Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Cŵn sy’n crwydro a chŵn sydd ar goll

Ci sy’n crwydro yw ci sydd heb ei berchennog mewn man cyhoeddus (neu mewn man preifat lle nad oes hawl ganddo fod). Yma, cewch wybod beth i’w wneud os byddwch yn dod o hyd i gi sy'n crwydro, beth sy’n digwydd pan fyddant yn cael eu dal, a beth i'w wneud os bydd eich ci yn mynd ar goll.

Rhoi gwybod am gi sy'n crwydro

Os byddwch yn dod o hyd i gi sy’n crwydro, dylech:

  • gysylltu â’r perchennog os yw’n bosib – os yw’r ci yn gwisgo coler â thag dylai manylion y perchennog fod arno, neu
  • cysylltwch â’ch cyngor – byddant yn trefnu i warden cŵn i ddod i nôl y ci

Mae wardeiniaid cŵn yn arbenigo mewn dal cŵn sy’n crwydro ac yn defnyddio peiriannau sganio i wybod a oes gan y ci ficrosglodyn (sy’n cynnwys manylion cyswllt y perchennog).

Dim ond yn ystod oriau swyddfa mae’r mwyafrif o wasanaethau warden cŵn ar gael, fel arfer rhwng 9am a 4pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Os byddwch yn dod o hyd i gi sy’n crwydro y tu allan i oriau swyddfa, dylai gwefan eich cyngor ddweud wrthych lle i fynd ag ef.

Cartrefi cŵn a llochesi anifeiliaid

Fel arfer, bydd cartrefi cŵn a llochesi anifeiliaid ond yn cymryd cŵn nad yw eu perchnogion am eu cadw neu’n methu eu cadw mwyach. Bydd rhai cartrefi cŵn yn cymryd cŵn sy’n crwydro mewn argyfwng – er enghraifft os na fydd warden cŵn ar gael.

Gallwch ddod o hyd i'ch cartref cŵn neu’ch lloches anifeiliaid lleol yn eich llyfr ffôn neu drwy chwilio ar-lein.

Rôl yr heddlu

Ni ddylech fynd â chi sy’n crwydro i orsaf heddlu. Mae’r heddlu’n gyfrifol am ddelio â chŵn sydd wedi’u gwahardd a chŵn sy’n berygl i’r cyhoedd. Fodd bynnag, os bydd ci’n crwydro ar dir ysgol neu'n ymyrryd â llif traffig (ac nad yw'r warden cŵn ar gael), cysylltwch â'r heddlu.

Os bydd eich ci yn mynd ar goll

Chi sy’n gyfrifol am sicrhau bod eich ci yn gwisgo coler â thag tra byddant mewn man cyhoeddus, fel y gall eich ci gael ei ddychwelyd atoch os bydd ar goll. Os bydd eich ci yn mynd ar goll, gallwch wneud y canlynol:

  • cysylltu â gwasanaeth warden cŵn eich cyngor a gofyn a yw’r ci gyda nhw
  • holi eich milfeddygfa a chwilio ar hysbysfyrddau eich siop neu'ch archfarchnad leol - mae'n bosib y bydd rhywun wedi gosod hysbyseb eu bod wedi dod o hyd i gi

cysylltu â'r cartref cŵn neu'r lloches anifeiliaid lleol i ofyn a oes rhywun wedi mynd â’ch ci yno

Os oes gan warden cŵn eich ci, anfonir ('cyflwynir') hysbysiad swyddogol i chi i ddod i’w nôl. Mae’n debygol y codir tâl arnoch chi am y cyfnod y'i cedwir. Yn ôl y gyfraith, gall cyngor gadw'ch ci nes y byddwch wedi talu unrhyw gostau.

Os na fyddwch yn nôl eich ci cyn pen saith niwrnod o’r hysbysiad, bydd y warden cŵn yn ceisio dod o hyd i gartref newydd iddo.

Cadw ci sy’n crwydro

Gallwch gadw ci sy’n crwydro dros dro yn eich cartref tra byddwch yn ceisio cysylltu â’r perchennog neu’r gwasanaeth warden cŵn (sy’n orfodol).

Mae’n bosib y gallwch fabwysiadu’r ci os na ellir dod o hyd i’r perchennog gwreiddiol neu os nad ydynt yn hawlio’r ci cyn pen saith niwrnod. Dylech ddweud wrth y warden cŵn os carech fabwysiadu’r ci. Fodd bynnag, ni fydd y berchnogaeth gyfreithiol byth yn cael ei throsglwyddo i chi. Golyga hyn y gall y perchennog gwreiddiol hawlio ei gi yn ôl ar unrhyw amser – hyd yn oed os ydych wedi cael y ci am fisoedd neu am flynyddoedd.

Os oes anghydfod ynghylch pwy sy’n berchen ar y ci, bydd angen llys sifil i ddatrys y mater.

Allweddumynediad llywodraeth y DU