Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Llunio llwybr dianc

Ydych chi'n gwybod beth ddylech chi ei wneud os bydd tân? Ydy pawb sy’n byw yn eich cartref yn gwybod? Fel arfer, os bydd tân, ni fydd gennych amser i aros a meddwl beth yw'r peth gorau i'w wneud. Hanner munud ar ôl i'r larwm mwg ganu, gallai llawr cyfan o'ch tŷ fod yn llawn mwg trwchus.

Lluniwch gynllun dianc

Pan fyddwch yn llunio cynllun dianc, dylech gynnwys pawb sy'n byw yn eich cartref, gan gynnwys plant, pobl hŷn a lletywyr.

Dewiswch lwybr dianc

  • y llwybr dianc gorau yw'ch ffordd arferol i mewn ac allan o'ch cartref
  • meddyliwch am unrhyw anawsterau y gallech eu cael wrth geisio mynd allan, er enghraifft, yng nghanol y nos
  • dewiswch ail lwybr dianc rhag ofn y bydd rhwystrau ar yr un cyntaf
  • sicrhewch nad oes rhwystrau ar draws y ddau lwybr dianc
  • os oes pobl hŷn neu blant yn y cartref, cynlluniwch ym mha drefn y byddech yn dianc, felly os bydd yn rhaid i chi ddianc drwy'r ffenestr, gallwch eu helpu i ddod i lawr

Meddyliwch am noddfa

Os na allwch chi ddianc, bydd angen i chi ddod o hyd i un ystafell y gallwch gael lloches ynddi - mae hyn yn arbennig o bwysig os ydych chi'n cael trafferth symud o gwmpas neu fynd i lawr y grisiau ar eich pen eich hun

Gwnewch yn siŵr bod pawb yn gwybod ym mhle y byddwch yn cadw allweddi'r drysau a'r ffenestri

Penderfynwch ym mhle y dylai allweddi'r drysau a'r ffenestri gael eu cadw, a chadwch hwy yn y fan honno bob amser. Dylai pawb yn eich cartref wybod ble maent yn cael eu cadw – cofiwch roi gwybod i ymwelwyr sy'n aros gyda chi dros nos

Gwnewch yn siŵr bod pawb yn gwybod beth i'w wneud

Wrth lunio eich cynllun, ewch drwy'r holl bwyntiau sy'n edrych ar beth i'w wneud os ceir tân – gallwch ddod o hyd iddynt drwy ddilyn y ddolen isod. Gallech hefyd ystyried:

  • rhoi eich cyfeiriad ger y ffôn fel y gall plant ei ddarllen i'r gwasanaethau brys
  • rhoi nodyn atgoffa o'r hyn y dylid ei wneud mewn tân mewn lle amlwg lle bydd yn cael ei weld yn rheolaidd – ar ddrws yr oergell, er enghraifft

Os oes gennych offer tân ychwanegol, fel diffoddwyr neu flancedi tân, dylech hefyd wneud yn siŵr bod pawb yn gwybod yn union lle maen nhw a sut mae eu defnyddio.

Rhowch gynnig ar y cynllun

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi "cerdded drwy'r cynllun" gyda phawb yn eich cartref. Atgoffwch bawb drwy'r amser o beth i'w wneud a beth i beidio â'i wneud mewn tân.

Cynllun cyflawn

Mae cynllun diogelwch cyflawn rhag tân yn ymwneud â mwy na dim ond beth i'w wneud pan fydd tân. Mae'n ymwneud ag atal tân, ynghyd â'i ganfod. Dilynwch y dolenni uchod ac isod i gael gwybod mwy am ddiogelwch rhag tân o amgylch eich cartref a defnyddio offer diffodd tân mewn argyfwng ac i gael rhestr o awgrymiadau ar gyfer bod yn ddiogel.

Dianc o loriau uchel

Nid yw byw uwchben y llawr cyntaf yn golygu eich bod mewn mwy o berygl os ceir tân. Dylai eich cynllun fod yr un fath â chynllun ar gyfer cartrefi ar lefel y llawr i raddau helaeth, ond ceir ambell wahaniaeth pwysig:

  • caiff fflatiau aml-lawr eu hadeiladu i allu gwrthsefyll tân - bydd waliau, nenfydau a drysau'n gwrthsefyll fflamau a mwg; os bydd tân mewn rhan arall o'r adeilad, y lle mwyaf diogel i chi yw yn eich fflat eich hun os nad yw'r gwres neu'r mwg yn effeithio arnoch
  • ni fydd modd i chi ddefnyddio'r lifft os oes tân, felly dylech ddewis llwybr dianc sy'n ystyried hynny
  • mae'n hawdd mynd yn gymysglyd yn y tywyllwch, felly cyfrwch sawl drws y bydd angen i chi fynd drwyddo i gyrraedd y grisiau pan na ellir defnyddio'r lifft
  • gwnewch yn siŵr bod diangfeydd tân yn glir rhag rhwystrau ac nad yw drysau tân byth yn cael eu cloi – ewch ati'n rheolaidd i wneud yn siŵr eich bod yn gallu agor y drysau sy'n arwain at risiau neu ddiangfeydd o'r ddwy ochr

Allweddumynediad llywodraeth y DU