Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Strwythur llywodraeth leol

Ar draws y wlad, trefnir cyrff llywodraethol lleol mewn cymysgedd o un haen neu dwy haen. Bydd sut y trefnir eich system leol yn dibynnu ar ble yr ydych chi’n byw. Gallwch gael gwybod mwy isod.

Cynghorau sir a chynghorau dosbarth

Mae dwy lefel yn y rhan fwyaf o Loegr: cyngor sir a chyngor dosbarth. Mae cynghorau sir yn ymestyn dros ardaloedd mawr ac yn darparu'r rhan fwyaf o wasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys ysgolion, gwasanaethau cymdeithasol, a thrafnidiaeth gyhoeddus.

Mae pob sir wedi’u rhannu'n ddosbarthiadau gwahanol. Mae cynghorau dosbarth yn ymestyn dros ardaloedd llai ac yn darparu gwasanaethau mwy lleol, fel tai cyngor, campfaoedd a chyfleusterau hamdden, cynllunio lleol, ailgylchu a chasglu sbwriel. Mae’n bosib y gelwir cynghorau dosbarth sydd â statws bwrdeistref neu ddinas yn gyngor bwrdeistref neu'n cyngor dinas yn hytrach na chyngor dosbarth, ond nid yw hyn yn newid eu rôl.

Awdurdodau unedol

Yn y rhan fwyaf o drefi a dinasoedd mwy, ac mewn rhai siroedd bach, bydd dim ond un lefel o lywodraeth leol sy’n gyfrifol am yr holl wasanaethau lleol. Gelwir y rhain yn ‘awdurdod unedol’. Gan ddibynnu ble y mae'r rhain yn y wlad, gallant gael eu henwi’n cynghorau dosbarth metropolitan, cyngor bwrdeistref, cynghorau dinas, cynghorau sir, neu gynghorau dosbarth.

Yn Llundain, mae pob bwrdeistref yn awdurdod unedol, ond mae Awdurdod Llundain Fwyaf (y Maer a'r Cynulliad) yn darparu llywodraeth ledled Llundain sydd â chyfrifoldeb dros rai gwasanaethau fel trafnidiaeth a'r heddlu.

Yn Ebrill 2009, cyflwynwyd llywodraethau unedol gan y llywodraeth mewn saith rhanbarth yn Lloegr; gan leihau 44 awdurdod lleol i naw yn unig. Y syniad oedd symleiddio’r system, oherwydd bod preswylwyr lleol yn fwyfwy gymysglyd ynghylch pa awdurdod lleol oedd yn gyfrifol am wasanaethau lleol.

Yn yr Alban, ceir system unedol gyda llywodraeth leol un lefel. Yng Ngogledd Iwerddon, ceir cynghorau lleol, ond cyflawnir y rhan fwyaf o wasanaethau gan sefydliadau eraill.

Cynghorau tref a phlwyf

Mewn rhai rhannau o Loegr ceir cynghorau tref a chynghorau plwyf ar gyfer ardaloedd llai. Yng Nghymru, fe'u gelwir yn gynghorau cymuned.

Maent yn gyfrifol am wasanaethau fel rhandiroedd, toiledau cyhoeddus, parciau a llynnoedd, cofebion rhyfel, neuaddau lleol a chanolfannau cymuned. Fe'u gelwir weithiau'n drydedd haen llywodraeth leol.

Yn yr Alban ceir cynghorau cymuned a chanddynt lai o bwerau. Nid oes unrhyw beth yn cyfateb i hyn yng Ngogledd Iwerddon.

Gwasanaethau ar y cyd

Mae rhai awdurdodau lleol yn rhannu gwasanaethau sy'n ymestyn dros feysydd eang, fel yr heddlu, y gwasanaethau tân a thrafnidiaeth gyhoeddus. Gellir gwneud hyn er mwyn osgoi rhannu gwasanaethau pan gaiff strwythurau cynghorau eu newid, neu oherwydd bod rhai cynghorau'n rhy fach i redeg gwasanaeth effeithiol ar eu pen eu hunain.

Mae gan bob rhan o'r DU wasanaeth tân ac achub awdurdod lleol. Dan y gyfraith, rhaid i bob un o'r 59 awdurdod tân ddarparu gwasanaeth ymladd tanau a chadw brigâd i ddiwallu'r holl ofynion arferol. Mae pob awdurdod tân yn penodi Prif Swyddog Tân, neu Feistr Tân yn yr Alban, sy'n rheoli'r gwaith yn feunyddiol.

Gweithwyr llywodraeth leol

Mae mwy na dwy filiwn o bobl yn cael eu cyflogi gan awdurdodau lleol. Mae'r rhain yn cynnwys athrawon ysgol, y gwasanaethau cymdeithasol, yr heddlu, ymladdwyr tân, yn ogystal â gweithwyr swyddfa a gweithwyr llaw eraill. Addysg yw'r gwasanaeth mwyaf a ddarperir yn lleol.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio i wasanaethau llywodraeth leol, gallwch gael gwybod am swyddi yn eich cyngor lleol a'ch cynghorau agos drwy ddilyn y ddolen isod.

Dod o hyd i'ch cyngor lleol

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am eich awdurdod lleol, a'r gwasanaethau y mae'n ei ddarparu, ar y wefan.

Additional links

Cross & Stitch Lleol

Cysylltu â'ch awdurdod lleol a chael gwybod am y gwasanaethau ar-lein y mae yn eu darparu

Allweddumynediad llywodraeth y DU