Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae prynu ar gredyd yn ddull o gael benthyg arian. Mae'n cynnwys talu gyda cherdyn credyd neu gerdyn siop, 'hur-bwrcas', a chytundebau eraill sy'n cynnwys credyd di-log lle cewch 'brynu'n awr a thalu eto'. Cyn prynu ar gredyd mae'n bwysig gwneud yn siŵr y byddwch yn medru fforddio'r ad-daliadau - a chymharu'r cynigion arbennig sydd ar gael.
Cyn i chi benderfynu cael benthyg arian mae'n bwysig eich bod yn hollol suir y byddwch yn gallu ad-dalu'r arian yn y dyfodol. Bydd cyfrifiannell cyllideb y Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn eich cynorthwyo i edrych ar eich incwm ochr yn ochr â'ch treuliau er mwyn i chi gael gweld faint o arian fydd gennych dros ben ar ddiwedd pob mis i ad-dalu arian a fenthycwyd. Os ydych chi eisoes yn gwario mwy na'ch incwm neu'n agos iawn at wneud hynny, dylech feddwl yn ofalus a allwch chi fforddio i gael benthyg mwy o arian.
Cofiwch hefyd y gallai ad-dalu benthyciadau a chardiau credyd fod yn broblem os, er enghraifft, y bydd cyfraddau llog yn codi neu os byddwch yn colli eich swydd. Bydd prawf rhyngweithiol y Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn eich helpu i weld a oes gennych broblemau neu a ydych yn debygol o gael problemau gyda chael benthyg arian.
Pan fyddwch yn talu am nwyddau neu wasanaethau gyda cherdyn credyd, cewch fil unwaith y mis ac fel rheol, bydd gennych fis arall i'w dalu. O ganlyniad, mae cardiau credyd yn ffordd dda o fenthyg arian am dymor byr os gallwch ad-dalu'r bil yn llawn bob mis.
Ond cymrwch ofal - gall cyfradd llog y cerdyn credyd, fel y dangosa'r 'APR' sydd arnynt, fod yn uchel iawn. Os na fyddwch yn ad-dalu'r bil yn llawn codir cyfradd llog ar y cyfanswm, gan gynnwys y rhan yr ydych wedi'i dalu. Peidiwch â defnyddio cerdyn credyd onid ydych yn gwybod y gallwch fforddio i ad-dalu'r taliadau; os na allwch wneud hynny gall eich dyledion fynd allan o reolaeth yn sydyn iawn.
Mae gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol daflen wybodaeth sy'n taro golwg gyffredinol dros holl brif nodweddion, manteision ac anfanteision cardiau credyd. Mae cymdeithas daliadau'r DU yn cynnig cyngor diduedd am sut i ddewis a defnyddio cardiau credyd - gan gynnwys deall 'APR' a chymharu'r bargeinion sydd ar gael.
Mae cardiau siop yn gweithio yn yr un ffordd â chardiau credyd, oni bai am y canlynol:
Meddyliwch yn ofalus cyn tanysgrifio i gael cerdyn siop. Nid ydynt yn addas oni allwch ad-dalu eich bil yn llawn o fewn mis. Os bydd gennych ormod o gardiau bydd yn anoddach i chi gadw cofnod o faint o arian sydd arnoch chi
Gyda hur bwrcas byddwch yn gwneud taliadau misol (a fydd yn cynnwys llog) am yr eitem y byddwch yn ei brynu, ond ni fyddwch yn berchen arno hyd nes eich bod wedi ad-dalu'r holl arian sy'n ddyledus. Gall y cwmni hur bwrcas hawlio'r nwyddau yn ôl os nad ydych yn gwneud eich taliadau.
Gall fod yn haws cael credyd gan gwmni hur bwrcas na chael arian gan fanc neu gwmni credyd, ond bydd yn costio mwy i chi yn y pen draw fel rheol. Edrychwch o gwmpas am y bargeinion hur bwrcas gorau.
Mae Swyddfa Masnachu Teg y llywodraeth hefyd yn darparu arweiniad ynghylch dewis a defnyddio hur bwrcas, gan gynnwys pwyntiau am beth i fod yn wyliadwrus ohono mewn contract a sut mae mynd ati i chwilio am gwmni sy'n darparu'r gwasanaeth hwn.
Mae bargeinion credyd di-log yn eich galluogi i 'brynu'n awr a thalu eto'. Ond os na fyddwch yn talu erbyn y dyddiad dyledus, bydd rhaid i chi dalu llog - ar gyfradd uchel fel rheol - ar y cyfanswm. Byddwch yn wyliadwrus rhag cael eich temtio i brynu nwyddau dim ond am eich bod yn cael credyd di-log. Mae nifer o gwmnïau credyd yn dibynnu ar y ffaith na fyddwch yn llwyddo i wneud y taliad yn llawn mewn pryd.
Pan fyddwch yn prynu o gatalog caiff y nwyddau eu danfon at eich drws ac fel rheol cewch dalu am yr hyn yr ydych wedi ei brynu fesul wythnos mewn cyfres o daliadau bychan. Efallai bod hyn yn gyfleus, ond cofiwch y gallai pris yr eitemau fod yn uwch na phe byddech wedi eu cael o rywle arall. Os codir taliad llog edrychwch ar yr 'APR' - gallai fod yn llawer uwch na'r cyfraddau a geir ar fenthyciadau/cardiau credyd cyffredin.