Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mewn etholiad lleol, rydych yn pleidleisio dros y cynghorwyr sy'n rhedeg eich gwasanaethau lleol. Etholir cynghorwyr am dymor o bedair blynedd, er na fydd pob un yn cael ei ethol yr un pryd mewn rhai ardaloedd, felly gall etholiadau gael eu cynnal yn amlach.
Gallwch bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol os ydych wedi cofrestru i bleidleisio a'ch bod:
Ni chewch bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol os ydych:
Mae pleidleisio dros gynghorwyr lleol yn debyg i bleidleisio dros Aelodau Seneddol mewn etholiad cyffredinol. Yng Nghymru a Lloegr, yr ymgeisydd sy'n cael y mwyaf o bleidleisiau sy'n ennill – gelwir hyn yn system bleidleisio 'cyntaf i'r felin'.
Pan fyddwch yn pleidleisio mewn etholiad lleol, bydd y papur pleidleisio yn cynnwys rhestr o'r ymgeiswyr sy'n sefyll i fod yn gynghorydd yn eich ardal. Efallai y gofynnir i chi bleidleisio dros fwy nag un ymgeisydd, yn dibynnu ar lle rydych yn byw.
Yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, gofynnir i chi roi'r ymgeiswyr yn nhrefn eich dewis. Gelwir hyn yn system 'pleidlais sengl drosglwyddadwy', math o gynrychiolaeth gyfrannol.
Yn yr etholiadau ar gyfer Maer Llundain, gofynnir i chi nodi eich dewis cyntaf a'ch ail ddewis ar eich papur pleidleisio, er nad oes rhaid i chi roi ail ddewis. Os na fydd yr un ymgeisydd yn cael mwy na hanner y pleidleisiau dewis cyntaf, ystyrir y pleidleisiau ail ddewis ar gyfer y ddau ymgeisydd sydd ar y blaen er mwyn penderfynu ar yr enillydd.
Ar gyfer etholiadau Cynulliad Llundain, rhennir Llundain yn 14 etholaeth, ac mae'r aelodau'n cael eu hethol gan ddefnyddio system 'y cyntaf i'r felin'. Dyrennir 11 sedd arall ar sail 'ychwanegiadau', drwy gyfri'r pleidleisiau ar draws Llundain a rhannu'r seddi ymysg y pleidiau gwleidyddol yn ôl cyfran y pleidleisiau a gaiff pob plaid.
Cewch wybod mwy ar wefan London Elects.
Cynhelir etholiadau lleol bob pedair blynedd o leiaf. Ceir sawl math o etholiad, oherwydd bod awdurdodau lleol yn cael eu trefnu mewn gwahanol ffyrdd, yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw. Naill ai:
I gael gwybod a fydd etholiad lleol yn eich ardal chi yn y dyfodol agos, ewch i wefan Fy Mhleidlais I neu cysylltwch â'ch cyngor lleol. Gallwch hefyd ddod o hyd i ganlyniadau etholiadau yn eich ardal ar wefan eich awdurdod lleol.
I sefyll mewn etholiad, mae'n ofynnol bod yr ymgeiswyr naill ai'n byw yn ardal yr etholiad ac wedi'u cofrestru i bleidleisio yno, neu fod ganddynt ryw gysylltiad agos arall gyda'r ardal honno, er enghraifft, eu bod yn gweithio yno.
Telir lwfans sylfaenol i gynghorwyr, ond gallant hefyd gael treuliau a lwfansau ychwanegol am fynychu cyfarfodydd neu am ysgwyddo cyfrifoldebau arbennig.
Mae'r Comisiwn Etholiadol yn cyhoeddi gwybodaeth ar gyfer pobl sydd â diddordeb mewn sefyll fel ymgeisydd mewn etholiad.
Mae'r Pwyllgor Ffiniau ar gyfer Lloegr yn adolygu strwythur, ffiniau a threfniadau etholaethol llywodraeth leol yn Lloegr, ac yn gwneud argymhellion ar gyfer newidiadau.
Yn yr Alban, adolygir ffiniau'r awdurdodau lleol a'r trefniadau etholaethol gan Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol yr Alban.
Yng Nghymru, adolygir ffiniau'r awdurdodau lleol a'r trefniadau etholaethol gan Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru.
Yng Ngogledd Iwerddon, adolygir ffiniau llywodraeth leol gan y Comisiynydd Ffiniau ar gyfer Llywodraeth Leol.