Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Caiff cynghorau lleol eu rhedeg gan gynghorwyr etholedig sy'n cael eu hethol gan bobl leol. Mae cynghorwyr yn gyfrifol am wneud penderfyniadau ar ran y gymuned ynglŷn â gwasanaethau lleol, fel casglu sbwriel a chyfleusterau hamdden, a chytuno ar gyllidebau a chostau Treth Cyngor.
Caiff cynghorwyr eu hethol gan y gymuned leol ac maent yno i'w chynrychioli. Mae pob cynghorydd yn cynrychioli ardal a elwir yn ward am bedair blynedd. Mae mwy na 20,000 o gynghorwyr etholedig yng Nghymru a Lloegr, sy'n cynrychioli eu cymunedau mewn 410 o awdurdodau lleol.
Mae gwaith cynghorydd yn cynnwys cynnal cymorthfeydd i helpu pobl leol, cefnogi mudiadau lleol, ymgyrchu ar faterion lleol, a datblygu cysylltiadau gyda phob rhan o'r gymuned.
Nid yw cynghorwyr yn cael tâl neu gyflog, ond cânt hawlio costau treuliau a lwfansau i dalu am rai o gostau cyflawni eu dyletswyddau cyhoeddus. Nid ydynt yn gweithio i'r cyngor. Mae'r cynghorwyr etholedig yn darparu'r polisïau, ac yna bydd gweithwyr cyflogedig (swyddogion y cyngor) yn eu rhoi ar waith.
Os ydych yn dymuno lleisio'ch barn am unrhyw faterion gyda'ch cynghorydd lleol, gallwch gysylltu ag ef drwy eich awdurdod lleol neu gallwch fynd i gymhorthfa’r cynghorydd i gael cyngor. Mae cymorthfeydd cyngor ar gael i bobl leol ofyn am gymorth neu gyngor, i wneud cwyn neu i holi am wasanaethau’r awdurdod leol.
Bydd gan eich cyngor restr o enwau a manylion cyswllt y cynghorwyr. Bydd y dolenni isod yn gofyn i chi deipio ble'r ydych chi'n byw cyn mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol.
Mae gan wahanol gynghorau wahanol ddulliau o wneud penderfyniadau. Ers y flwyddyn 2000, mae'r rhan fwyaf o'r cynghorau yn Lloegr wedi sefydlu grŵp gweithredol bach sy'n gyfrifol am fusnes cyffredinol y cyngor. Mae ei benderfyniadau yn agored i graffu arnynt gan wahanol grwpiau o gynghorwyr sy'n cyfarfod mewn panelau trosolwg a chraffu, i edrych ar yr hyn y mae'r cyngor yn ei wneud a'i fonitro.
Yn aml, mae gan gynghorau llai strwythur pwyllgor sy'n ymdrin â gwahanol agweddau ar fusnes y cyngor, yn hytrach na phanelau gweithredol a chraffu.
Er bod y cyngor llawn (cyfarfod o holl aelodau'r cyngor) mewn theori'n gyfrifol am bob penderfyniad a wneir, o safbwynt ymarferol, mae’r rhan fwyaf o'r gwaith yn cael ei ddirprwyo i grwpiau llai o gynghorwyr neu swyddogion y cyngor (gweithwyr).
Pwrpas y trefniadau yw sicrhau bod pobl yn gwybod pwy yn y cyngor sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau, sut y gallant gyfrannu at wneud penderfyniadau, a sut y gallant ddal y rhai sy'n gwneud penderfyniadau'n atebol.
Cewch fynd i'r rhan fwyaf o gyfarfodydd y cyngor, ond fel rheol, ni chewch siarad yn y cyfarfodydd hynny.
Rhaid i bob cyngor gyhoeddi 'blaengynllun gwaith' a fydd yn rhestru'r penderfyniadau allweddol a wneir dros y misoedd nesaf. Byddant hefyd yn cyhoeddi papurau cyfarfod o leiaf bump diwrnod gwaith ymlaen llaw, ac ar ôl hynny byddant yn cyhoeddi cofnodion y cyfarfod, a fydd yn crynhoi'r penderfyniadau a wnaed.
Dim ond mewn amgylchiadau prin y gall awdurdodau lleol atal y cyhoedd rhag mynd i gyfarfodydd a dal papurau yn ôl.
Mae pob cynghorydd lleol yn cydymffurfio â chod ymddygiad. Fel rhan o hyn mae'n ofynnol iddynt ddatgan buddiant ariannol neu roi gwybod am anrhegion neu letygarwch a gânt a allai ddylanwadu ar unrhyw benderfyniadau a wneir.
Gofynnir i'ch awdurdod lleol gyhoeddi'r datganiadau hyn a gallwch, fel arfer, gael gafael ar yr wybodaeth drwy gyfrwng gwefan yr awdurdod neu yn neuadd y dref.
Mae’n bosib i chi benderfynu dod yn gynghorydd er mwyn gwneud y canlynol:
Cewch wybod mwy am sut beth yw bod yn gynghorydd ar wefan 'Be a councillor' neu drwy holi eich cyngor lleol. Mae’n syniad da cael gwybod sut mae’ch cyngor yn cefnogi cynghorwyr, er enghraifft:
I gael eich ethol yn gynghorydd lleol bydd angen i chi fod yn 18 mlwydd oed neu’n hŷn, yn ogystal ag yn un o ddinasyddion Prydain, y Gymanwlad, Iwerddon neu’r Undeb Ewropeaidd.
Bydd hefyd angen i chi fedru dweud ‘ydw’ i un neu ragor o’r cwestiynau hyn:
Os nad ydych chi’n perthyn i blaid wleidyddol, cewch sefyll fel cynghorydd annibynnol. Os oes arnoch eisiau cefnogaeth plaid, bydd yn rhaid i chi:
Ni chewch sefyll mewn etholiad os ydych chi wedi’ch gwahardd, er enghraifft, os ydych chi’n gweithio i’r cyngor, neu os ydych chi wedi bod yn y carchar yn ddiweddar. Mae’r ystod llawn o waharddiadau ar gyfer etholiadau lleol yn gymhleth a cheir rhai eithriadau. Dylech gysylltu â'ch cyngor lleol i gael cyngor.
Dylech gysylltu â’ch cyngor lleol i gael cyngor a chymorth ynglŷn â’r broses.
Bydd angen i chi gwblhau rhai ffurflenni y gallwch ddod o hyd iddynt ar wefan y Comisiwn Etholiadol.