Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Defnyddio canhwyllau, goleuadau addurniadol ac addurniadau yn ddiogel

Mae canhwyllau, addurniadau a goleuadau addurniadol yn achosi mwy a mwy o danau. Drwy ddilyn y canllawiau syml hyn, gallwch leihau'r peryglon a berir drwy eu defnyddio.

Defnyddio canhwyllau'n ddiogel yn eich cartref

Dim ond un gannwyll sydd ei hangen i beryglu'ch cartref - byddwch yn ofalus bob amser wrth eu defnyddio.

Cofiwch yr awgrymiadau diogelwch isod pa bryd bynnag y byddwch chi'n defnyddio canhwyllau gartref:

Canhwyllau wedi’u cynnau - lle i’w rhoi

Y llefydd gorau i roi canhwyllau yw:

  • ar arwyneb sy’n gwrthsefyll gwres - byddwch yn arbennig o ofalus gyda goleuadau nos a chanhwyllau bach crwn, sy'n poethi digon i losgi plastig
  • mewn pethau dal canhwyllau priodol, fel na fyddant yn cwympo
  • allan o gyrraedd plant ac anifeiliaid anwes
  • allan o gyrraedd drafftiau a draw oddi wrth lenni, deunyddiau eraill neu ddodrefn, a allai fynd ar dân
  • gydag o leiaf 1 metr (3 troedfedd) rhwng y gannwyll ac unrhyw arwyneb uwch ei phen
  • gydag o leiaf 10 centimetr (4 modfedd) rhwng unrhyw ddwy gannwyll
  • draw oddi wrth ddillad a gwallt - os oes unrhyw bosibilrwydd y gallech anghofio bod y gannwyll yno a phwyso ar ei thraws rhowch hi’n rhywle arall

Sicrhewch eich bod yn diffodd canhwyllau cyn eu symud, a pheidiwch â gadael i unrhyw beth ddisgyn i'r cŵyr poeth, megis coes matsis

Diffodd canhwyllau

Peidiwch byth â gadael cannwyll heb neb i gadw llygad arni. Sicrhewch eich bod yn gwneud y canlynol:

  • diffodd canhwyllau cyn i chi adael ystafell a chyn i chi fynd i’ch gwely
  • peidio byth â gadael cannwyll neu losgwr olew yn llosgi mewn ystafell wely plentyn
  • defnyddio diffoddwr cannwyll neu lwy i’w diffodd - gall eu chwythu dasgu gwreichion a chŵyr poeth
  • gwnewch yn hollol siŵr eu bod wedi’u diffodd yn llwyr ac nad ydynt yn dal i fudlosgi

Canhwyllau a dathliadau

Defnyddir canhwyllau a goleuadau nos yn aml mewn dathliadau ar gyfer y Nadolig, Diwali a gwyliau eraill. Sicrhewch nad ydych yn rhoi canhwyllau ar goeden Nadolig, planhigion, blodau na deiliant arall, nac yn agos atynt. Dylech hefyd fod yn ofalus â rhubanau, cardiau cyfarch ac addurniadau eraill, gan wneud yn siŵr nad ydynt yn agos at fflamau canhwyllau.

Gweler ‘Diogelwch tân gwyllt a’r gyfraith’ i gael gwybodaeth ynglŷn â defnyddio tân gwyllt yn ddiogel.

Goleuadau addurniadol ac addurniadau yn ystod gwyliau

Ni fydd goleuadau bach a goleuadau a roddir ar goed Nadolig yn cael eu defnyddio'n aml iawn, felly dylech wneud yn siŵr eu bod yn gweithio'n iawn cyn eu defnyddio:

  • sicrhewch fod maint y ffiws sydd yn y plwg yn gywir - edrychwch ar y bocs i weld beth yw'r ffiws uchaf ddylech chi ei ddefnyddio
  • rhowch fylbiau newydd yn lle unrhyw rai sydd wedi chwythu
  • peidiwch â gadael goleuadau ymlaen pan fyddwch yn mynd i'ch gwely neu'n gadael y tŷ
  • peidiwch â gadael i'r bylbiau gyffwrdd ag unrhyw beth a all losgi'n rhwydd, megis papur neu ddeunyddiau ac addurniadau eraill ar y goeden Nadolig

Sicrhewch eich bod chi hefyd yn cadw addurniadau Nadoligaidd eraill wedi’u gwneud o bapur sidan neu gardfwrdd a chardiau cyfarch draw oddi wrth wresogyddion, goleuadau, llefydd tân a chanhwyllau.

Mwy o ddolenni defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU