Diogelwch tân gwyllt a'r gyfraith
Mae tân gwyllt yn aml yn chwarae rhan fawr mewn dathliadau – megis Noson Tân Gwyllt, Diwali a’r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd. Fodd bynnag, ffrwydron yw tân gwyllt sy’n llosgi ar dymheredd uchel, felly mae angen eu trin a’u cadw’n ofalus. Yma, cewch wybod am ddiogelwch tân gwyllt a’r gyfraith ynglŷn â’u defnyddio.
Rhestr wirio diogelwch tân gwyllt
Mae ffigurau wedi dangos bod mwy o blant nag oedolion yn cael eu niweidio gan dân gwyllt. Os ydych chi'n meddwl defnyddio tân gwyllt fel rhan o'ch dathliadau, dylech ddilyn y camau canlynol.
Cyn eich arddangosiad tân gwyllt
Mae paratoi yn allweddol i fwynhau tân gwyllt yn ddiogel, felly:
- peidiwch â phrynu tân gwyllt o unman nad ydych chi’n sicr ohono, fel fan neu stondin marchnad dros dro a didrwydded
- dim ond tân gwyllt â BS 7114 wedi ei nodi arnynt y dylech eu prynu - dyma'r Safon Brydeinig y dylai tân gwyllt o bob math ei bodloni (bydd siop gyfrifol yn gwybod hyn)
- dilynwch y cyfarwyddiadau ar bob tân gwyllt – darllenwch nhw yng ngolau dydd neu defnyddiwch olau tortsh i’w darllen, peidiwch byth â defnyddio fflam agored
- gwnewch gynalyddion a lanswyr addas os ydych chi am danio olwynion catherine neu rocedi
Beth fydd arnoch chi eu hangen ar y noson
Mae’n hawdd dod o hyd i ychydig o eitemau addas yn y cartref, megis y canlynol:
- blwch metel caeedig i storio’r tân gwyllt ynddo – tynnwch nhw allan un ar y tro
- bwced o ddŵr – i oeri ffyn gwreichion ac i ddiffodd unrhyw danau bychain
- eitemau i amddiffyn y llygaid a menig
- bwced o bridd i roi tân gwyllt ynddo
Tanio tân gwyllt
Dilynwch y canllawiau syml canlynol i gadw’n ddiogel:
- dim ond un person a ddylai fod yn gyfrifol am danio tân gwyllt
- peidiwch ag yfed alcohol os ydych chi'n tanio tân gwyllt
- taniwch dân gwyllt hyd braich i ffwrdd, gan ddefnyddio tapr
- sicrhewch fod pawb yn sefyll yn ddigon pell yn ôl
- peidiwch byth â dychwelyd at dân gwyllt sydd wedi'i gynnau - hyd yn oed os nad yw wedi tanio, mae'n dal yn bosib iddo ffrwydro
Ffyn gwreichion
Mae ffyn gwreichion yn hwyl, ond cofiwch wneud y canlynol bob amser:
- goruchwylio plant sy’n dal ffyn gwreichion, a pheidio â’u rhoi i blant iau na phum mlwydd oed
- tanio ffyn gwreichion un ar y tro a gwisgo menig
- rhoi ffyn gwreichion sydd wedi cael eu defnyddio â’u pennau i lawr mewn bwced o dywod neu o ddŵr
Awgrymiadau eraill ar y noson
Yn olaf, dilynwch y rheolau eraill hyn er mwyn cael noson ddiogel:
- cadwch anifeiliaid anwes o dan do – mae’r golau a'r sŵn y mae tân gwyllt yn eu gwneud yn codi ofn ar y rhan fwyaf o anifeiliaid
- peidiwch byth â rhoi tân gwyllt yn eich poced na'u taflu
- peidiwch byth â thaflu tân gwyllt sydd wedi eu defnyddio ar goelcerth
- cymrwch ofal pan yn agos i goelcerth – gall pob dilledyn fynd ar dân, hyd yn oed y rhai â label arnynt yn dweud na fyddant yn mynd ar dân yn hawdd
Tân gwyllt a'r gyfraith
Mae cyfraith i’w chael ynglŷn â phryd y gellir gwerthu tân gwyllt, ac i bwy – yn ogystal â’r amser y gellir tanio tân gwyllt.
Os ydych chi o dan 18 mlwydd oed
Os ydych chi o dan 18 mlwydd oed, ni allwch chi wneud y canlynol:
- prynu’r mathau o dân gwyllt sydd ond yn cael eu gwerthu i oedolion
- bod â thân gwyllt mewn mannau cyhoeddus
Os ydych chi’n gwneud yr uchod, gall yr heddlu roi dirwy o £80 i chi yn y fan a’r lle.
Defnyddio tân gwyllt yn gyfreithlon
Mae’r canlynol yn anghyfreithlon:
- tanio tân gwyllt neu eu taflu ar y stryd neu mewn man cyhoeddus arall
- tanio tân gwyllt rhwng 11.00 pm a 7.00 am – heblaw yn ystod dathliadau penodol
Os cewch chi eich canfod yn euog gan y llysoedd, gallwch gael dirwy o hyd at £5,000 a gallwch gael eich carcharu am hyd at chwe mis. Mae’n bosib y cewch ddirwy o £80 yn y fan a’r lle.
Pryd y cewch chi ddefnyddio tân gwyllt yn ystod dathliadau
Cewch danio tân gwyllt:
- tan hanner nos ar Noson Tân Gwyllt
- tan 1.00 am ar Nos Galan, Diwali a'r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd
Pryd y cewch chi brynu tân gwyllt
Gall tân gwyllt ar gyfer defnydd preifat ond gael eu gwerthu gan werthwyr cofrestredig ar yr adegau canlynol:
- rhwng 15 Hydref a 10 Tachwedd – o gwmpas Noson Tân Gwyllt
- rhwng 26 Rhagfyr a 31 Rhagfyr – ar gyfer Nos Galan
- tri diwrnod cyn Diwali a’r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd
Am weddill y flwyddyn, byddwch chi ond yn gallu prynu tân gwyllt o siopau sydd â thrwydded i’w cyflenwi nhw.
Os ydych chi’n credu fod siop yn anghofrestredig, neu’n gwerthu tân gwyllt pan na ddylent, cysylltwch â Swyddog Safonau Masnach eich cyngor. Bydd gan eich cyngor hefyd restr o werthwyr cofrestredig.
Anifeiliaid ac anifeiliaid anwes
Mae yn erbyn y gyfraith i achosi unrhyw ddioddefaint diangen i unrhyw anifail dof neu gaeth. Y gosb os cewch eich canfod yn euog yw un ai carchar am hyd at 51 wythnos, neu ddirwy o hyd at £20,000, neu'r ddau
Arddangosiadau tân gwyllt ar gyfer y cyhoedd
Os ydych chi’n trefnu arddangosiad tân gwyllt ar gyfer y cyhoedd, gweler 'Trefnu arddangosiad tân gwyllt’ i gael cyngor ar sut i’w gynnal yn ddiogel ac yn llwyddiannus.