Beth i'w wneud os oes tân
Os oes tân, mae angen i chi weithredu'n gyflym. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi paratoi a bod pawb yn eich tŷ yn gwybod yn union beth i'w wneud.
Rhowch wybod i bawb
Gwnewch yn siŵr bod pawb yn y tŷ yn gwybod am y tân – gweiddwch a chael pawb at ei gilydd.
Cael pawb allan
Dylech fod wedi llunio llwybr dianc, a dylai pawb yn eich tŷ fod yn gyfarwydd ag ef. Os nad oes gennych chi un yn barod, dilynwch y ddolen isod i gael gwybodaeth ynghylch sut mae llunio llwybr dianc ar gyfer eich cartref. Wrth i chi ddianc, cofiwch y pethau hyn:
- peidiwch ag oedi er mwyn achub pethau gwerthfawr neu i chwilio am anifeiliaid anwes
- peidiwch ag ymchwilio i'r tân
- dylech gropian ar y llawr os oes mwg - yr aer agosaf at y llawr fydd yr aer glanaf, felly cadwch eich trwyn mor isel â phosib; cofiwch - mae mwg yn wenwynig a gall eich lladd
- wrth i chi fynd allan, peidiwch ag agor drysau heblaw am y rhai y mae'n rhaid i chi eu hagor a chaewch unrhyw ddrysau agored y gallwch er mwyn arafu'r tân a'i atal rhag lledu
- cyn i chi agor drysau, teimlwch hwy â chefn eich llaw; os ydynt yn gynnes, peidiwch â'u hagor - mae'r tân ar yr ochr arall
- os ydych chi'n dianc gyda phobl eraill, arhoswch gyda'ch gilydd os allwch chi
Os bydd eich dillad yn mynd ar dân
- peidiwch â rhedeg o gwmpas - byddwch yn ffyrnigo'r fflamau ac yn gwneud iddynt losgi'n gynt
- gorweddwch - bydd hyn yn ei gwneud yn anos i'r tân ledaenu ac yn lleihau effaith y fflamau ar eich wyneb ac ar eich pen (bydd fflamau'n llosgi am i fyny)
- gorchuddiwch y fflamau - defnyddiwch ddeunydd trwm, fel côt neu flanced; bydd hyn yn rhwystro'r tân rhag cael ocsigen
- rowliwch o gwmpas - bydd rowlio'n diffodd y fflamau
Cofiwch - os yw'ch dillad ar dân:
[insert stop, drop, roll image]
Pan na allwch ddianc drwy'ch llwybr dianc
Os oes rhwystrau ar draws eich llwybr dianc:
- os ydych chi ar y llawr gwaelod, ewch allan drwy ffenestr - taflwch ddillad gwely neu glustogau ar y llawr y tu allan er mwyn clustogi'r gwymp
- os na allwch chi agor y ffenestr, defnyddiwch wrthrych trwm i'w thorri yn y gornel isaf - defnyddiwch ddillad, lliain neu flanced i orchuddio unrhyw ochrau pigog
- gollyngwch blant mor isel â phosib cyn gadael iddynt ddisgyn - ceisiwch gael oedolyn i glustogi'r gwymp os gallwch
- gostyngwch eich hun gerfydd eich breichiau o sil y ffenestr cyn gollwng eich hun
Os na allwch fynd allan, ceisiwch gael pawb i un ystafell:
- dewiswch ystafell sydd â ffenestr ynddi, os gallwch
- rhowch glustogau, llieiniau neu ddillad gwely ar waelod y drws er mwyn rhwystro mwg rhag dod i mewn i'r ystafell
- agorwch y ffenestr a galwch am gymorth
- meddyliwch yn awr pa ystafell fyddai orau ar gyfer hyn - mae angen ffenestr y gellir ei hagor, a ffôn er mwyn galw 999 os yw'n bosib
Galw 999
Unwaith y byddwch allan o'r tŷ ac yn ddiogel, defnyddiwch ffôn symudol, ffôn un o'ch cymdogion, neu flwch ffôn i roi'r cyfeiriad i'r gwasanaethau brys (mae galwadau 999 am ddim).
- rhowch eich cyfeiriad yn llawn, gan gynnwys y dref
- dywedwch wrthynt beth sydd ar dân (er enghraifft, “tŷ dau lawr”)
- eglurwch a oes rhywun yn methu â dianc ac ym mha ystafell y maent - y mwyaf o wybodaeth y gallwch ei rhoi i'r Gwasanaeth Tân ac Achub, y mwyaf sydyn y gallant eich helpu, a'r mwyaf effeithlon y gallant wneud hynny
Peidiwch â mynd yn ôl i mewn
Dylech ddod o hyd i rywle diogel i aros gerllaw yr adeilad. Os oes rhywun i mewn yn yr adeilad o hyd, arhoswch i'r Gwasanaeth Tân ac Achub gyrraedd. Gallwch ddweud wrthynt am y person a byddant yn gallu dod o hyd iddynt yn gynt na chi.
Os ewch chi'n ôl i'r adeilad, yn ogystal â rhoi'ch bywyd eich hun mewn perygl dirfawr, byddwch yn arafu ymdrechion y diffoddwyr tân i achub unrhyw un arall sydd ar goll.
Beth i'w wneud os ydych yn byw mewn fflat ar lawr uchel
Os ydych yn byw mewn bloc o fflatiau, bydd angen i chi ystyried y gallai tân gychwyn yn uniongyrchol y tu allan i'ch fflat, neu ar y grisiau. Dilynwch y ddolen isod i gael gwybodaeth am lunio llwybr dianc - mae'n cynnwys canllawiau penodol ar gyfer llunio llwybrau mewn adeiladau aml-lawr.
Os bydd tân yn cychwyn yn eich fflat neu ar y grisiau a chithau'n methu â mynd allan dylech wneud y canlynol:
- ceisiwch gael pawb i ystafell sy'n cynnwys ffenestr; rhowch glustogau, dillad gwely, neu ddillad o gwmpas gwaelod y drws i rwystro'r mwg rhag dod i mewn i'r ystafell
- agorwch y ffenestr - os ydych chi'n teimlo'ch bod mewn perygl difrifol, chwifiwch liain drwy'r ffenestr fel bod y diffoddwyr tân yn gwybod eich bod yno
- os yw'r tân yn union y tu allan i'ch fflat, defnyddiwch dâp os gallwch i selio eich drws ffrynt, yn ogystal â defnyddio dillad gwely neu ddillad
caewch unrhyw awyryddion a ffoniwch 999, gan roi rhif eich fflat
- os bydd eich drws ffrynt mynd yn boeth, rhowch ddŵr arno i'w oeri