Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Gwasanaeth Tân ac Achub y DU

Ceir 50 o Wasanaethau Tân ac Achub gwahanol yng Nghymru a Lloegr. Ynghyd â'r gwasanaethau cyfatebol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, maent yn ffurfio Gwasanaeth Tân ac Achub y DU. Mae gan sefydliadau eraill hefyd eu brigadau tân eu hunain, megis Awdurdod Maes Awyr Prydain (BAA) a'r Gwasanaeth Tân Amddiffyn, sy'n darparu gwarchodaeth ar safleoedd milwrol a safleoedd y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Rôl y gwasanaethau

Yn aml, dim ond rhan fach o waith pob dydd ymladdwr tân fydd ymladd tanau. Un o bob pump yn unig o'r galwadau a gaiff y Gwasanaeth Tân ac Achub sydd ynglŷn â thân, a bydd y gwasanaethau'n delio â nifer o wahanol fathau o sefyllfaoedd, boed yn sefyllfaoedd argyfyngus ai peidio. Mae eu gwaith yn cynnwys pwmpio dŵr llif, delio ag arllwysiadau cemegol a chynorthwyo mewn damweiniau ffordd a damweiniau trenau ac awyrennau - gan gynnwys rhoi gofal brys i'r rhai a anafwyd. Bydd gwasanaethau tân ac achub hefyd yn achub pobl sydd yn sownd mewn adeiladau a lifftiau.

Mae Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru a Lloegr yn cyflogi tua 33,000 o ymladdwyr tân amser llawn a thua 12,000 o ymladdwyr tân wrth gefn (rhan-amser).

Rôl ymladdwyr tân yn y broses o atal tanau

Mae gan ymladdwyr tân hefyd rôl fawr i'w chwarae yn y broses o atal tanau ac addysgu pobl am beryglon tân. Maent yn:

  • cynnig cyngor am atal tanau
  • cynghori pobl ynghylch llwybrau dianc rhag tân a pheryglon tân yn y cartref
  • archwilio adeiladau i sicrhau eu bod yn cwrdd â rheoliadau diogelwch tân
  • gweithio gydag ysgolion - dysgu disgyblion, er enghraifft, am beryglon tân gwyllt a matsys

Sicrhau bod eich cartref yn ddiogel

Mae'r Gwasanaeth Tân ac Achub yn cynnig rhestr wirio y gallwch ei defnyddio i weld pa mor ddiogel yw'ch cartref. Bydd yn eich helpu i adnabod unrhyw bwyntiau perygl o amgylch eich cartref. Dilynwch y ddolen isod i ddefnyddio'r rhestr wirio. Gallwch hefyd wneud hunanasesiad - a fydd yn eich helpu i lunio cynllun diogelwch rhag tân sy'n benodol ar gyfer eich cartref chi - drwy ddilyn yr ail ddolen.

Gofyn am ymweliad gan eich Gwasanaeth Tân ac Achub lleol

Os ydych chi'n pryderu ynglŷn â diogelwch rhag tân yn eich cartref, gallwch ofyn i'ch Gwasanaeth Tân ac Achub lleol am ymweliad diogelwch cartref am ddim. Byddant yn archwilio'ch cartref i'ch helpu i bennu unrhyw risgiau tân posibl ac yn dangos i chi beth i'w wneud er mwyn eu lleihau neu'u hatal. Gallant hefyd eich helpu i lunio cynllun dianc ar gyfer eich cartref. Defnyddiwch y dolenni isod i lenwi ffurflen gais ar-lein neu ddod o hyd i fanylion cyswllt ar gyfer eich gwasanaeth lleol.

Allweddumynediad llywodraeth y DU