Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Diogelwch tân wrth goginio

Mae mwy na hanner y tanau damweiniol yn y cartref yn dechrau drwy goginio. Mae nifer o danau cegin yn digwydd pan na fydd pobl yn canolbwyntio neu pan na fyddant yn cadw llygad ar bethau. Yma, cewch wybod sut mae cadw’n ddiogel wrth goginio a beth i’w wneud os oes tân yn dechrau yn eich cegin.

Sut mae coginio’n ddiogel

Gallwch wneud nifer o bethau i osgoi tanau yn y gegin. Sicrhewch nad oes dim yn tynnu eich sylw pan fyddwch yn coginio, a sicrhewch eich bod yn:

  • tynnu’r sosbenni oddi ar y gwres neu droi'r gwres i lawr os bydd rhaid i chi adael y popty, e.e. i ateb galwad ffôn
  • cymryd gofal os ydych chi'n gwisgo dillad llac oherwydd gallant fynd ar dân yn hawdd
  • peidio â choginio os ydych chi wedi bod yn yfed alcohol neu wedi cymryd cyffuriau presgripsiwn - mae’n bosib y byddwch yn teimlo'n gysglyd neu'n ei chael yn anodd canolbwyntio

Diogelwch yn ymwneud â’r popty a’r tostiwr

Gallwch osgoi tanau pan fyddwch yn defnyddio popty neu dostiwr drwy ddilyn yr awgrymiadau syml canlynol:

  • trowch sosbenni fel nad yw’r handlenni'n gorwedd dros ochr yr hob na thros gylch arall
  • sicrhewch fod y popty wedi’i ddiffodd ar ôl i chi orffen coginio
  • sicrhewch nad yw llieiniau sychu llestri yn hongian dros y popty a pheidiwch â rhoi menig coginio ar ben popty poeth
  • cadwch y popty, yr hob a'r gril yn lân – gall braster a darnau o fwyd ddechrau tân
  • sicrhewch fod y tostiwr yn lân ac yn ddigon pell oddi wrth lenni a gwagiwch y plât sy'n dal y briwsion yn rheolaidd

Coginio gydag olew

Bydd angen i chi fod yn eithriadol o ofalus pan fyddwch yn ffrio â saim dwfn neu’n coginio gydag olew oherwydd gall olew poeth fynd ar dân yn hawdd. Sicrhewch eich bod yn gwneud y canlynol:

  • peidio byth â llenwi mwy na thraean sosban sglodion neu ffrïwr saim dwfn arall gydag olew
  • defnyddio ffrïwr saim dwfn a reolir gan thermostat, a fydd yn sicrhau nad aiff yr olew yn rhy boeth

Delio â thân yn eich cegin

Os yw sosban yn mynd ar dân yn eich cegin:

  • peidiwch â’i symud oherwydd fe fydd yn boeth iawn
  • diffoddwch y gwres os yw'n ddiogel gwneud hynny – peidiwch â phwyso dros y sosban i gyrraedd y botymau
  • peidiwch â defnyddio diffoddwr tân ar sosban o olew oherwydd gall grym y diffoddwr beri i'r tân ymledu
  • peidiwch byth â rhoi dŵr ar danau sosban sglodion oherwydd fe fydd hyn yn achosi pelen dân
  • ewch allan, arhoswch allan a ffoniwch 999

Os yw offeryn trydanol yn mynd ar dân, peidiwch â thaflu dŵr drosto. Os ydyw’n ddiogel gwneud, mae’n bosib y byddwch yn gallu diffodd y tân ar unwaith drwy wneud y canlynol:

  • tynnu plwg yr offeryn allan o'r soced
  • diffodd y pŵer yn y bocs ffiwsys

Os nad yw’r tân yn diffodd, ewch allan o’r tŷ, arhoswch allan a ffoniwch 999.

Gweler ‘Diogelwch tân ac offer trydanol’ i gael mwy o wybodaeth ynghylch osgoi tanau trydanol.

Cyfarpar diogelwch tân ar gyfer y gegin

Gallech ystyried cadw blanced dân yn y gegin. Gall blancedi tân gael eu defnyddio i ddiffodd tân, neu, os yw dillad rhywun ar dân, gallwch lapio blanced dân am y person hwnnw.

Peidiwch â gosod larwm mwg mewn cegin neu ystafell ymolchi lle y gallai stêm neu fwg coginio achosi iddo ganu. Os ydych chi’n gweld bod eich larwm mwg yn canu’n ddamweiniol yn aml, gallwch brynu un sydd â botwm distewi arno. Golyga hyn y gallwch ei ddistewi'n syth fel na chewch eich temtio i dynnu’r batri allan (ac eithrio pan fydd arnoch angen ei newid am un newydd).

Dilynwch y dolenni isod i gael mwy o wybodaeth am gyfarpar diogelwch tân ar gyfer eich cartref.

Awyru’r gegin

Dylech sicrhau yn rheolaidd bod systemau awyru eich cegin, megis gwyntyllau neu lwferau popty estynedig, yn gweithio’n iawn ac nad ydynt wedi’u blocio. Mae hyn yn arbennig o bwysig os oes gennych chi bopty nwy rhag ofn i unrhyw nwy sy’n gollwng gronni.

Gweler ‘Gosod nwy yn y cartref ac iechyd a diogelwch’ i gael mwy o wybodaeth am ddiogelwch nwy.

Allweddumynediad llywodraeth y DU