Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Bod yn berchen ar geffyl

Mae gofalu am geffyl yn golygu dipyn o ymrwymiad o ran amser ac arian. Cewch yma wybodaeth ynghylch lle i gael cyngor am fod yn berchen ar geffyl. Hefyd, cewch wybod lle gallwch gadw eich ceffyl a beth mae'r gyfraith yn gofyn i chi ei wneud, fel cael pasbort ceffyl.

Gofalu am geffyl neu ferlen

Os ydych chi'n ystyried prynu ceffyl neu ferlen, byddwch yn gyfrifol am ofalu am yr anifail. Mae hynny'n cynnwys ei fwydo a gwneud yn siŵr ei fod yn cael ymarfer corff. I gael gwybod beth mae'r gyfraith yn ei ddweud am eich cyfrifoldebau fel perchennog anifail, ewch i 'Lles anifeiliaid a chyngor'.

Ceisio cyngor

Os nad oes gennych brofiad blaenorol, dylech geisio cyngor ynghylch beth mae bod yn berchen ar geffyl yn ei olygu. Mae mudiadau fel Cymdeithas Ceffylau Prydain a'r Cyngor Cenedlaethol Lles Ceffylau yn cynhyrchu canllawiau manwl ar ofalu am geffylau.

Ymweld â stablau ceffylau lleol

Un ffordd arall o gael syniad o'r hyn sydd ynghlwm wrth ofalu am geffyl yw ymweld â stablau. Chwiliwch ar-lein neu edrychwch yn y llyfr ffôn i gael manylion stablau yn eich ardal leol ac i drefnu ymweliad. Gofynnwch gewch chi siarad â phobl sy'n berchen ar geffyl i gael cyngor am gadw ceffylau. Bydd hyn yn eich helpu i benderfynu a oes gennych chi ddigon o amser ac adnoddau i fod yn berchen ar geffyl neu ferlen.

Cadw eich ceffyl mewn ysgolion marchogaeth a stablau cymeradwy

Efallai y byddwch yn dewis cadw eich ceffyl mewn ysgol farchogaeth neu mewn stablau sy'n codi tâl am ofalu am eich anifail. Mae'n bosib y byddant yn darparu:

  • stablau a chyfleusterau marchogaeth
  • man hyfforddi ar gyfer eich ceffyl
  • caeau ar gyfer pori

Gwneud yn siŵr bod eich ysgol farchogaeth wedi'i thrwyddedu gan eich cyngor lleol

Mae'n bwysig gwneud yn siŵr bod yr ysgol farchogaeth a'r stablau'n addas ar gyfer cadw eich ceffyl. Yn ôl y gyfraith, dylai pob ysgol farchogaeth gael ei thrwyddedu gan y cyngor lleol. Does dim rhaid i stablau sy'n gofalu am geffylau am dâl fod wedi'u trwyddedu.

Ni fydd cyngor lleol yn rhoi trwydded oni fydd yr ysgol farchogaeth yn bodloni safonau penodol, gan gynnwys y canlynol:

  • bod rhywun sy'n gymwys neu sy'n meddu ar y profiad angenrheidiol yn ei rhedeg
  • bod y ceffylau'n cael eu cadw'n iach a'u bod mewn lleoliad gyda digon o le nad yw'n orlawn o anifeiliaid
  • bod y ceffylau'n cael digon o fwyd a dŵr

Safonau ar gyfer ysgolion marchogaeth a stablau cymeradwy

Bydd rhai ysgolion marchogaeth neu stablau sy'n cadw ceffylau am dâl yn cael cymeradwyaeth ychwanegol gan fudiadau megis Cymdeithas Ceffylau Prydain neu Gymdeithas Ysgolion Marchogaeth Prydain. Bydd ysgolion neu stablau cymeradwy yn cynnwys y canlynol yn eu safonau:

  • rhoi'r holl reoliadau iechyd a diogelwch perthnasol ar waith
  • codi yswiriant rhag ofn i aelod o'r cyhoedd ddioddef anaf ar y safle
  • sicrhau bod ceffylau a merlod yn cael gofal digonol

Dilynwch y dolenni isod i gael manylion cyswllt ysgolion marchogaeth cymeradwy a stablau sy'n codi tâl am gadw ceffylau.

Pasbortau ceffylau

Rhaid i bob ceffyl, merlen ac asyn yng Nghymru a Lloegr gael pasbort. Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod pam mae pasbortau ceffylau'n bwysig a beth maent yn ei gynnwys.

Allweddumynediad llywodraeth y DU