Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych am bleidleisio mewn etholiad neu refferendwm yn y DU, mae’n rhaid i’ch enw fod ar y gofrestr etholiadol. Ni fyddwch yn cael eich cofrestru’n awtomatig, a bydd yn rhaid i chi adnewyddu’ch manylion bob blwyddyn. Yma, cewch wybod pwy sy'n gymwys, a sut mae gwneud yn siŵr eich bod wedi'ch cofrestru i bleidleisio.
Rhestr o enwau a chyfeiriadau pawb sydd wedi cofrestru i bleidleisio yw’r gofrestr etholiadol. Fe’i defnyddir hefyd gan asiantaethau ymholiadau credyd i gadarnhau eich manylion ac atal twyll.
Ar ôl cofrestru, byddwch yn gallu pleidleisio mewn gwahanol fathau o etholiadau, yn dibynnu ar o ble rydych chi'n dod ac ym mhle rydych yn byw:
Cewch gofrestru i bleidleisio os ydych chi’n 16 oed neu’n hŷn ac yn un o ddinasyddion Prydain, Iwerddon, y Gymanwlad neu’r Undeb Ewropeaidd.
Ceir gwybodaeth am y mathau o etholiadau y gallwch bleidleisio ynddynt a phryd y cynhelir etholiadau ar wefan Fy Mhleidlais I neu o’ch swyddfa cofrestru etholiadol leol.
Os ydych chi’n 16 neu’n 17 oed, cewch gofrestru’n awr ond ni chewch bleidleisio nes byddwch yn 18.
Ceir dwy fersiwn o’r gofrestr etholiadol:
Bydd eich enw a’ch cyfeiriad yn ymddangos ar y gofrestr lawn, ond gallwch ddewis a ydych yn dymuno ymddangos ar y gofrestr olygedig ai peidio.
Defnyddir y gofrestr etholiadol hefyd i ddewis pobl ar hap ar gyfer gwasanaeth rheithgor.
Bydd y rhan fwyaf o bobl yn cofrestru neu’n ailgofrestru rhwng mis Awst a mis Tachwedd bob blwyddyn, pan fydd y cyngor lleol yn anfon ffurflen gofrestru i’ch cartref. Gelwir hyn yn ‘gofrestriad blynyddol’.
Yn ôl y gyfraith, mae'n ofynnol i chi ddychwelyd y ffurflen hon, hyd yn oed os nad oes newid iddi neu os nad oes neb yn gymwys i bleidleisio yn eich cyfeiriad chi. Dylai’r ffurflen restru'r holl bobl a fydd yn byw yn eich cyfeiriad ar 15 Hydref ac sy'n gymwys i bleidleisio.
Os nad yw manylion eich cartref wedi newid, mewn rhai awdurdodau lleol, gallwch adnewyddu’ch ffurflen gofrestru ar-lein neu dros y ffôn. Bydd y ffurflen yn cynnwys y wybodaeth angenrheidiol.
Cyhoeddir cofrestr etholiadol newydd ar 1 Rhagfyr bob blwyddyn, a bydd hon yn cynnwys yr holl newidiadau a wnaed yn ystod y cofrestriad blynyddol. Ni fydd eich manylion yn cael eu hadnewyddu tan y dyddiad hwn, felly os gelwir etholiad a chithau'n symud tŷ, efallai y byddwch yn dymuno gwneud cais am bleidlais bost neu bleidlais drwy ddirprwy.
Yn ystod gweddill y flwyddyn (o fis Rhagfyr i ganol Awst), bydd y gofrestr etholiadol yn cael ei diweddaru bob mis. Gelwir hyn yn ‘gofrestru fesul cam'. Mae hyn yn ddefnyddiol os ydych chi’n symud tŷ.
Os ydych yn gymwys i bleidleisio, gallwch gofrestru unrhyw bryd drwy lenwi ffurflen gofrestru a’i hanfon i'ch swyddfa cofrestru etholiadol leol, sydd fel arfer yn yr un adeilad â'ch cyngor lleol. Gallwch lwytho ffurflen oddi ar wefan Fy Mhleidlais I neu wefan eich cyngor lleol.
Ni chewch eich cofrestru i bleidleisio'n awtomatig, hyd yn oed os ydych yn talu'r Dreth Gyngor. Mae cofrestru ar gyfer etholiad yn broses ar wahân i gofrestru ar gyfer y Dreth Gyngor. Os nad ydych yn siŵr a ydych wedi’ch cofrestru i bleidleisio ai peidio, yn aml iawn, gall eich swyddfa cofrestru etholiadol ddweud wrthych.
Gall pobl sy'n gwasanaethu dramor (a'u gwŷr, eu gwragedd neu’u partneriaid sifil) gofrestru i bleidleisio fel pleidleisiwr o’r Lluoedd Arfog. Cewch bleidleisio’n bersonol, drwy’r post neu drwy ddirprwy, er ei bod yn bosib na fydd digon o amser i chi bleidleisio drwy’r post os ydych chi dramor.
Os ydych chi'n byw yn y DU, gallwch naill ai ddewis gwneud datganiad gwasanaeth neu bleidleisio yn y ffordd draddodiadol.
Mae ffurflenni datganiad gwasanaeth ar gael ar wefan Fy Mhleidlais I, neu drwy gysylltu â'ch swyddfa cofrestru etholiadol leol. Rhaid i chi adnewyddu eich datganiad gwasanaeth bob tair blynedd.
Caiff dinasyddion Prydeinig sy'n byw dramor ac sydd wedi'u cofrestru i bleidleisio yn y DU o fewn y 15 mlynedd diwethaf gofrestru fel pleidleisiwr o dramor.
Cewch bleidleisio yn etholiadau cyffredinol y DU ac yn etholiadau Senedd Ewrop, ond nid mewn etholiadau llywodraeth leol yn y DU nac mewn etholiadau ar gyfer llywodraethau datganoledig (Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon).