Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Diogelwch tân ac offer trydanol

Gall offer trydanol, plygiau a cheblau sy’n hen neu wedi’u gwifrio’n wael fod yn beryglus. Nid yw’r ffaith nad oes fflam yn golygu nad oes perygl o dân. Yma, cewch wybod beth y dylid chwilio amdano er mwyn sicrhau na fydd eich offer chi’n eich rhoi chi, eich teulu neu'ch cydletywyr mewn perygl o dân.

Beth y dylid chwilio amdano

Ceir arwyddion penodol o berygl y dylid chwilio amdanynt ar yr holl eitemau trydanol sydd gennych yn eich cartref. Os ydych chi’n credu bod ar rywbeth angen ei drwsio neu’i newid, gwnewch hynny ar unwaith.

Plygiau a socedi

Ar gyfer plygiau a socedi, cadwch olwg am y canlynol:

  • plygiau neu socedi poeth, marciau gwres, ffiwsys sy’n chwythu’n aml neu golau sy’n fflachio – maent i gyd yn arwyddion o wifrau rhydd neu broblemau trydanol eraill
  • plygiau sydd wedi’u gwifrio’n wael – gallai unrhyw wifrau lliw sydd yn y golwg ddod yn rhydd a gallai man bethau hefyd fynd i mewn i'r plwg
  • socedi wedi’u gorlwytho – gall plygio gormod o offer trydanol i mewn i un soced arwain at orboethi

Ceblau a gwifrau

Gall ceblau a gwifrau fod yn beryglus:

  • os ydynt yn rhaflo ac yn cael eu difrodi – sicrhewch fod gorchudd allanol pob cebl pŵer mewn cyflwr da, a newidiwch nhw am rai newydd os oes angen
  • os cânt eu gosod yn wael – ni ddylent fod yn unman lle y gellir cwympo drostynt neu’n agos at ddŵr, at bopty neu ffynonellau eraill o wres
  • os cânt eu gosod o dan rygiau neu garpedi lle y gallant wisgo heb i neb sylweddoli – gosodwch nhw yn rhywle arall

Offer

Gydag offer trydanol, ni ddylech byth wneud y canlynol:

  • eu gwlychu – mae hyn yn cynnwys plygiau a socedi, felly peidiwch â rhoi pot o flodau ar ben y teledu, er enghraifft
  • eu gadael ymlaen fin nos – oni bai eu bod wedi’u dylunio i gael eu gadael ymlaen, fel rhewgelloedd
  • rhoi pethau sydd wedi'u gwneud o fetel, pethau sydd â rhannau wedi'u gwneud o fetel neu bethau sydd â gorffeniad metel iddynt yn y microdon

Gweler ‘Defnyddio blancedi trydan a gwresogyddion yn ddiogel’ i gael mwy o wybodaeth ynghylch defnyddio’r rhain yn ddiogel.

Cadw eitemau trydanol mewn cyflwr gweithio da

Dilynwch y canllawiau isod i sicrhau bod eich eitemau trydanol yn ddiogel i’w defnyddio.

Cynnal a chadw

Dylai offer trydanol, yn enwedig rhai sy'n gweithio ar gyflymder uchel ac sy'n cynnwys moduron, megis peiriannau golchi dillad, gael eu harchwilio gan drydanwr unwaith y flwyddyn.

Plygiau, socedi a cheblau

Dylid hefyd defnyddio plygiau, socedi a cheblau yn y modd cywir. Dylech wneud y canlynol:

  • sicrhau na fedrwch weld unrhyw wifrau lliw rhwng y plwg a’r cebl pŵer – dylech newid y plwg yn y modd cywir
  • sicrhau bod y gwifrau wedi’u diogelu o fewn y plwg
  • defnyddio socedi mewn modd diogel – gyda gwifren, mae’n well defnyddio addasydd siâp bar nag addasydd bloc
  • defnyddio un addasydd yn unig i bob soced – peidiwch â phlygio addasydd i mewn i addasydd arall a cheisiwch gadw at un plwg i bob soced

Ffiwsys

Pan fyddwch yn gosod neu’n newid ffiws, mae’n bwysig eich bod yn defnyddio'r ffiws cywir ar gyfer yr offeryn i sicrhau na fydd y ffiws yn gorboethi. Darllenwch y llawlyfr neu edrychwch am sticer ar yr offeryn a fydd yn dangos y watedd, yna, defnyddiwch y ffiws cywir:

  • ar gyfer offer hyd at 700 wat, defnyddiwch ffiws 3 amp
  • ar gyfer offer rhwng 700 a 1,000 wat, defnyddiwch ffiws 5 amp
  • ar gyfer offer dros 1,000 wat, defnyddiwch ffiws 13 amp

Mae gan geblau estyniad ac addasyddion gyfyngiad ar sawl amp y gallant eu cymryd, felly, er mwyn lleihau’r perygl o dân, gofalwch rhag eu gorlwytho.

Delio â thân trydan

Os oes tân trydan, tynnwch y plwg allan, neu diffoddwch y pŵer yn y bocs ffiwsys – os ydyw’n ddiogel gwneud hynny. Weithiau gall hyn ddiffodd y tân ar unwaith.

Peidiwch byth â defnyddio dŵr ar dân trydan a pheidiwch â pheryglu’ch diogelwch – ewch allan, arhoswch allan a ffoniwch 999.

Gweler ‘Beth i’w wneud os oes tân’ i gael mwy o wybodaeth ynghylch delio â thân.

Allweddumynediad llywodraeth y DU