Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Etholiadau cyffredinol ac etholiadau Ewropeaidd

Yma cewch wybod sut y cynhelir etholiadau, lle mae dod o hyd i ganlyniadau etholiad, sut y penderfynir ar ffiniau etholaethau a sut y cânt eu hadolygu, a sut y gallwch chi eich hun sefyll fel ymgeisydd.

Etholiadau cyffredinol

Mewn etholiad cyffredinol, mae pob ardal yn y wlad yn ethol un Aelod Seneddol (AS) i'w cynrychioli yn Nhŷ'r Cyffredin. Ceir 646 o ardaloedd daearyddol, a elwir yn etholaethau.

Mae gan bob unigolyn sy'n gymwys i bleidleisio un bleidlais yn ei etholaeth leol, a'r ymgeisydd sydd â'r mwyaf o bleidleisiau fydd yn dod yn Aelod Seneddol dros yr ardal honno. Gelwir y system bleidleisio hon yn system 'cyntaf i'r felin'. Yna, fel arfer, y blaid wleidyddol sydd â'r mwyaf o Aelodau Seneddol fydd yn ffurfio'r Llywodraeth – er y gall dwy neu ragor o bleidiau a fyddai'n ffurfio mwyafrif ddod at ei gilydd i greu llywodraeth glymblaid.

Rhaid cael etholiad cyffredinol bob pum mlynedd o leiaf. Y Prif Weinidog sy'n penderfynu pryd i alw etholiad. Cynhaliwyd yr etholiad cyffredinol diwethaf ar 5 Mai 2005, felly rhaid cynnal yr etholiad nesaf erbyn 2010.

Os bydd Aelod Seneddol yn marw neu'n ymddiswyddo rhwng dau etholiad, ceir isetholiad yn eu hetholaeth.

Etholiadau Ewropeaidd

Cynhelir etholiadau ar gyfer Senedd Ewrop bob pum mlynedd. Cynhaliwyd yr etholiadau Ewropeaidd diwethaf ym mis Mehefin 2004, a bydd yr etholiadau nesaf yn cael eu cynnal ym mis Mehefin 2009.

Mae 78 Aelod o Senedd Ewrop yn cynrychioli'r DU; ar ôl etholiadau 2009 bydd 72 Aelod o Senedd Ewrop yn cynrychioli'r DU. Mae'r DU wedi'i rhannu'n 12 rhanbarth, ac mae rhwng tri a deg Aelod o Senedd Ewrop ym mhob rhanbarth.

Dilynir y drefn cynrychiolaeth gyfrannol er mwyn ethol Aelodau o Senedd Ewrop. Ym Mhrydain, un bleidlais sydd gennych i ethol yr holl Aelodau a fydd yn mynd ar Senedd Ewrop. Bydd pob plaid yn cyflwyno rhestr o ymgeiswyr, a elwir yn rhestr ranbarthol, a byddwch yn pleidleisio dros un o'r rhestri hyn neu dros ymgeisydd annibynnol. Yna, dyrennir nifer o Aelodau o Senedd Ewrop i'r pleidiau yn unol â chyfran y pleidleisiau y maent wedi'u cael.

Yng Ngogledd Iwerddon, mae'r drefn bleidleisio'n wahanol, oherwydd defnyddir trefn y 'bleidlais sengl drosglwyddadwy'. Byddwch yn pleidleisio drwy roi'r ymgeiswyr yn nhrefn eich dewis.

Y Comisiwn Etholiadol

Corff annibynnol yw'r Comisiwn Etholiadol, a'i nod yw codi hyder a chyfranogiad y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd. Mae ei wefan yn rhoi gwybodaeth am nifer o faterion sy'n ymwneud ag etholiadau, yn ogystal â data a chanlyniadau etholiadau a fu.

Mae'r Comisiwn hefyd yn cynnig taflenni gwybodaeth am amrywiaeth o destunau gan gynnwys cyfrinachedd pleidleisio, rhoddion i ymgeiswyr, darllediadau gwleidyddol, refferenda ac e-bleidleisio.

Etholaethau a ffiniau

Ffiniau etholaethau

Mae'r Comisiwn Ffiniau ar gyfer Lloegr yn adolygu'r etholaethau seneddol yn Lloegr, ac yn cyflwyno'r argymhellion a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer newid ffiniau etholaethau.

Ceir Comisiwn Ffiniau cyfatebol ar gyfer Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Mapiau etholiadol

Mae Arolwg Ordnans yn darparu mapiau ar-lein o ranbarthau etholiadau, yn bennaf i'w defnyddio gan athrawon ac ymgyrchwyr etholiadau. Gallwch ddewis gwahanol ffiniau etholaethol a gweinyddol i'w gosod gyda'i gilydd ar y map, i weld maint yr etholaeth neu'r rhanbarth llywodraeth leol yr ydych yn byw ynddynt.

Sefyll mewn etholiad

Mae'r Comisiwn Etholiadol yn cyhoeddi gwybodaeth ar gyfer pobl sydd â diddordeb mewn sefyll fel ymgeisydd mewn gwahanol fathau o etholiadau.

Additional links

Cofrestru i bleidleisio

Cael gwybod mwy am bleidleisio a llwytho ffurflen gofrestru oddi ar y we

Allweddumynediad llywodraeth y DU