cyffredinol yn gwasanaethu am bum mlynedd adnewyddadwy; mae'r rhan fwyaf ohonynt wedi gwasanaethu am ddau dymor. Ban Ki-moon o Dde Korea (llun uchod) yw'r Ysgrifennydd Cyffredinol presennol, a gafodd ei benodi ym mis Ionawr 2007.

Mae pencadlys y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd, a cheir swyddfeydd eraill yng Ngenefa, Fienna, Nairobi a lleoliadau eraill.

Additional links

Cyfrifo eich ôl-troed carbon!

Cael gwybod am y gyfrifiannell Lleihau'ch CO2 a sut y gallwch chi fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd

Allweddumynediad llywodraeth y DU