Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Pleidiau gwleidyddol

Mae'r system bleidiol yn seiliedig ar grwpiau gwleidyddol sydd â'u polisïau eu hunain, yn cystadlu am gefnogaeth y cyhoedd er mwyn ennill grym. Yn y Senedd, mae'r ddwy blaid sydd â'r mwyaf o Aelodau Seneddol yn ffurfio'r Llywodraeth a'r Wrthblaid.

Ynghylch pleidiau gwleidyddol

Grŵp o bobl a chanddynt syniadau tebyg ynghylch sut y dylai'r wlad gael ei rhedeg yw plaid wleidyddol. Eu nod yw cael eu hymgeiswyr wedi'u hethol er mwyn ennill grym gwleidyddol.

Ar ôl etholiad cyffredinol, bydd y blaid gyda'r mwyafrif o Aelodau Seneddol fel arfer yn ffurfio'r Llywodraeth newydd. Y blaid ail fwyaf fydd yr Wrthblaid swyddogol, gyda'i harweinydd ei hun a 'chabinet yr wrthblaid'.

Mae'r rhan fwyaf o ymgeiswyr mewn etholiadau, a bron y cyfan o'r ymgeiswyr sy'n ennill, yn perthyn i un o'r prif bleidiau. Os nad oes yw Aelod Seneddol yn perthyn i blaid wleidyddol, fe'i gelwir yn 'Annibynnol'.

Hanes y system bleidiol

Mae'r drefn o gael pleidiau gwleidyddol wedi bodoli er y ddeunawfed ganrif o leiaf. Esblygodd o'r rhaniad hanesyddol ymhlith y Chwigiaid a'r Torïaid yn ystod oes y Stiwartiaid. Dros y 150 mlynedd diwethaf, system dwy blaid y mae Prydain wedi'i chael yn bennaf, lle mae dwy blaid yn rheoli er y bydd pleidiau eraill o bosib.

Er 1945, naill ai'r Blaid Geidwadol neu'r Blaid Lafur sydd wedi bod mewn grym. Ffurfiwyd y Democratiaid Rhyddfrydol, y blaid drydedd fwyaf yn y DU, pan unodd y Blaid Ryddfrydol â'r Blaid Ddemocrataidd Gymdeithasol yn 1988.

Cynrychiolaeth pleidiau gwleidyddol yn y Senedd

Mae gan y DU amrywiaeth eang o bleidiau gwleidyddol, gan gynnwys pleidiau cenedlaethol yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae gan y pleidiau canlynol aelodau yn Nhŷ'r Cyffredin neu yn Nhŷ'r Arglwyddi:

  • Y Blaid Lafur
  • Y Blaid Geidwadol
  • Democrat Rhyddfrydol
  • Plaid Genedlaethol yr Alban (SNP)
  • Plaid Cymru
  • Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd (DUP)
  • Sinn Féin
  • Y Blaid Lafur, Ddemocrataidd a Chymdeithasol (SDLP)
  • Plaid Unoliaethol Ulster (UUP)
  • Respect
  • Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (UKIP)
  • Llafur Annibynnol
  • Ceidwadol Annibynnol

Defnyddiwch y ddolen isod i fynd i wefannau'r pleidiau sydd ag aelodau yn Senedd y DU, Senedd yr Alban, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Cynulliad Gogledd Iwerddon a Senedd Ewrop.

Mae mwy o lawer o bleidiau'n cystadlu mewn etholiadau. Gallwch weld y gofrestr lawn o bleidiau gwleidyddol ar wefan y Comisiwn Etholiadol.

Swyddogaeth pleidiau gwleidyddol yn y Senedd

Mae effeithiolrwydd y system bleidiol yn y Senedd yn dibynnu ar y berthynas rhwng y Llywodraeth a'r gwrthbleidiau.

