Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Arsyllwyr etholiadau

Mae caniatáu i bobl arsyllu etholiadau’n ffordd bwysig o wneud yn siŵr bod trefniadau yn y DU yn bodloni safonau a dderbynnir yn rhyngwladol. Drwy gofrestru'n arsyllwr diduedd, cewch fynd i etholiadau a gofyn cwestiynau, ar yr amod nad ydych yn torri ar draws y broses.

Dod yn arsyllwr achrededig

Gall unigolion dros 16 oed a sefydliadau wneud cais i’r Comisiwn Etholiadol i gael eu hachredu. Mae'r Comisiwn Etholiadol yn achredu arsyllwyr ac yn cadw cofrestr ohonynt. Diweddarir y gofrestr yn rheolaidd. Ar ôl i chi gael eich achredu, cewch fod yn bresennol:

  • wrth roi neu dderbyn papurau pleidleisio drwy’r post
  • pan fydd pobl yn bwrw'u pleidlais
  • pan fydd y pleidleisiau'n cael eu cyfri

Gellir cael y cofrestri o arsyllwyr achrededig (unigolion a sefydliadau) gan y Comisiwn Etholiadol isod (ar ffurf Microsoft Excel - gellir cael Gweledydd ar gyfer Excel am ddim gan Microsoft). Rhaid i sefydliadau enwebu aelodau i fod yn arsyllwyr.

Mae'r cynllun achredu’n cynnwys pob arsyllwr yn etholiadau’r DU – heblaw am etholiadau llywodraeth leol yn yr Alban, gan fod hyn wedi’i ddatganoli. Daeth arsyllu etholiadol i rym yng Ngogledd Iwerddon ar 1 Gorffennaf 2008.

Sut mae gwneud cais

Gellir cael ffurflenni cais isod (ar gyfer unigolion a sefydliadau). Gallwch hefyd gael pecyn ymgeisio o unrhyw un o swyddfeydd y Comisiwn Etholiadol – ceir dolen at restr lawn o swyddfeydd isod hefyd.

Mae’r Comisiwn Etholiadol yn argymell bod pob ymgeisydd yn darllen y llyfryn ‘Observers at United Kingdom elections’ (ar gael isod), oherwydd ei fod yn cynnwys arweiniad ar y broses ymgeisio ac yn darparu cod ymddygiad. Rhaid i chi lofnodi datganiad sy'n dweud eich bod wedi darllen ac wedi deall y cod hwn a’ch bod yn cytuno i gadw ato.

Gallai’r Comisiwn wrthod cais am achrediad:

  • os nad yw’r ymgeisydd yn bodloni gofynion y broses ymgeisio, fel y’u nodir yn y cod ymddygiad
  • os yw’r ymgeisydd wedi cael ei riportio neu wedi'i gael yn euog o arfer etholiadol anghyfreithlon yn unrhyw le yn y DU yn ystod y pum mlynedd cyn dyddiad y cais
  • os yw’r ymgeisydd yn berson y mae ei statws blaenorol fel arsyllwr achrededig (neu unigolyn a enwebwyd ar ran sefydliad achrededig) yn y DU wedi’i ddiddymu gan y Comisiwn

Dylech ganiatáu 10 diwrnod ar gyfer prosesu’ch cais. Argymhellir hefyd nad ydych yn aros nes gelwir etholiad cyn gwneud cais, oherwydd ni fyddwch wedi’ch achredu nes bydd tri diwrnod wedi mynd heibio ar ôl i'ch cerdyn adnabod i arsyllwyr gael ei roi i chi, a nes bod eich enw ar y gofrestr arsyllwyr.

Pan fyddwch yn arsyllwr achrededig

A chithau’n arsyllwr achrededig, cewch gerdyn adnabod i arsyllwyr a chewch eich cynnwys ar gofrestr y Comisiwn Etholiadol. Gallwch wedyn fod yn bresennol mewn digwyddiadau penodol mewn etholiad neu refferendwm.

Gall arsyllwyr ddweud wrth swyddogion etholiadau am unrhyw anghysondebau, enghreifftiau o dwyll neu broblemau sylweddol, oni fyddai hyn yn mynd yn groes i ofynion cyfrinachedd. Gallwch ofyn cwestiynau i swyddogion yr etholiad, cynrychiolwyr y pleidiau gwleidyddol ac arsyllwyr eraill mewn gorsafoedd pleidleisio, cyn belled nad ydych yn torri ar draws trefn yr etholiad. Gallwch hefyd ofyn cwestiynau i bleidleiswyr ac ateb eu cwestiynau hwythau, ond ni chewch ofyn i bwy neu beth y gwnaethant bleidleisio.

Rhaid i arsyllwyr fod yn wleidyddol ddiduedd bob amser – gan gynnwys yn eu hamser hamdden. Mae hyn yn golygu na chewch ddangos ochr yng nghyswllt awdurdodau cenedlaethol, pleidiau gwleidyddol, ymgeiswyr neu faterion yn ymwneud â refferendwm, nac yng nghyswllt unrhyw faterion dadleuol yn y broses etholiadol. Mae'n ofynnol hefyd nad ydych yn gwneud dim a allai gael ei weld fel dangos ffafriaeth i unrhyw gystadleuydd gwleidyddol, fel gwisgo neu ddangos unrhyw faneri, lliwiau neu symbolau gwleidyddol.

Additional links

Cofrestru i bleidleisio

Cael gwybod mwy am bleidleisio a llwytho ffurflen gofrestru oddi ar y we

Allweddumynediad llywodraeth y DU