Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Diogelwch tân yn y cartref – canllawiau cyflym

Dilynwch yr awgrymiadau syml a rhad hyn i osgoi tanau yn eich cartref. Gallwch chi hefyd gael cyngor am ddim gan eich Gwasanaeth Tân ac Achub lleol, felly, os oes tân yn cynnau’n ddamweiniol, gallwch chi ac eraill ddianc mewn modd cyflym a diogel.

Gosod larwm mwg a’i brofi’n rheolaidd

  • gosodwch larwm mwg ar bob llawr yn eich cartref – dyma’r cam symlaf y gallwch ei gymryd i leihau’r perygl o farw mewn tân yn eich cartref
  • bob wythnos, gwnewch yn siŵr bod y batris yn eich larwm mwg yn gweithio a newidiwch hwy bob blwyddyn – peidiwch byth â'u tynnu o'r larwm

Bod yn ofalus wrth goginio

  • mae mwy na hanner y tanau sy’n cynnau’n ddamweiniol mewn cartrefi yn cael eu hachosi gan rywbeth sy’n ymwneud â choginio
  • byddwch yn ofalus iawn wrth goginio gydag olew poeth a pheidiwch â gadael plant ar eu pennau eu hunain yn y gegin pan fydd yr hob neu’r popty ymlaen

Cynllunio llwybr dianc a tharo golwg dros bethau cyn mynd i’r gwely

  • cynlluniwch lwybr i chi allu dianc o’ch cartref os oes tân a sicrhewch fod pawb yn y tŷ yn gyfarwydd â’r cynllun
  • os oes tân, peidiwch â cheisio’i ddiffodd eich hun – ewch allan, arhoswch allan a ffoniwch 999
  • cyn i chi fynd i’r gwely, gwnewch yn siŵr nad oes peryglon a all achosi tân yn eich cartref – mae’n cymryd mwy o amser i ddod yn ymwybodol o dân pan fyddwch chi’n cysgu
  • gweler ‘Cynllunio ar gyfer dianc yn ddiogel' i gael rhagor o wybodaeth ynghylch yr hyn y dylid taro golwg drosto cyn mynd i'r gwely ac ynghylch llunio cynllun dianc

Peidio â gorlwytho socedi

  • ceisiwch gyfyngu i un plwg ar gyfer pob soced – gall plygio gormod o offer trydanol i mewn i un soced ei orlwytho, a gall hynny arwain at orboethi
  • gall offer trydanol, plygiau a cheblau sy’n hen neu wedi’u gwifrio’n wael hefyd fod yn beryglus.

Diffodd sigaréts yn llwyr

  • mae mwy o bobl yn marw mewn tanau a achosir gan ysmygu nag mewn tanau a achosir gan ddim arall
  • dylech ddiffodd sigaréts yn llwyr a chael gwared â hwy'n ofalus
  • gweler ‘Diogelwch wrth ysmygu’ i gael awgrymiadau am sut mae osgoi achosi tân os ydych chi’n ysmygu

Bod yn ofalus wrth ddefnyddio canhwyllau

  • mae canhwyllau, goleuadau addurniadol ac addurniadau yn achosi mwy a mwy o danau
  • sicrhewch fod canhwyllau wedi’u diogelu mewn llestr dal cannwyll sefydlog a’u bod ddigon pell i ffwrdd o lenni, ffabrigau a phapur
  • diffoddwch ganhwyllau bob tro y byddwch yn gadael yr ystafell neu’n mynd i’r gwely

Gofyn i'r Gwasanaeth Tân ac Achub ddod i ymweld â’ch cartref

  • mae nifer o Wasanaethau Tân ac Achub yn cynnig ymweliad diogelwch tân yn y cartref am ddim i bobl sy'n byw yn eu hardal
  • byddant yn archwilio'ch cartref i'ch helpu i ddod o hyd i unrhyw beryglon posib a allai achosi tân a byddant yn dangos i chi beth i'w wneud er mwyn lleihau neu atal y perygl o dân
  • gallant hefyd eich helpu i ddatblygu cynllun dianc ar gyfer eich cartref

Allweddumynediad llywodraeth y DU