Mae'r gwrthbleidiau'n cyfrannu at bolisïau a deddfwriaethau drwy roi beirniadaeth adeiladol, gwrthwynebu cynigion y llywodraeth nad ydynt yn cytuno â hwy, a chyflwyno eu polisïau eu hunain i wella'u siawns o ennill yr etholiad cyffredinol nesaf.

Mae arweinwyr y Llywodraeth a'r Wrthblaid yn eistedd gyferbyn â'i gilydd ar y meinciau blaen yn siambr drafod Tŷ'r Cyffredin. Mae'u cefnogwyr, sef y 'meincwyr cefn', yn eistedd y tu ôl iddynt.

Ceir trefniadau eistedd tebyg yn Nhŷ'r Arglwyddi, ond bydd yr arglwyddi nad ydynt yn dymuno bod yn gysylltiedig ag unrhyw blaid wleidyddol yn dewis eistedd ar y 'croesfeinciau'.

Prif Chwipiaid

Prif Chwipiaid y Llywodraeth yn Nhŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi, drwy ymgynghori â Chwipiaid yr Wrthblaid, sy'n trefnu amserlen fusnes y llywodraeth. Gyda'i gilydd, gelwir y Prif Chwipiaid yn 'sianelau arferol' pan drafodir dod o hyd i amser ar gyfer eitem fusnes neilltuol.

Bydd y Prif Chwipiaid a'u cynorthwywyr, a ddewisir fel arfer gan arweinwyr y pleidiau, yn rheoli'u pleidiau seneddol. Mae'u dyletswyddau'n cynnwys rhoi gwybod i'r aelodau am y busnes seneddol sydd ar droed, cynnal cryfder pleidleisio'r blaid drwy sicrhau bod yr aelodau'n mynychu dadleuon pwysig, a rhoi gwybod i arweinwyr y pleidiau beth yw barn aelodau'r meinciau cefn.

Cyllido pleidiau

Nod Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 yw gwneud cyllid pleidiau yn fwy agored. Mae'n nodi

  • dim ond gan 'roddwyr cymeradwy' y caiff pleidiau dderbyn rhoddion o £200 neu fwy; mae'r rhoddwyr cymeradwy hynny'n cynnwys unigolion ar gofrestr etholiadol y DU, cwmnïau cofrestredig sydd wedi'u corffori yn yr UE sy'n cynnal busnes yn y DU, pleidiau gwleidyddol cofrestredig, neu undebau llafur
  • ei bod yn rhaid hysbysu'r Comisiwn Etholiadol yn chwarterol, neu'n wythnosol yn ystod ymgyrch etholiad cyffredinol, am bob rhodd dros £5,000 a roddir i swyddfa ganolog plaid wleidyddol
  • ei bod yn rhaid hysbysu'r Comisiwn Etholiadol am bob rhodd dros £1,000 a roddir i unedau cyfrifyddu, megis cymdeithas etholaethol
  • bod Aelodau Seneddol unigol a phobl eraill a etholir i swydd, gan gynnwys Aelodau o Senedd Ewrop, aelodau o gynulliad datganoledig Cymru, cynulliad datganoledig Gogledd Iwerddon a Senedd yr Alban, aelodau o awdurdodau lleol a Maer Llundain, yn rhwym wrth reolaethau tebyg ar ffynonellau rhoddion a rhaid hysbysu'r Comisiwn Etholiadol am unrhyw roddion dros £1,000
  • rhoddir cap ar wariant ymgyrchu pleidiau gwleidyddol cyn etholiad cyffredinol; bydd gan bleidiau lwfans o £30,000 ar gyfer pob etholaeth a ymleddir ganddi
  • bod terfyn yn cael ei roi ar wariant trydydd partïon (fel undebau llafur), sef pump y cant o'r uchafswm ar gyfer pleidiau gwleidyddol

Additional links

Cofrestru i bleidleisio

Cael gwybod mwy am bleidleisio a llwytho ffurflen gofrestru oddi ar y we

Allweddumynediad llywodraeth y DU