Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Rheoli eich ci yn gyhoeddus

Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod eich ci yn bihafio yn gyhoeddus. Dylech hefyd fod yn ymwybodol o unrhyw Orchmynion Rheoli Cŵn lleol. Os oes arnoch angen cymorth wrth hyfforddi eich ci, gallwch gysylltu â hyfforddwr cŵn lleol drwy chwilio yn eich llyfr ffôn neu ar y we.

Cŵn sy’n ddi-reolaeth

Mae'n drosedd caniatáu i gi o unrhyw fath neu frîd fod yn beryglus o ddi-reolaeth:

  • mewn man cyhoeddus – megis stryd, parc, lloches bysiau neu rannau cyffredin bloc o fflatiau (fel y fynedfa neu’r grisiau)
  • mewn man preifat lle nad oes gan y ci hawl i fod yno

Mae caeau, llwybrau troed a thraethau hefyd yn ardaloedd cyhoeddus.

Beth yw ystyr ‘di-reolaeth’?

Mae eich ci yn beryglus o ddi-reolaeth os bydd:

  • yn anafu rhywun, neu
  • yn ymddwyn mewn modd sy’n gwneud i rywun boeni y bydd ci yn ei anafu – hyd yn oed os ydyw yng nghartref neu yng ngardd perchennog y ci.

Os byddwch yn defnyddio eich ci i anafu rhywun, gallwch chi gael eich cyhuddo o ‘glwyfo maleisus’. Gallwch chi gael carchar am hyd at bum mlynedd am wneud hyn.

Anifeiliaid pobl eraill

Gallai llys farnu bod eich ci yn beryglus o ddi-reolaeth os bydd:

  • yn anafu anifail rhywun arall
  • perchennog yr anifail yn credu y gallai gael ei anafu wrth geisio atal eich ci rhag ymosod ar ei anifail.

Dirwyon

Gall unrhyw un riportio ci a’i berchennog i’r heddlu.

Os cewch eich canfod yn euog o fod â chi sy’n ddi-reolaeth mae’n bosib y byddwch yn wynebu dirwy o hyd at £1000 a/neu garchar. Mae hefyd yn bosib na chewch chi fod yn berchen ar gi yn y dyfodol.

Mae’r gyfraith ynglŷn â chŵn di-reolaeth i’w gweld yn adran 3 o Ddeddf Cŵn Peryglus 1991.

Gorchmynion Rheoli Cŵn

Mae gan awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr y pŵer i roi Gorchmynion Rheoli Cŵn. Golyga hyn y gall un (neu fwy) o’r rheolau isod fod yn berthnasol mewn rhai ardaloedd cyhoeddus:

  • cadw eich ci ar dennyn
  • rhoi tennyn ar eich ci pan fo’r heddlu, swyddog cymorth cymunedol yr heddlu neu rywun sydd wedi ei awdurdodi gan y cyngor yn dweud wrthych chi am wneud hynny
  • peidio â gadael i’ch ci fod ar dir na ddylai fod arno - megis tir fferm
  • cyfyngu ar y nifer o gŵn sydd gyda chi ar unrhyw bryd - mae hyn yn cynnwys cerddwyr cŵn ‘proffesiynol’
  • clirio ar ôl eich ci

Tir preifat

Nid yw gorchmynion Rheoli Cŵn yn berthnasol i dir preifat lle mae perchennog y tir, neu’r unigolyn sy’n rheoli’r tir, wedi rhoi ei ganiatâd.

Hysbysiadau cosb penodedig a dirwyon

Gall swyddog awdurdodedig neu blismon (neu swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu) roi dirwy o £50 yn y fan a’r lle (‘hysbysiad cosb penodedig’).

Os ewch chi i’r llys, ac os cewch eich canfod yn euog, gallwch gael dirwy o hyd at £1000.

Mae perchnogion cŵn dall cofrestredig wedi’u heithrio rhag cael eu cosbi.

Cael gwybod am orchmynion Rheoli Cŵn yn eich ardal chi

Mae’n rhaid i gynghorau roi gwybod i’r cyhoedd ym mha ardaloedd y mae Gorchmynion Rheoli Cŵn yn berthnasol.

Gorchmynion newydd

Os yw eich cyngor yn bwriadu gwneud gorchymyn yn weithredol yn lleol, mae’n rhaid iddynt gyhoeddi ‘hysbysiad’ yn gyntaf – fel arfer mewn papur newydd lleol ac ar wefan y cyngor. Mae’n rhaid i’r gorchymyn gynnwys:

  • manylion yr ardal y mae’r gorchymyn yn berthnasol iddi
  • os cyfeirir at fap, dweud ble y gallwch ei weld (megis swyddfeydd eich cyngor)
  • cyfeiriad neu gyfeiriad e-bost y gallwch ysgrifennu iddo i gael dweud eich dweud – dylech gael o leiaf 28 diwrnod o ddyddiad yr hysbysiad

Ar ôl y 28 diwrnod, bydd eich awdurdod lleol yn penderfynu a fyddant yn bwrw ymlaen â’r gorchymyn ynteu’n ei ddiwygio. Os gwneir llawer o newidiadau i’r gorchymyn gwreiddiol, bydd y broses o gyhoeddi’r hysbysiad yn dechrau unwaith eto, gyda’r un amserlen.

Gwybod i ba dir y mae’r gorchymyn yn berthnasol

Dylai eich cyngor hefyd osod arwyddion sy’n rhoi gwybod i chi am orchmynion arfaethedig. Er enghraifft, os byddai gorchymyn wedi cael ei wneud yn gwahardd cŵn o barc, dylai copïau o’r gorchymyn fod wedi cael eu gosod ar fynedfeydd y parc pan wnaed y gorchymyn yn gyntaf.

Dylid gosod arwyddion parhaol sy’n rhoi gwybod i chi na chaiff cŵn fod yn y parc.

Y Cod Cefn Gwlad

Ni ddylech chi fyth ganiatáu i’ch ci gerdded yn yr un cae ag anifeiliaid fferm megis defaid a gwartheg. Mae gan ffermwyr ganiatâd i ladd eich ci os ydyw’n poeni eu da byw.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU