Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Y Senedd Ewropeaidd sy'n gwneud penderfyniadau ar gyfreithiau Ewropeaidd newydd, ar y cyd â Chyngor yr Undeb Ewropeaidd. Y Senedd yw'r unig gorff a etholwyd yn uniongyrchol o'r Undeb Ewropeaidd. Mae gan y Senedd 785 o aelodau (ASEau), sy'n cynnwys 78 o'r DU, sy'n cynrychioli'r bobl yn eu rhan hwy o'r wlad.
Mae Senedd Ewrop yn cyfarfod yn llawn yn Strasbourg am wythnos bob mis. Am weddill yr amser, mae Aelodau Senedd Ewrop (ASEau) yn gweithio ym Mrwsel ac yn cyfarfod mewn pwyllgorau arbenigol.
Ymgynghorir â'r Senedd ar benderfyniadau pwysig, ac mae'n rhannu cryn bŵer gyda Chyngor yr Undeb Ewropeaidd dros gyllideb y Gymuned Ewropeaidd (a elwir yn Gyngor y Gweinidogion hefyd). Mewn meysydd deddfwriaeth mae ei rôl yn amrywio rhwng:
Mae'r Senedd a'r Cyngor hefyd yn rhannu awdurdod dros gyllideb y Gymuned Ewropeaidd. Mae'r Senedd hefyd yn cymeradwyo penodi'r Comisiwn Ewropeaidd, ac yn cymeradwyo cytundebau rhyngwladol.
I gael rhagor o wybodaeth am Gyngor yr Undeb Ewropeaidd, ewch i 'Yr Undeb Ewropeaidd'.
Cyhoeddir rhywfaint o ddeddfwriaeth y Gymuned Ewropeaidd ar y cyd gan Gyngor yr Undeb Ewropeaidd a Senedd Ewrop, rhywfaint gan y Cyngor a rhywfaint gan y Comisiwn dan bwerau dirprwyedig. Mae'n cynnwys rheoliadau, cyfarwyddebau a phenderfyniadau:
Gellir mynegi argymhellion a safbwyntiau nad ydynt wedi'u rhwymo hefyd.
Cynhelir yr etholiadau ar gyfer Aelodau Senedd Ewrop bob pum mlynedd, yn y 27 aelod-wladwriaeth yr Undeb Ewropeaidd. Cynhaliwyd yr etholiadau diwethaf ym mis Mehefin 2004. Yn y DU, cynhaliwyd y rhain yn ôl y drefn cynrychiolaeth gyfrannol, fel sy'n digwydd yn yr aelod-wladwriaethau eraill.
Mae pob aelod-wladwriaeth yn darparu un o'r barnwyr i wasanaethu yn Llys Cyfiawnder Ewrop, yr awdurdod terfynol ar bob agwedd ar Gyfraith Gymunedol Ewropeaidd. Rhaid i'r aelod-wladwriaethau gydymffurfio â'i benderfyniadau a gellir gosod dirwyon ar y rhai na fyddant yn gwneud hynny.
Cynorthwyir y Llys Barn gan Lys y Gwrandawiad Cyntaf, sy'n delio gyda rhai achosion sy'n cael eu dwyn gan unigolion a chwmnïau.
Cael gwybod am y gyfrifiannell Lleihau'ch CO2 a sut y gallwch chi fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd