Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae prynu ci yn benderfyniad mawr. Os oes gennych chi’r amser, yr arian a’r ymrwymiad, dewiswch anifail a fydd yn gweddu i’ch ffordd o fyw ac i’ch cartref. Gallwch brynu ci gan fridiwr, o loches anifeiliaid neu drwy werthiant preifat, a cheir camau y gallwch eu cymryd os ydych chi’n anhapus gyda gwerthwr
Ceir nifer o fudiadau ac elusennau yn y DU sy’n gofalu am gŵn sydd wedi cael eu gadael, sydd ar goll, neu gŵn nad oedd ar eu perchnogion eu heisiau. Maent yn llefydd da i brynu ci, a byddwch yn ailgartrefu ci a fyddai’n cael ei roi i gysgu fel arall, o bosib.
Gallwch chwilio ar y we am ganolfannau ailgartrefu lleol, neu cysylltwch ag un o’r prif fudiadau megis y Dogs Trust neu Gartref Cŵn a Chathod Battersea. Bydd mudiadau ailgartrefu yn gwneud yn siŵr eich bod yn medru gofalu am y ci a bod eich cartref a’ch ffordd o fyw yn addas.
Gallwch chi ddod o hyd i glybiau brîd ar wefan y Kennel Club neu drwy gysylltu â nhw ar 0870 6066750.
Y ffordd orau o brynu ci pedigri yw drwy glwb brîd. Bydd clwb brîd yn gallu rhoi gwybod i chi am brif nodweddion y brîd, ac am unrhyw broblemau posib sy’n gysylltiedig â’r brîd. Gallant hefyd roi manylion cyswllt bridwyr i chi.
Yn ogystal â siarad â chlwb brîd, gallech ofyn i’ch milfeddyg lleol a ydyw’n gwybod am unrhyw fridwyr cyfrifol. Bydd y milfeddyg hefyd yn gwybod os oes unrhyw broblemau meddygol cyffredin yn y math o gi y mae arnoch ei eisiau.
Dylech gymryd gofal ychwanegol wrth brynu ci bach gan fridiwr. Os ydych chi am brynu gan fridiwr, dyma rai o’r pethau y dylech eu gwneud:
Mae Deddf Bridio Cŵn 1999 yn nodi na ddylai geist gael eu paru nes byddant o leiaf yn flwydd oed. Hefyd, ni ddylent gael mwy na chwe thorllwyth yn eu bywydau a dim mwy nag un dorllwyth y flwyddyn.
Os ydych chi’n prynu ci bach o siop anifeiliaid anwes, neu o hysbyseb mewn papur newydd neu ar wefan, sicrhewch nad yw'r gwerthwr yn cynnig amrywiaeth eang o fridiau. Mae’n bosib bod y ci bach wedi dod o ‘fferm fridio cŵn bach’. Fferm fridio cŵn bach yw’r enw a roddir ar le sy’n bridio cŵn am elw heb fawr o bryder am eu lles.
Dylai’r unigolyn sy’n gwerthu’r ci yn y siop fod â chofnodion bridio’r ci. Dylech chi dal ddilyn y canllawiau sydd wedi’u nodi yn yr adran ‘Prynu ci bach gan fridiwr’ uchod.
Nid oes angen trwydded ar rywun sydd am werthu ci y mae ei ast ef wedi rhoi genedigaeth iddo yn breifat.
Mae angen trwydded gan y cyngor lleol ar unrhyw un sy’n bridio ac yn gwerthu cŵn fel busnes (lle y cedwir mwy na dwy ast er mwyn bridio ar gyfer gwerthu). Mae’r rheol hon yn bodoli i sicrhau fod pobl yn magu ac yn gofalu am gŵn yn iawn.
Mae gan eich cyngor lleol y pŵer i archwilio safonau lles a llety’r cŵn. Gallant gael gwarant (caniatâd gan y llys) i fynd i mewn i unrhyw adeilad y maent yn credu bod bridio cŵn yn digwydd yno - heblaw am dŷ preifat.
Gallwch riportio siop neu fusnes i’ch swyddfa safonau masnach leol. Neu, os ydych chi’n credu bod rhywun yn bridio cŵn yn anghyfreithlon, cysylltwch â’ch cyngor.