Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os gwrthodwyd rhoi benthyciad neu gredyd i chi, neu os ydych yn poeni y bydd hynny'n digwydd, gallwch weld y wybodaeth sy'n cael ei chadw amdanoch chi. Os ydyw'n anghywir cewch ei chywiro. Os yw'r wybodaeth yn gywir a'ch bod yn pryderu am eich dyledion, gallwch gael cyngor di-dâl.
Pan fyddwch yn gwneud cais am fenthyciad neu gredyd, bydd y benthycwyr eisiau gwybod eich bod yn gallu ad-dalu unrhyw arian y byddant yn ei fenthyg i chi. Byddant yn asesu hyn mewn dwy ffordd allweddol fel arfer:
Er mwyn cyfrifo eich sgôr credyd bydd benthycwyr yn gofyn i chi am fanylion:
Byddant yn rhoi pwyntiau i chi am eich atebion. Os na fyddwch yn sgorio digon o bwyntiau, gallant:
Ni fydd benthyciwr fel rheol yn dweud wrthych pam eu bod wedi gwrthod rhoi benthyciad i chi ond efallai y rhoddant syniad cyffredinol i chi os gofynnwch iddynt.
Gallwch ofyn iddynt ailystyried:
Bydd benthycwyr yn sgorio cwsmeriaid mewn sawl gwahanol ffordd, felly gallwch roi cynnig arall gyda benthyciwr arall. Cofiwch, fodd bynnag, y bydd pob cais yn cael ei nodi ar eich 'ffeil credyd' a gedwir gan asiantaethau archwilio credyd. Bydd gormod o geisiadau a wrthodwyd yn cael effaith negyddol ar eich hanes credyd.
Mae gan asiantaethau archwilio credyd wybodaeth (a elwir yn 'hanes credyd') ar y rhan fwyaf o oedolion yn y DU. Bydd y wybodaeth hon yn cynorthwyo benthycwyr i asesu faint o risg sydd yna o roi benthyg arian i wahanol bobl, ac yn lleihau'r risg o dwyll. Y prif asiantaethau yw Experian, Equifax a Callcredit.
Er mwyn casglu'ch hanes credyd bydd yr asiantaethau archwilio credyd yn cael gwybodaeth o wahanol ffynonellau, gan gynnwys:
Chewch chi ddim atal benthycwyr rhag edrych ar eich ffeil gredyd, ond dywed y gyfraith y cewch chi weld beth sydd arni. Bydd rhaid i chi dalu, ond ni chaiff asiantaethau archwilio credyd godi mwy na £2 am hyn. Efallai y bydd modd i chi weld eich ffeil ar-lein, ond gallai hyn gostio mwy i chi.
Mae Deddf Diogelu Data 1998 yn rhoi'r hawl i chi gywiro neu gael gwared â gwybodaeth ar eich ffeil credyd os yw'n anghywir (ond nid am eich bod chi ddim yn ei hoffi). Bydd yr asiantaethau archwilio credyd yn rhoi gwybod i chi sut mae gwneud hyn.
Bydd rhai cwmnïau 'trwsio credyd' masnachol yn cynnig cael gwared â gwybodaeth oddi ar eich ffeil er mwyn ei 'glanhau'. Mae'r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol yn rhybuddio na ddylech eu defnyddio - mae'n well i chi'ch hun gysylltu â'r asiantaethau archwilio credyd.
Efallai y gwrthodir rhoi benthyciad i chi oherwydd bod eich ffeil credyd yn dangos nad ydych wedi bod yn ad-dalu benthyciad nad oeddech yn ymwybodol ohoni. Gall hyn ddigwydd os ydy rhywun wedi dwyn eich manylion personol ac wedi gwneud cais am fenthyciadau neu gardiau credyd yn eich enw chi. Dilynwch y ddolen er mwyn cael gwybod sut mae osgoi hyn neu ddelio â'r sefyllfa os bydd rhywun yn dwyn eich manylion personol.
Os gwrthodwyd rhoi credyd i chi oherwydd bod gennych ormod o fenthyciadau'n barod gallwch gael cymorth a chyngor am sut i gynllunio'ch ffordd allan o ddyled gan nifer o wahanol sefydliadau, a hynny'n rhad ac am ddim. Darllenwch fwy yn ein hadran ar gynllunio'ch ffordd allan o ddyled.