Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Larymau mwg

Rydych chi mwy na dwywaith yn fwy tebygol o farw mewn tân yn eich cartref os nad oes gennych larwm mwg. Larwm mwg yw'r ffordd hawsaf o'ch rhybuddio bod perygl o dân, gan roi amser gwerthfawr i chi allu dianc. Maent yn rhad, yn hawdd cael gafael arnynt, ac yn hawdd i'w gosod.

Faint ohonynt sydd eu hangen arnoch?

Y mwyaf o larymau fydd gennych, y mwyaf diogel a fyddwch. Ar y lleiaf, dylid bod gennych un ar bob llawr. Fodd bynnag, os oes gennych ddau lawr a dim ond un larwm, rhowch y larwm yn rhywle lle y gellir ei glywed pan fyddwch yn cysgu.

Dylech osod larwm mwg hefyd mewn unrhyw ystafelloedd gwely lle ceir teledu neu offer trydanol mawr (megis cyfrifiadur).

Dewis larwm mwg

Ceir dau fath o larymau mwg:

Larymau ïoneiddio
Y rhain yw'r larymau rhataf a'r rhai sydd ar gael yn fwyaf hwylus ac maent yn sensitif iawn i danau sydd â fflamau (rhai sy'n llosgi'n egnïol megis tanau sosban sglodion). Fe ganfyddant y math hwn o dân cyn i'r mwg fynd yn rhy drwchus.

Larymau optig
Y rhain yw'r larymau drytaf a'r mwyaf effeithiol wrth ganfod tanau sy'n llosgi'n araf (megis dodrefn sydd wedi'u llenwi ag ewyn yn mudlosgi, neu waith weirio sy'n gorboethi). Maent yn llai tebygol o ganu'n ddamweiniol ac felly'r rhain yw'r dewis gorau ar gyfer cynteddau ar y llawr gwaelod neu dai sydd ag un llawr.

Er mwyn bod mor ddiogel â phosib, dylech osod un o bob math. Fodd bynnag, os na allwch chi gael y ddau fath, mae bod ag un o'r ddau yn dal yn fwy diogel na bod heb larwm o gwbl.

Nod Barcud Safonau Prydeinig

Pa bynnag fodel a ddewiswch, dylech wneud yn siŵr ei fod yn bodloni Safon Brydeinig 5446, Rhan 1 (BS 5446-1), ac yn ddelfrydol dylai'r Nod Barcud Safon Brydeinig hefyd fod arno. Os hoffech dderbyn ychydig o gyngor, gall eich Gwasanaeth Tân ac Achub lleol eich helpu i benderfynu pa un sydd orau ar gyfer eich amgylchiadau.

Y gwahanol fodelau sydd ar gael

Mae llawer o bobl yn anghofio cadw golwg ar eu larymau tân, felly'r cyflenwad pŵer gorau i'w ddewis yw'r un sy'n para hiraf.

Larymau batri arferol

'Larwm ïoneiddio batri' yw'r larwm rhataf a'r mwyaf sylfaenol sydd ar gael. Mae 'larwm optig batri' ychydig yn ddrytach. Mae'r ddau yn defnyddio batris 9 folt.

Larymau batri sydd â golau argyfwng

Mae gan y rhain olau argyfwng arnynt yn barod, a daw'r golau hwn ymlaen pan fydd y larwm yn dechrau. Maent yn arbennig o addas os yw rhywun yn eich cartref yn drwm eu clyw.

Larymau sydd â batris 10 mlynedd

Mae'r rhain ychydig yn ddrytach, ond ni fydd yn rhaid i chi brynu batris drwy'r amser. Maent ar gael ar ffurf larymau ïoneiddio neu optig, ac mae ganddynt fatri lithiwm sydd ag oes hir neu becyn pŵer wedi'i selio, sy'n para am 10 mlynedd.

Modelau sydd â botymau distewi

Mae rhai modelau ar gael gyda 'botwm distewi' a fydd yn distewi'r larwm am gyfnod byr. Gellir defnyddio'r rhain tra byddwch yn coginio, er enghraifft. Os bydd tân go iawn sy'n rhyddhau llawer o fwg, disodlir y system distewi a bydd y larwm yn canu. Bydd y modelau hyn yn dal i'ch atgoffa eu bod wedi'u distewi drwy 'drydar' neu arddangos golau coch.

Larymau sydd wedi'u cysylltu i'r prif gyflenwad

Cyflenwad trydan eich cartref sy'n rhoi pŵer i'r rhain, ac mae angen iddynt gael eu gosod gan drydanwyr cymwysedig. Nid oes ganddynt fatris y mae'n rhaid cadw golwg arnynt, ond maent ar gael gyda batri wrth gefn rhag ofn y bydd toriad yn y pŵer.

Larymau cydgysylltiedig neu gysylltiedig

Gellir cysylltu rhai larymau gyda'i gilydd er mwyn i bob larwm yn yr adeilad ganu pan fydd un ohonynt yn synhwyro mwg. Maent yn ddefnyddiol ar gyfer pobl sy'n drwm eu clyw a hefyd mewn cartrefi mawr.

Larymau wedi'u cysylltu i'r prif gyflenwad sydd â golau strôb a phad dirgrynnu

Mae'r rhain wedi'u bwriadu ar gyfer pobl sy'n fyddar neu'n drwm eu clyw. Os bydd tân, bydd y larwm yn eich rhybuddio chi drwy fflachio a dirgrynnu (roddir pad dirgrynnu o dan eich gobennydd).

Larwm wedi'i gysylltu i'r prif gyflenwad sy'n cael ei blygio i mewn i soced golau

Mae'r math hwn o larwm yn defnyddio batri sy'n cael ei ailwefru pan fydd y golau ymlaen. Mae'n para am 10 mlynedd ac fe ellir ei ddistewi neu ei brofi gyda'r swits golau.

Gosod eich larwm mwg

Dim ond ychydig funudau mae gosod larwm mwg yn ei gymryd - dilynwch gyfarwyddiadau'r gwneuthurwr sy'n dod gydag ef. Ar y nenfwd yw'r lle gorau, yng nghanol, neu'n agos at ganol yr ystafell neu'r cyntedd. Dylai'r larwm fod o leiaf 30cm (un droedfedd) i ffwrdd o wal neu olau.

Os byddwch yn ei chael hi'n anodd ei osod eich hun, gofynnwch i ffrind neu aelod o'ch teulu eich helpu, neu cysylltwch â'ch gwasanaeth tân lleol.

Cynnal a chadw eich larwm mwg

Er mwyn sicrhau bod eich larwm mwg yn gweithio'n iawn, dylech chi:

  • ei brofi unwaith yr wythnos, drwy bwyso'r botwm profi nes i'r larwm ganu
  • newid y batri unwaith y flwyddyn (oni bai ei fod yn larwm deng mlynedd)
  • a newid y larwm yn gyfan gwbl bob deng mlynedd

Mwy o ddolenni defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU