Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cŵn sydd wedi’u gwahardd yn y DU

Fila Braziliero

Gall unrhyw gi fod yn berygl i’r cyhoedd, ond mae mathau penodol o gŵn wedi’u gwahardd o’r Deyrnas Unedig (DU). Os ydych yn berchen ar gi sydd heb ei gofrestru ac wedi’i wahardd, rydych yn cyflawni trosedd.

Cŵn sydd wedi’u gwahardd

Mae pedwar math o gi sydd wedi'u gwahardd o'r DU:

  • Daeargi Pit Bull
  • y Tosa Japaneaidd
  • Dogo Argentino
  • Fila Braziliero

Nid yw’r un o’r cŵn hyn yn cael eu cydnabod gan y llywodraeth fel bridiau yn y DU. Mae’n anghyfreithlon bridio wrth gi sydd wedi'i wahardd, ei werthu, ei adael, a’i roi i unrhyw un.

Mae’r ddeddfwriaeth sy’n ymdrin â chŵn wedi’u gwahardd yn adran 1 ac adran 4b o Ddeddf Cŵn Peryglus 1991. Mae’r Ddeddf hefyd yn cynnwys cŵn peryglus o unrhyw frid.

Beth yw ‘math’ o gi wedi’i wahardd?

Os yw'ch ci yn un sydd wedi'i wahardd, pennir hyn wrth ei olwg yn hytrach na'r brid neu'r enw y gelwir ef.

Os yw’ch ci yn cyfateb i nifer o nodweddion Daeargi Pit Bull, gall gael ei drin fel math wedi’i wahardd, ni waeth pa frid neu fath oedd ei rieni. (Gall croesfridiau a chŵn mwngrel fod â nodweddion Daeargi Pit Bull.)

Mathau o gŵn Pit Bull

Gall mathau o gŵn Pit Bull gael eu galw yn:

  • Daeargi American Staffodshire
  • Daeargi Irish Staffodshire
  • Irish Blue neu Red Nose

Sylweddolwyd bod rhai mathau o'r ci tarw Americanaidd yn fath o’r Pit Bull.

Daeargwn Staffordshire Bull (Staffordshire Bull Terriers)

Nid yw’r Daeargi Staffordshire Bull wedi'i restri yn Neddf Cŵn Peryglus 1991. Mae gennych hawl i fod yn berchen ar y brid hwn.

Gwybod pa fath o gi sydd gennych

Os nad ydych yn siŵr pa fath o gi sydd gennych, dylech gysylltu â’r heddlu.

Beth all ddigwydd i’ch ci

Gall yr heddlu, neu warden cŵn lleol feddiannu (dal a chadw) eich ci. Gall aelod o’r cyhoedd hefyd roi gwybod i’r heddlu am eich ci. Nid oes yn rhaid i’ch ci fod yn ymddwyn yn beryglus i fod allan o reolaeth.

Os yw eich ci:

  • mewn man cyhoeddus, nid oes angen gwarant (caniatâd gan lys) ar yr heddlu i’w gymryd
  • mewn man preifat (fel eich cartref), rhaid i'r heddlu gael gwarant i fynd i mewn i’ch tŷ a mynd â'ch ci
  • mewn man preifat a bod gan yr heddlu warant ar gyfer rhywbeth arall (er enghraifft chwilio am gyffuriau), gallant fynd â’ch ci

Unwaith y bydd eich ci wedi’i gymryd, bydd yn cael ei gadw yn llety cŵn yr heddlu - gallai hyn fod am wythnosau neu fisoedd. Ni chewch ymweld â’ch ci.

Barnu a yw’ch ci yn fath sydd wedi’i wahardd

Bydd arbenigwr cŵn yr heddlu, neu arbenigwr sy’n cael ei ddefnyddio gan y cyngor yn gwneud asesiad o nodweddion corfforol eich ci. Byddant yn penderfynu ar y math o gi sydd gennych ac a yw’n ymddangos ei fod, neu y gallai fod yn berygl i'r cyhoedd. Yn dilyn yr asesiad, bydd eich ci naill ai yn:

  • cael ei ryddhau
  • yn cael ei gadw mewn llety cŵn nes bydd yr heddlu (neu'r cyngor) yn gwneud cais i lys

Gallwch ildio perchnogaeth o’ch ci, ond ni allwch gael eich gorfodi i wneud. Os byddwch, gallai eich ci cael ei ddifa heb i chi fynd i’r llys hyd yn oed.

Mynd i’r llys

Eich cyfrifoldeb chi yw profi nad yw’ch ci yn fath sydd wedi'i wahardd - gallai'r llys dderbyn hyn. Os na allwch brofi nad yw’n gi sydd wedi’i wahardd (neu eich bod yn pledio’n euog), byddwch yn cael eich dyfarnu’n euog o drosedd ac yn cael cofnod troseddol. Efallai y byddwch yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol.

Y gosb fwyaf am fod â chi sydd wedi'i wahardd yn eich meddiant yw dirwy o £5,000 a/neu 6 mis o garchar.

Bydd y llys naill ai yn:

  • gorchymyn i ddychwelyd y ci atoch os byddwch yn profi nad ydyw'n fath o gi sydd wedi'i wahardd
  • gorchymyn i’ch ci gael ei ddifa os dyfernir iddo fod yn fath o gi sydd wedi'i wahardd
  • gorchymyn eithriad os bydd o’r farn nad yw’ch ci yn berygl i’r cyhoedd a’i roi ar Fynegai’r llywodraeth o Gŵn wedi’u Heithrio

Mynegai o Gŵn wedi’u Heithrio

Dim ond ar ôl cael gorchymyn Llys y gellir ychwanegu eich ci at y Mynegai o Gŵn wedi'u Heithrio – ni allwch ofyn i roi eich ci ar y gofrestr. Byddwch yn cael gwybod sut i gael ‘Tystysgrif Eithriad’ ar gyfer eich ci yn dilyn unrhyw orchymyn llys.

Amodau o fod ar y Fynegai o Gŵn wedi’u Heithrio

Os bydd eich ci yn cael ei roi ar y rhestr, bydd yn rhaid iddo gael:

  • ei ysbaddu
  • tatŵ
  • microsglodyn
  • ei gadw ar dennyn a mwsel amdano bob amser tra’i fod mewn man cyhoeddus
  • ei gadw mewn man diogel fel na all ddianc
  • ei yswirio rhag niweidio trydydd partïon

Bydd rhaid i chi dalu am hyn.

Fel y perchennog, rhaid i chi:

  • fod wedi’ch yswirio rhag i’ch ci niweidio pobl eraill
  • fod dros 16 oed er mwyn bod yn berchen neu'n gyfrifol am y ci
  • ddangos y Tystysgrif Eithriad pan gofynnir amdano gan blismon neu warden y cyngor lleol, naill ai yn syth neu o fewn pum niwrnod
  • rhoi gwybod i’r IED os byddwch yn newid cyfeiriad yn barhaol, neu os bydd eich ci yn marw

Bydd y Tystysgrif Eithriad yn ddilys ar hyd oes y ci - cyn belled ag y bodlonir yr amodau uchod.

Teithio a gwledydd eraill

I gael gwybod pa fath o gŵn sydd wedi’u gwahardd mewn gwledydd eraill, cysylltwch â Llysgenhadaeth (sydd wedi’i lleoli yn y DU) y wlad berthnasol

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU