Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Lles anifeiliaid a chyngor

Dan y Ddeddf Lles Anifeiliaid, mae’n anghyfreithlon i fod yn greulon i anifail. Os ydych yn berchen ar anifail, rhaid i chi sicrhau eich bod yn diwallu ei anghenion o safbwynt lles. Yma, cewch wybod beth yw’ch cyfrifoldebau yn ôl y gyfraith a lle i gael help os bydd arnoch ei angen.

Deddf Lles Anifeiliaid 2006

Chi sydd yn gyfrifol am les eich anifail anwes dan y Ddeddf Lles Anifeiliaid.

Golyga hyn fod yn rhaid i chi ofalu am eich anifail anwes drwy sicrhau:

  • deiet addas, gan gynnwys dŵr ffres
  • fod ganddo rywle priodol i fyw
  • y caiff ei gadw gydag anifeiliaid eraill, neu ar wahân iddynt, yn dibynnu ar ei anghenion
  • fod ganddo’r hawl i fynegi’i hun ac ymddwyn yn normal
  • y caiff ei amddiffyn a’i drin rhag afiechydon ac anafiadau

Dywed y Ddeddf hefyd fod yn rhaid i chi fod yn hŷn na 16 oed i brynu anifail.

Pwy sy'n gorfodi lles anifeiliaid

Mae gan gynghorau lleol, swyddogion iechyd anifeiliaid a’r heddlu yr hawl i orfodi’r Ddeddf Lles Anifeiliaid. Os byddwch yn greulon i anifail neu nad ydych yn darparu’i anghenion lles, gallech gael eich gwahardd rhag bod yn berchen ar anifeiliaid. Neu, gallech gael dirwy o hyd at £20,000 a/neu’ch anfon i’r carchar am hyd at chwe mis.

Mae cynghorau hefyd yn cyflwyno trwyddedau i helpu gyda rheoleiddio lles anifeiliaid, gan gynnwys trwyddedau ar gyfer:

  • canolfannau marchogaeth
  • canolfannau bridio cŵn
  • canolfannau lletya anifeiliaid
  • siopau anifeiliaid anwes

Am ragor o wybodaeth ynghylch y Ddeddf Lles Anifeiliaid a sut y mae’n effeithio arnoch chi fel perchennog anifail anwes, ewch i wefan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra).

Gallwch hefyd gael gwybodaeth gan eich cyngor lleol drwy ddilyn y ddolen isod.

Rhoi gwybod am greulondeb i anifeiliaid

Os ydych yn amau bod anifail yn cael ei esgeuluso neu’n dioddef creulondeb, nodwch yr hyn yr ydych wedi’i weld. Yna, ffoniwch llinell creulondeb a chyngor 24-awr y Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid (RSPCA) ar 0300 1234 999. Bydd gofyn i chi roi disgrifiad manwl am yr hyn a welsoch neu a glywsoch.

Lle bo angen, daw person sydd wedi'i hyfforddi i drin anifeiliaid i nôl yr anifail a'i roi mewn lloches anifeiliaid.

Gall sefydliadau fel yr RSPCA ofyn am help awdurdodau lleol neu’r heddlu os oes angen. Mae’n bosib y byddant yn gofyn am gymorth os bydd angen mynediad arnynt i adeilad neu’n cael eu bygwth yn gorfforol gan y perchennog.

Cymorth wrth ofalu am eich anifail anwes

Os ydych yn cael problemau yn gofalu am eich anifail anwes, mae nifer o rwydweithiau ac elusennau cymorth anifeiliaid ar gael i’ch helpu chi. Gofynnwch i’ch milfeddyg lleol am gyngor, neu cysylltwch ag un o’r sefydliadau sydd wedi’u rhestru yn y dolenni isod.

Mae’r Blue Cross a’r Gymdeithas Frenhinol er atal Creulondeb i Anifeiliaid yn gweithio i atal creulondeb i anifeiliaid ac yn rhoi cymorth a chyngor ar ofalu am anifeiliaid anwes ac anifeiliaid eraill.

Ymddiriedolaeth Cinnamon yw’r elusen genedlaethol ar gyfer yr henoed a’u hanifeiliaid anwes.

Os ydych yn teimlo na allwch ofalu am eich anifail anwes mwyach, dylech gysylltu â lloches anifail lleol neu’r RSPCA. Byddant yn gwneud eu gorau glas i ddod o hyd i gartref newydd i’ch anifail anwes.

Gwneud yn siŵr bod eich anifail anwes yn cael gofal pan fyddwch chi oddi cartref

Bydd angen i chi sicrhau bod eich anifail anwes yn cael gofal os byddwch chi’n mynd i ffwrdd, er enghraifft ar wyliau neu i'r ysbyty am gyfnod hir. Os na fydd aelod o’r teulu, cymydog da neu ffrind yn gallu gofalu am eich cath neu’ch ci, gallech gysylltu â lle sy’n gofalu am gŵn neu gathod dros dro. Dylech allu dod o hyd i fanylion y rhain yn eich llyfr ffôn lleol, neu gofynnwch i’ch milfeddyg.

Rhoi gwybod am gŵn neu gathod sy'n crwydro

Rhoi gwybod am gi sy’n crwydro i’r cyngor lleol

Eich cyngor sy’n gyfrifol am ddelio â chŵn sy’n crwydro. Fodd bynnag, ni fyddant yn delio â chathod sy'n crwydro a byddant fel arfer yn cyfeirio pobl at yr RSPCA neu Cats Protection – mudiad elusennol sy’n helpu i ailgartrefu cathod sy’n crwydro.

Os ydych chi'n poeni am anifail sy'n crwydro, gallwch ffonio llinell gymorth yr RSPCA. Lle bo angen, daw person sydd wedi'i hyfforddi i drin anifeiliaid i nôl yr anifail a'i roi mewn lloches anifeiliaid.

Gallwch gysylltu â'r RSPCA drwy ffonio 0300 1234 999 neu gallwch ymweld â'u gwefan drwy ddefnyddio'r ddolen isod.

Allweddumynediad llywodraeth y DU