Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Offer argyfwng tân

Mae larymau tân yn hanfodol i bob cartref; fodd bynnag, efallai y byddwch yn teimlo bod angen offer diogelwch tân ychwanegol arnoch, efallai am eich bod yn byw mewn man anghysbell neu am bod gennych offer neu gyfarpar risg uchel yn eich cartref.

Defnyddio offer diffodd tân mewn argyfwng

Pan fydd tân yn digwydd, mae'n bwysig mynd allan, aros allan a ffonio 999. Ni ddylech geisio mynd i'r afael â thân eich hun; gadewch hynny i weithwyr proffesiynol. Gall offer argyfwng fod yn gymorth, ond mae'n bwysig gwybod sut a phryd i'w ddefnyddio.

Diffoddwyr tân

Mae tri phrif fath o ddiffoddwyr tân: powdr; dŵr; ac ewyn. Nid oes unrhyw un math o ddiffoddwr yn gwbl effeithiol yn erbyn pob math o dân. Cyn prynu un, mae'n hollbwysig eich bod yn edrych yn ofalus ar y mathau o danau y gellir ei ddefnyddio arnynt, er mwyn sicrhau eich bod yn cael un sy'n addas at eich anghenion chi.

Fel arfer, diffoddwyr amlbwrpas powdr sych neu Ewyn Dyfrllyd sy'n Ffurfio Ffilm (AFFF) yw'r dewisiadau gorau i'w defnyddio yn y cartref. Mae llai o beryglon yn gysylltiedig â hwy, ac maent yn effeithiol yn erbyn sawl math o dân.

Awgrymiadau ar gyfer defnyddio unrhyw fath o ddiffoddwr yn ddiogel:

  • sicrhewch eich bod yn darllen y cyfarwyddiadau a'ch bod yn gyfarwydd â sut i'w ddefnyddio
  • mae'n well eu gosod yn y cyntedd a mynd â hwy i ble bynnag y bydd eu hangen
  • cyn prynu un, sicrhewch y gallwch ei gario o gwmpas yn rhwydd
  • peidiwch â'i roi'n agos at wresogydd neu dân, ond gosodwch ef ar y wal, fel ei fod allan o gyrraedd plant, ond ar gael yn rhwydd i bobl eraill
  • sicrhewch ei fod yn cael ei wasanaethu unwaith y flwyddyn (neu mor aml ag y mae'r gwneuthurwr yn argymell)
  • wrth ddefnyddio'r diffoddwr ar dân, arhoswch ar yr ochr iawn i'r tân i allu dianc

Os nad ydych chi'n siŵr pa ddiffoddwr tân i'w gael i'ch cartref, gallwch gysylltu â'ch Gwasanaeth Tân ac Achub i gael cyngor.

Blancedi tân

Llenni o ddefnydd gwrthdan yw'r rhain, a gallwch eu defnyddio i orchuddio tân fel nad yw'n cael dim ocsigen, neu i'w lapio o gwmpas person os yw ei ddillad ar dân.

Gellir eu defnyddio'n gyflym, maent yn hawdd eu cynnal a'u cadw ac maent yn rhatach na diffoddwyr tân. Fodd bynnag, i'w defnyddio, mae angen i chi fynd yn agos at y tân – sy'n golygu y bydd eich dwylo'n enwedig mewn perygl o losgi. Hefyd, dim ond ar danau bach a chyfyngedig iawn y gallwch eu defnyddio (megis tanau sosban fraster ar y cwcer) ac mae'n debygol mai dim ond un cyfle gewch chi i ddiffodd y tân. Os na wnewch chi ddiffodd y tân, ni fyddwch yn gallu cael y flanced yn ôl.

Maent yn ddelfrydol i'w cadw yn y gegin, ond nid ydynt yn dda at ddefnydd cyffredinol. Os cewch un, dylech sicrhau ei bod yn cydymffurfio â Safon Brydeinig BS 6575 a chofio'r pwyntiau canlynol:

  • dylai fod yn hawdd cael gafael arni mewn argyfwng
  • peidiwch byth â'i chadw mewn cwpwrdd
  • ni ddylid ei osod uwchben cwcer neu wresogydd
  • bydd blanced dân fwyaf defnyddiol yn y gegin

Ysgeintwyr

Os ydych chi am leihau risg marwolaeth mewn tân gymaint â phosibl, dylech osod ysgeintwyr (sprinklers) yn eich cartref. Maent yn rhoi lefel uchel o ddiogelwch rhag y risg o farw mewn tân, ac maent yn arbennig o addas i bobl hŷn a phobl sy'n cael anhawster symud o gwmpas neu sydd â rhyw nam arall. Mewn rhannau o UDA lle mae ysgeintwyr yn orfodol, nid oes bron neb yn marw oherwydd tân yn y cartref.

Os ydych chi'n ystyried gosod system ysgeintwyr, dyma rai pwyntiau eraill y dylech eu cofio:

  • caiff ysgeintwyr eu gosod mewn cymaint o ystafelloedd ag y dymunwch - mae eu pibellau'n fach, ac maent yn defnyddio dŵr y prif gyflenwad
  • maent yn synhwyro gwres yn unigol, felly ni fydd yr holl system yn cychwyn ar unwaith
  • anaml y cânt eu cychwyn ar ddamwain, gan fod angen tymheredd uchel i'w sbarduno
  • byddant yn gweithio'n awtomatig, os ydych chi yn eich cartref ai peidio
  • os oes gennych chi system ysgeintwyr, dylech hefyd gael larwm mwg, i dynnu eich sylw at danau sy'n llosgi'n araf gan gynhyrchu mwg
  • gan na fyddant o reidrwydd yn cynhyrchu digon o wres i sbarduno'r ysgeintwyr
  • mae ysgeintwyr hefyd yn seinio larwm pan fyddant ar waith, felly maent yn eich rhybuddio yn ogystal â diffodd y tân

Allweddumynediad llywodraeth y DU