Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae dau fath o faer ac mae ganddynt rolau gwahanol. Mae gan lawer o gynghorau lleol faer ar gyfer dyletswyddau seremonïol, a'r cynghorwyr sy'n ei ddewis. Mae gan rai cynghorau faer etholedig sydd â phŵer i wneud penderfyniadau, a'r cyhoedd sy'n ei ddewis.
Mae gan rai ardaloedd y teitl seremonïol o fwrdeistref, neu ddinas, a roddwyd drwy awdurdod brenhinol. Yn draddodiadol, mae cynghorwyr yn dewis maer (profost yn yr Alban) i weithredu fel swyddog llywyddu ac i ymgymryd â dyletswyddau seremonïol dinesig.
Mae'r maer yn cynrychioli'r dosbarth mewn digwyddiadau seremonïol a chymdeithasol, ac mae'n cyfarfod ag ymwelwyr pwysig, ac yn gadeirydd mewn cyfarfodydd y cyngor. Nid yw rôl y maer yn wleidyddol ac ni allant wneud penderfyniadau ar fusnes y cyngor. Mae meiri yn gwisgo cadwyn aur a gŵn goch ar achlysuron arbennig.
Yn Ninas Llundain, a rhai dinasoedd mawr eraill, mae'n cael ei alw wrth y teitl Arglwydd Faer. Yn yr Alban, teitl swyddog llywyddu'r pedair dinas sydd wedi'u sefydlu hiraf (Aberdeen, Dundee, Caeredin a Glasgow) yw'r Arglwydd Brofost.
Mewn cynghorau lleol nad oes ganddynt statws bwrdeistref neu ddinas, ceir cadeirydd ar y cyngor yn hytrach na maer, sy'n cyflawni'r un dyletswyddau.
Cyflwynwyd strwythurau gwneud penderfyniadau newydd i awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 2000, gan gynnwys yr opsiwn o faer a etholir yn uniongyrchol.
Mae meiri etholedig yn gyfrifol am redeg gwasanaethau lleol o ddydd i ddydd. Cânt eu hethol gan bobl leol, a byddant yn gwasanaethu am bedair blynedd. Maent yn rhoi arweiniad gwleidyddol i'r cyngor a'r gymuned, ac yn cyflawni polisïau'r awdurdod lleol.
Y maer etholedig mwyaf adnabyddus yw Maer Llundain, sef pennaeth Awdurdod Llundain Fwyaf - nid yw hwn yr un maer ag Arglwydd Faer Llundain. Fodd bynnag, mae gan Faer Llundain bwerau ehangach, mwy strategol na'r meiri etholedig eraill.
Yn y rhan fwyaf o awdurdodau lleol, mae'r trefniadau'n seiliedig ar un o dri fframwaith gweithredol:
O fewn yr opsiynau hyn, mae gan awdurdodau lleol hyblygrwydd i weithio yn unol â chyfansoddiad sy'n adlewyrchu amgylchiadau lleol. Mae'r rhan fwyaf o awdurdodau lleol Cymru a Lloegr wedi dewis math o weithrediaeth lle mae arweinydd y cabinet yn cael ei ddewis gan gynghorwyr eraill.
Mae gan gynghorau dosbarth bach gyda phoblogaeth o lai na 85,000 ddewis o ddiwygio'u system bwyllgor gyfredol hefyd.
O dan ddarpariaethau yn Neddf Llywodraeth Leol 2000, rhaid i gynghorau yng Nghymru a Lloegr gynnal refferenda rhwymol os yw pobl leol wedi nodi, yn dilyn ymgynghoriad, eu bod eisiau ethol maer yn uniongyrchol dan y trefniadau gweithredol newydd.
Gall cynghorau ddewis cynnal refferendwm, ond gall pobl leol hefyd orfodi refferendwm gyda deiseb wedi'i llofnodi gan o leiaf bump y cant o'r etholwyr cofrestredig yn yr ardal.
Er bod gan y Llywodraeth bwerau i gyfarwyddo awdurdod lleol i gynnal refferendwm mewn rhai amgylchiadau, cyhoeddodd ym mis Mehefin 2002 na fyddai'n ymyrryd mewn achosion lle nad oedd yn cytuno â'r penderfyniad a wnaed gan gyngor ar ôl ymgynghori.