Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae gan awdurdodau lleol amrywiaeth eang o bwerau a dyletswyddau. Caiff y polisi cenedlaethol ei bennu gan y llywodraeth ganolog, ond y cynghorau lleol sy'n gyfrifol am wasanaethau bob dydd a materion lleol. Cânt eu hariannu gan grantiau'r llywodraeth, y Dreth Cyngor a chyfraddau busnes.
Mae awdurdodau lleol yn gweithio o fewn y pwerau a bennir gan amrywiol Ddeddfau Seneddol. Mae’u swyddogaethau’n bellgyrhaeddol. Mae rhai yn orfodol, sy'n golygu bod yn rhaid i'r awdurdod wneud yr hyn sy'n ofynnol dan y gyfraith. Mae eraill yn ddewisol, sy'n caniatáu i awdurdod ddarparu gwasanaethau os yw'n dymuno gwneud hynny.
Mewn rhai achosion, mae gan weinidogion bwerau i sicrhau cysondeb yn y safonau ar gyfer diogelu iechyd y cyhoedd neu i amddiffyn hawliau dinasyddion unigol. Pan fydd awdurdodau lleol yn mynd y tu hwnt i'w pwerau statudol, ystyrir eu bod yn gweithredu y tu allan i'r gyfraith a gellir eu herio yn y llys.
Yn Lloegr, y brif ddolen gyswllt rhwng awdurdodau lleol a'r llywodraeth ganolog yw'r adran Cymunedau a Llywodraeth Leol. Mae'n gyfrifol am bolisi cenedlaethol ar sut y ffurfiwyd llywodraeth leol, yr hyn y mae'n ei wneud, pa mor dda mae'n gweithio, a sut y caiff ei hariannu.
Mae adrannau eraill y llywodraeth yn delio â pholisi cenedlaethol ar wasanaethau lleol, er enghraifft:
Yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, mae'r awdurdodau lleol erbyn hyn yn delio'n bennaf gyda'r llywodraethau datganoledig.
Mae gwariant llywodraeth leol tua chwarter pob gwariant cyhoeddus yn y DU. Caiff awdurdodau lleol eu hariannu drwy gyfuniad o grantiau gan y llywodraeth ganolog, y Dreth Cyngor a chyfraddau busnes.
Yng Ngogledd Iwerddon, bydd cynghorau dosbarth yn parhau i godi arian ar raddfa ddomestig ac ar raddfa fusnes.
Mae'r llywodraeth ganolog (neu'r llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon) yn darparu grantiau penodol a chyffredinol er mwyn galluogi awdurdodau lleol i gyflwyno'r holl wasanaethau angenrheidiol.
Er mwyn rhannu'r arian, mae'r llywodraeth yn defnyddio system sy'n ystyried nifer a gwerth eiddo ym mhob ardal, a faint mae'n ei gostio i ddarparu gwasanaethau yno.
Mae'r Dreth Cyngor yn darparu tua chwarter yr arian lleol. Mae awdurdodau lleol yn pennu cyfanswm y Dreth Cyngor y maent angen ei chodi ar sail y gyllideb gyffredinol ar gyfer y flwyddyn. Mae pob cartref yn talu swm sy'n dibynnu ar werth eu cartref.
Mae gan y llywodraeth bwerau i sicrhau nad yw'r cynnydd yng nghyllidebau awdurdodau lleol a'r Dreth Cyngor yn ormod.
Mae cyfraddau busnes yn dreth eiddo ar fusnesau ac eiddo annomestig eraill. Yr enw ffurfiol a roddir arnynt yw cyfraddau annomestig cenedlaethol.
Caiff y cyfraddau cenedlaethol eu pennu gan y llywodraeth ganolog. Caiff y cyllid ei gasglu gan awdurdodau lleol, a'i roi mewn cronfa gan y llywodraeth ganolog, ac yna ei ddosbarthu i awdurdodau lleol.
Rhaid i gyfrifon blynyddol awdurdodau lleol gael eu harchwilio gan archwilwyr annibynnol a benodir gan y Comisiwn Archwilio yng Nghymru a Lloegr, neu gan Gomisiwn Cyfrifon yr Alban yn yr Alban. Yng Ngogledd Iwerddon, prif archwilydd llywodraeth leol sy'n gwneud y dasg hon.
Mae gan etholwyr lleol hawl i fwrw golwg dros y cyfrifon i'w harchwilio. Gallant ofyn cwestiynau hefyd a chyflwyno gwrthwynebiadau i'r archwilydd.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am eich awdurdod lleol, a'r gwasanaethau y mae'n ei ddarparu, ar y wefan.